John Roberts

 John Roberts

Swyddog Mynediad Agored a Data Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd John ag YBA ym mis Hydref 2014.

Addysg a phrofiad gwaith

Daeth John i Aberystwyth o Langollen yn 2005 i wneud ei radd israddedig mewn Ffiseg a ni adawodd. 

Profiad a gwybodaeth

Rhoddodd ffiseg y cefndir a'r sgiliau i John weithio gyda data a'r meddylfryd i weithio'n gyson ar draws ei amrywiol dasgau o ddydd i ddydd.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae prif gyfrifoldebau John yn cynnwys cynorthwyo ymchwilwyr dros y cylch bywyd ymchwil gyda rheoli data; o gynllunio, i weithredu, a chadw. Mae'n sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi mynediad agored a dilysu cofnodion yn PURE. Mae'n cynnal hyfforddiant i staff a myfyrwyr ar arfer da ymchwil ac yn addysgu'r un peth i fodiwl ôl-raddedig. Mae'n darparu cefnogaeth defnyddwyr ar gyfer PURE a systemau eraill yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Mae hefyd yn rheoli'r gronfa ddata offer ac yn darparu adroddiadau i wahanol lefelau ar fetrigau ymchwil a DPA.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae John yn cael y mwynhad mwyaf o wneud gwaith llwyddiannus a datrys problemau.