Dr Rhys Williams BSc (Cymru), PhD (Cymru)

Dr Rhys Williams

Research Impact and Knowledge Officer

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Rhys ag YBA ym mis Tachwedd 2018. Cyn hynny bu'n gweithio yn y Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Prif gyfrifoldeb Rhys oedd rheoli'r gwaith o dderbyn ymgeiswyr ôl-raddedig.

Addysg a phrofiad Gwaith

Enillodd Rhys BSc mewn Ffiseg a Ffiseg y Planedau a’r Gofod ac yna PhD mewn Ffiseg Hylosgiad yn Aberystwyth. Tra'n yr Adran Ffiseg bûm yn ymwneud â gweithgareddau ehangu 'Infinity' a sefydlwyd gan Tudor Jenkins a Steve Fearn. Ar ôl cyfnod yn gweithio ar wahanol brosiectau fel cynorthwyydd ymchwil yn y Grŵp Ffiseg Sioc a Detoneiddiadau, cyn symudodd i rôl weinyddol yn y Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd.

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Rhys brofiad o ymdrin â gwahanol gronfeydd data lle ‘roedd angen casglu a chynnal y data a hefyd defnyddio adroddiadau er mwyn gwneud penderfyniadau ar sail y data hwnnw. Mae Rhys wedi ymdrin â’r cyhoedd a’u cysylltu â phwnc gwyddonol, sef Ffiseg. Mae wedi gweithio mewn maes ymchwil oedd â chysylltiadau clos â diwydiant, gan rannu arbenigaeth a gweld effaith yr ymchwil. Mae wedi creu a chynnal gwefannau.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Gan weithio'n agos gyda'r Swyddogion Effaith Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth eraill, mae Rhys yn gyfrifol am nodi a datblygu astudiaethau achos effaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Ei brif ffocws yw Cyfrifiadureg, Mathemateg, Ffiseg, Gwyddorau Bywyd ac IBERS. Golyga hyn ei fod yn gweithio gyda'r Deoniaid Cyswllt (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi) a Chyfarwyddwyr Ymchwil adrannol i hyrwyddo cofnodi data a thystiolaeth ymchwil. Ynghyd â'r Swyddogion Effaith Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth eraill, gall Rhys ddarparu hyfforddiant mewnol ar effaith ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth i staff academaidd, cynorthwywyr ymchwil a myfyrwyr Doethurol.

Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Y wyddoniaeth.