Pwll Nofio a Sawna
Pwll nofio’r Ganolfan Chwaraeon yw cartref y gwersi nofio a’r gweithgareddau pwll yn Aberystwyth. Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn cynnig dosbarthiadau wythnosol a phob yn ail wythnos gan gynnwys Ffitrwydd Dŵr, Ymarfer Corff Dŵr a Nofio Treiathlon. Yn ogystal â’r dosbarthiadau hyn y mae’r Ganolfan Chwaraeon yn eu cynnal, mae nifer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn cynnal gweithgareddau rheolaidd megis Sub Aqua, Nofio a Pholo Dŵr ac Octopush (Hoci o dan y dŵr).
Archebwch eich amser nofio ar-lein neu ffoniwch ni ar 01970 62280.