Ein Dosbarthiadau

Mae gan Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth ystod o ddosbarthiadau ffitrwydd sy'n cynnwys dosbarth Troelli, Ffitrwydd ac Aerobig yn ogystal â Pilates a Ioga.
Edrychwch ar yr amserlen ddyddiol lawn isod. Archebwch eich lle ar-lein neu ffoniwch ni ar 01970 622280.
Gall unigolion nad ydynt yn aelodau fynychu rhai dosbarthiadau sy'n hysbysebu talu wrth fynd yn yr amserlen ddyddiol. Bydd yn rhaid i gwsmeriaid dalu â cherdyn yn y Dderbynfa (ni ellir derbyn arian parod) a chofrestru ar https://evepass.app/ at ddibenion profi ac olrhain. Bydd cwsmeriaid yn clicio'r cod QR wrth gyrraedd i nodi eu bod yn mynychu'r dosbarth.