Cwestiynau Cyffredin Strwythur Aelodaeth
Gwybodaeth Strwythur Aelodaeth o Fedi 2026.
Pam mae rhai o'r Cynlluniau Aelodaeth yn newid?
Rydym yn symleiddio ein strwythur aelodaeth i'w gwneud hi'n haws i gwsmeriaid ddod o hyd i'r aelodaeth fwyaf priodol ar gyfer eu hoedran, statws addysg, neu grŵp cyflogaeth. Bydd y newidiadau hyn yn creu ystod gliriach a mwy cyson o opsiynau aelodaeth wrth symud ymlaen.
Beth yw'r prif newidiadau i'r strwythur aelodaeth presennol?
Bydd y cynlluniau Aelodaeth Campfa Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed mewn Addysg Uwchradd yn cael eu dirwyn i ben. Bydd unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ac sy'n dal i fod mewn Addysg Uwchradd neu mewn Addysg Amser Llawn bellach yn gymwys ar gyfer y cynllun Aelodaeth Myfyrwyr.
Ar yr un pryd, bydd yr aelodaeth a elwid yn flaenorol yn Aelodaeth Campfa Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 14-15 oed yn cael eu hailenwi’n Aelodaeth Iau, gan greu gwahaniaeth cliriach rhwng aelodau iau a'r rhai sy'n gymwys ar gyfer Aelodaeth Myfyrwyr.
Yn ogystal, bydd y cynllun Aelodaeth Gyswllt yn cael ei ddirwyn i ben a'i ymgorffori yn y cynllun Aelodaeth Gorfforaethol. Bydd aelodau a fyddai wedi bod yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Gyswllt yn flaenorol bellach yn ymuno o dan y categori Aelodaeth Gorfforaethol.
Bydd yr aelodaeth bresennol Staff Wedi Ymddeol hefyd yn cael ei hailenwi’n aelodaeth Wedi Ymddeol. Mae'r newid hwn yn golygu na fydd yr aelodaeth bellach yn gyfyngedig i gyn aelodau staff y Brifysgol, a bydd unrhyw un sydd wedi ymddeol yn gymwys i ymuno o dan y categori hwn.
Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno i ddarparu strwythur aelodaeth cliriach, symlach a mwy cyson i gwsmeriaid a staff.
Beth fydd enwau'r Cynlluniau Aelodaeth o 1 Medi 2026?
O 1 Medi 2026 ymlaen, bydd yr opsiynau aelodaeth yn cael eu grwpio o dan y categorïau isod:
- Aelodaeth Gymunedol
- Aelodaeth Myfyrwyr
- Aelodaeth Iau
- Aelodaeth Staff
- Aelodaeth Gorfforaethol
- Aelodaeth Wedi Ymddeol
Mae’n bosib y bydd pob categori ar gael gyda gwahanol opsiynau talu, gan gynnwys:
- 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw
- 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol
- 3 Mis Ymlaen Llaw (lle bo'n berthnasol)
- 1 Mis Ymlaen Llaw (lle bo'n berthnasol)
- 1 Mis Cyflogres (Staff yn unig)
- Tymor Preswyl (Myfyrwyr yn unig)
- Tymor Ymlaen Llaw (Myfyrwyr yn unig)
- Tymor Debyd Uniongyrchol (Myfyrwyr yn unig)
A allaf newid y math o aelodaeth sydd gennyf?
Gallwch. Os bydd eich amgylchiadau'n newid neu os ydych chi'n teimlo y byddai aelodaeth arall yn cyd-fynd yn well â'ch anghenion chi, gallwch newid i aelodaeth o fath gwahanol.
Bydd ein tîm yn hapus i drafod yr opsiynau sydd ar gael a'ch cynorthwyo i ddewis yr aelodaeth fwyaf priodol. I newid eich aelodaeth, ewch i Dderbynfa'r Ganolfan Chwaraeon a siaradwch ag aelod o staff, neu cysylltwch â ni drwy e-bost yn chwaraeon@aber.ac.uk.
