Dy Hyfforddiant Personol mewn Grwpiau Bach

HYFFORDDI'N GLYFRACH. CYNNYDD GYDA'N GILYDD.

Mae Hyfforddi Personol mewn Grwpiau Bach yn cyfuno arbenigedd a chefnogaeth Hyfforddi Personol â’r egni a’r cymhelliant sy’n dod o ymarfer corff mewn grŵp bach.

Wedi'i gynllunio i’r rhai sydd am gael mwy o strwythur, arweiniad ac atebolrwydd na’r dosbarth ffitrwydd traddodiadol, mae HP Grwpiau Bach yn cynnig hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar nodau penodol mewn amgylchedd calonogol a chefnogol. Gyda nifer cyfyngedig o gyfranogwyr, cei di adborth personol a chyfarwyddyd arbenigol, gan hefyd elwa o gyfeillgarwch wrth hyfforddi ochr yn ochr ag unigolion o'r un anian.

P'un a wyt yn cymryd dy gamau cyntaf i ymarfer corff strwythuredig, am wella dy gryfder a ffitrwydd, neu'n hyfforddi tuag at nod penodol, mae HP Grwpiau Bach yn darparu ffordd ymarferol a fforddiadwy o fynd â'th hyfforddiant i'r lefel nesaf.

PAM DEWIS HYFFORDDI PERSONOL MEWN GRWPIAU BACH?

+ PROFIAD HYFFORDDI PERSONOL - Mae ein fformat grwpiau bach yn golygu bod hyfforddwyr yn gallu darparu hyfforddiant unigol, cyngor ar dechneg ac addasiadau ymarfer corff, ac yn dal i allu creu awyrgylch grŵp hwylus ac ysgogol

+ RHAGLENNI STRWYTHUREDIG - Mae pob rhaglen yn dilyn cynllun dilyniant clir wedi'i gynllunio o amgylch canlyniadau penodol, gan helpu’r cyfranogwyr i gadw eu ffocws a chyflawni canlyniadau mesuradwy.

+ ATEBOLRWYDD A CHYMHELLIANT - Mae hyfforddiant gyda'r un grŵp bob wythnos yn helpu i gynnal cysondeb, annog ymrwymiad, a chreu cymuned hyfforddi gefnogol.

+ ADDAS I BOB GALLU - P'un a wyt yn ddechreuwr neu'n brofiadol, gellir addasu’r sesiynau i ddiwallu anghenion unigol yn ôl dy brofiad.

+ GWERTH GWYCH AM ARIAN – Cei di lawer o fanteision Hyfforddi Personol, gan rannu'r profiad a'r gost â grŵp bach o gyfranogwyr.

EIN RHAGLENNI HP GRWPIAU BACH CYFREDOL

Ein Rhaglenni HP Grwpiau Bach Cyfredol

Bydd ein rhaglenni yn newid drwy gydol y flwyddyn, gyda themâu newydd a blociau hyfforddi arbenigol yn cael eu cyflwyno'n rheolaidd.

Pecynnau Blasu Hydref 2026

Rydym wrth ein bodd yn lansio ein Pecynnau Blasu Grwpiau Bach cyntaf erioed, gan roi cyfle i gael profiad o hyfforddi personol strwythuredig mewn grŵp bach.

GWYBODAETH AM BECYNNAU BLASU'R HYDREF

Hyd y Rhaglen: Blociau 8 wythnos
 
Dyddiad Cychwyn:  Wythnos sy’n dechrau 5 Hydref 2026
NERTHREDEG Dydd Mawrth 6 Hydref - 6yh 
MENYWOD CRYF Dydd Iau 8 Hydref - 6yh 
Dyddiad gorffen: Wythnos sy’n dechrau 23 Tachwedd 2026
NERTHREDEG Dydd Mawrth, 24 Tachwedd
MENYWOD CRYF Dydd Iau 26 Tachwedd
 
Hyd y Dosbarth: Sesiwn Hyfforddi Un Awr yr wythnos
 
Cost: 

Aelodau Chwaraeon Aber: £60 y pen

Pobl heb Aelodaeth: £100 y pen

 

Bydd angen talu'n llawn wrth archebu.

NERTHREDEG - I BWY MAE'R RHAGLEN?

  • Rhedwyr hamdden
  • Rhedwyr newydd sy'n awyddus i fagu cryfder
  • Rhedwyr profiadol sydd am wella eu perfformiad
  • Rhedwyr 10K Aber

MENYWOD CRYF - I BWY MAE'R RHAGLEN?

  • Dechreuwyr hyfforddiant cryfder
  • Y rhai sydd am ddysgu’r ffordd iawn o wneud ymarferion pwysau rhydd
  • Aelodau sy'n chwilio am fwy o strwythur ac arweiniad
  • Unigolion sy'n dychwelyd i ymarfer corff ar ôl saib
  • Pawb sydd am fagu hyder mewn amgylchedd campfa