Campau’r Campws 2026

Mae ein Rhaglen Gweithgareddau Campau’r Campws yn y Brifysgol yn cynnig sesiynau chwaraeon llawn hwyl a chynhwysol i blant oed 8-14. Mae’r rhaglen di-breswyl yma yn cymryd lle ar y campws ac yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol lle bydd eich plant yn cadw’n actif, gwneud ffrindiau, ac yn datblygu sgiliau newydd ar draws amryw o chwaraeon a gweithgareddau.

Bydd staff cymwys a phrofiadol yn rhedeg y sesiynau, ac mae pob sesiwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac adeiladu hyder, gan sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau beth bynnag y gallu a’r profiad.

Mwy am Gampau'r Campws?

I gael manylion am weithgareddau a chost, darllenwch ein llythyr gwybodaeth: Campau’r Campws 2026

Sut i Gofrestru

I sicrhau lle:

  1.  Cwblhewch y Ffurflen Gofrestru Arlein
  2. Ar ôl ei gwblhau, ewch i Dderbynfa'r Ganolfan Chwaraeon (SY23 3AR) i dalu’n llawn ac i gwblhau cofrestru eich plenty.

Nodwch: Unwaith fydd y taliad wedi ei dderbyn bydd lle yn cael ei gadarnhau.

Mae Lleoedd yn Gyfynedig

Rydym yn argymell cofrestru'n gynnar i osgoi siom.

>Cofrestrwch heddiw fel y gall eich plentyn/plant fwynhau Campau’r Campws!