Oriau Agor Gŵyl y Banc mis Awst – Chwaraeon Aber

24 Awst 2026

Bydd y Ganolfan Chwaraeon ar agor fel arfer ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, â holl gyfleusterau’r gampfa a’r gweithgareddau ar yr amserlen yn rhedeg fel arfer.

Fodd bynnag, bydd y Ganolfan ar gau Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 31 Awst.  Ni fydd mynediad i'r gampfa, y dosbarthiadau, y pwll nofio na’r cyfleusterau chwaraeon ar y diwrnod hwn.

Byddwn yn ailagor fel arfer ddydd Mawrth, 1 Medi, â’r holl gyfleusterau a’r gweithgareddau yn gweithredu yn ôl yr amserlen arferol.

Oriau Agor:

  • Dydd Gwener (28/8/26):  06:00 – 21:30
  • Dydd Sadwrn (29/8/26):  08:00 – 16:30
  • Dydd Sul (30/8/26):  08:00 – 16:30
  • Dydd Llun Gŵyl y Banc (31/8/26):  Ar gau
  • Dydd Mawrth (1/9/26):  06:00 – 21:30

Diolch am eich dealltwriaeth, a gobeithio y byddwch chi'n mwynhau penwythnos Gŵyl y Banc.