Gwaith ar bwys y Ganolfan Chwaraeon i Gefnogi Llwybr Teithio Llesol Newydd

25 Awst 2026

O ddydd Llun 24 Awst, am oddeutu pythefnos, byddwn ni’n cau'r rhan o'r ffordd rhwng Maes Parcio'r Gawell Chwaraeon a'r ffordd i'r Llyfrgell Genedlaethol i alluogi'r gwaith hwn i gael ei gwblhau cyn i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ddychwelyd i'r campws. 

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd mesurau rheoli traffig dros dro ar waith: 

  • Bydd y ffordd sy'n arwain i lawr i Faes Parcio'r Gawell Chwaraeon yn gweithredu fel llwybr dwyffordd. 

  • Bydd y ffordd sy'n arwain o adeiladau Edward Llwyd a Ffiseg hefyd yn gweithredu fel llwybr dwyffordd. 

  • Bydd goleuadau traffig dros dro yn rheoli'r ddau lwybr.