11. Sylwadau rhydd – a allaf ysgrifennu beth bynnag ddymunaf?

Gallwch, ond dylai'ch adborth fod yn adeiladol, proffesiynol, cwrtais ac wedi’i gyflwyno er mwyn annog gwelliannau. Mae sylwadau a syniadau sy'n mynd i helpu'r Brifysgol yn cael eu cynnwys yn y gwaith cynllunio strategol, ac maent yn arwain at newidiadau gwirioneddol y byddwch chi, a myfyrwyr y dyfodol, yn elwa arnynt. 

Drwy fyfyrio ar eich profiad dysgu chi eich hun, a thrwy gloriannu pob modiwl, byddwch yn dod i ddeall eich dull personol chi o ddysgu, eich blaenoriaethau fel dysgwr a'ch ymateb i fathau gwahanol o ddulliau addysgu y dowch ar eu traws. 

Os oedd y modiwl yn un rhagorol a oedd yn ennyn eich diddordeb, rhowch wybod i'ch darlithwyr ba elfennau a roddodd y boddhad mwyaf ichi. Os nad yw'r modiwl wedi bodloni eich disgwyliadau, esboniwch sut y gellid gwella pethau. Wrth gynnig adborth i staff academaidd, meddyliwch am eich profiadau eich hunan o gael adborth am eich gwaith eich hun. Myfyriwch ar eich profiad yn llawn, a chynhigiwch awgrymiadau adeiladol ar sut y gellid newid pethau. A ydych chi wedi clywed am ragfarn ddiarwybod? Gall fod tueddiad i roi marciau uwch wrth werthuso modiwlau academyddion a allai fod yn nes at y ddelwedd fwy hen ffasiwn o academydd. Mae'n bwysig eich bod yn ystyried unrhyw dueddiad diarwybod ynoch at greu stereoteipiau.

Hysbysir myfyrwyr bod Penaethiaid Adrannau a'r tîm arolygu canolog yn cadw'r hawl i olygu neu ddileu  sylwadau y bernir eu bod yn annerbyniol. Gall sylwadau gael eu dileu os ydynt yn ymosodol, yn sarhaus, yn fygythiol, yn ddiangen o bersonol, neu yn niweidiol yn emosiynol. Caiff yr holl sylwadau a gyflwynir drwy'r ABM eu gwneud yn unol â'r Rheolau a Rheoliadau i Fyfyrwyr.