Adborth myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yr ydym yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn casglu ac ymateb i adborth myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae’r gwasanaeth Rhowch Wybod Nawr wedi dod i ben.
Gan weithio’n agos ag UndebAber a’n cymuned ehangach o bartneriaid myfyrwyr, rydyn ni’n datblygu dull newydd a gwell i sicrhau bod eich llais yn parhau i lunio profiad y myfyriwr yn y brifysgol.
Tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gallwch barhau i rannu eich meddyliau ac adborth gan ddefnyddio’r opsiynau isod.
I rannu eich Adborth
Eich profiad myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cysylltwch â’ch cynrychiolydd myfyrwyr.
- Mae’r myfyrwyr Cynrychiolwyr Academaidd Myyrwyr a Swyddogion Cyfadran wedi’u penodi fel y bobl orau i siarad ar ran myfyrwyr eraill.
- Ewch i Darganfod Cynrychiolwyr i gysylltu â chynrychiolydd eich cwrs.
Adborth ar y profiad addysgu a dysgu
Am sylwadau ar fodiwlau, dysgu neu eich profiad addysgu, cysylltwch yn gyntaf â
- chydlynydd eich modiwl neu
- Bennaeth yr Adran.
Gallwch hefyd gysylltu â
- Swyddog Materion Academaidd - suacademic@aber.ac.uk
- Tîm Llais y Myfyrwyr: suvoice@aber.ac.uk.
Cymorth gyda’ch cynlluniau astudio, modiwlau ac asesiadau
Cysylltwch â’r Weinyddiaeth Addysg Myfyrwyr y Gyfadran (FSEA) neu ewch i’w gweld yn:
- LF2 Adeilad Hugh Owen
- 1.15 Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- 1.12 Adeilad Edward Llwyd
Adborth cyffredinol Undeb y Myfyrwyr (gan gynnwys Clybiau a Chymdeithasau) Ebostiwch union@aber.ac.uk.
Am gymorth gyda Gwasanaethau ac Chyfleusterau
Ar gyfer materion yn ymwneud ag adeiladau, gan gynnwys tymheredd, gwaith cynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon a materion rheoli plâu, cysylltwch â Desg Gymorth Bywyd y Campws.
Cymorth gyda’ch llety
- Rhowch wybod am nam yn eich llety.
Cymorth a Chyngor
Gwybodaeth bellach ar gael am gymorth a chyngor.
Cymorth y tu allan i oriau,
- Cysylltwch â Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol ar 01970 622900.
