Pam astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Prifysgol Aberystwyth, ar arfordir gorllewin Cymru, yw eich lle chi i astudio, anturio a thyfu. Mae Aberystwyth yn ddewis gwirioneddol wych.
Ers 1872, rydyn ni wedi magu enw da ledled y byd am ragoriaeth ein dysgu a'n hymchwil arloesol. Yn ogystal ag enw da am addysgu ac ymchwil rhagorol, ein nod yw cynnig profiad myfyrwyr diguro mewn lleoliad heb ei ail.
Felly, pam dewis Prifysgol Aberystwyth?
Mae sawl rheswm pam mai Aberystwyth yw’r lle i chi allu darganfod, dysgu a thyfu.
Ein pynciau
Yn Aberystwyth, rydyn ni’n cynnig rhaglen o gyrsiau a gynlluniwyd i roi cymaint o ddewis a hyblygrwydd â phosibl. Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sy'n gweithio ar ymchwil arloesol ar lefel fyd-eang, a bydd hyn yn eich cynorthwyo i feithrin sgiliau newydd a datrys problemau yn y byd go iawn.
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ein gwaith ymchwil yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am fod yn ymchwil arweiniol ar lefel fyd-eang (FfRhY 2021). Rydym yn falch o fod wedi cyfrannu at brosiectau byd-eang sylweddol, yn cynnwys y Newid yn yr Hinsawdd a materion iechyd byd-eang. Yn Aberystwyth, cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd sy'n cymhwyso’u hymchwil i'w gwaith addysgu.
Lleoliad trawiadol i fyw a dysgu ynddo
Mae'r fro o gwmpas Aberystwyth mor hardd. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n dirwedd brydferth o fryniau tirion, dyffrynnoedd, traethau a'r môr. Nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell, chwaith. Mae ein lleoliad yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae Aberystwyth yn dref fyfyrwyr groesawgar, gynhwysol a bywiog ac yn amgylchedd diogel i gymdeithasu ynddo.
Profiad unigryw i fyfyrwyr
Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, rydym Ar y Brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr. Yn Aberystwyth, rydym yn ymdrechu i gynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i dros 100 o glybiau a chymdeithasau. Cefnogi ein myfyrwyr yw un o’n prif flaenoriaethau, ac mae tîm ymroddedig y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr yn cynnig y cyngor ymarferol, emosiynol ac ariannol angenrheidiol i'ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Yn Aberystwyth, cynigiwn ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael i roi cymorth ariannol i chi wrth astudio.
Mae ein hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau blaenllaw yn cynnwys:
- Ysgoloriaethau Rhagoriaeth
- Ysgoloriaethau Mynediad
- Gwobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol
- Ysgoloriaethau Cerdd
- Ysgoloriaethau Chwaraeon.
Sicrwydd Llety
Rydyn ni’n gwarantu llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n rhoi Aberystwyth fel eu dewis cyntaf, ac sy'n dewis byw mewn llety a reolir gan y Brifysgol. Mae yma sawl math o lety, o neuaddau arlwyo i rai hunanarlwyo, fflatiau en-suite i fflatiau stiwdio. Mae llawer o’r llety o fewn cyrraedd ar droed i brif adeiladau'r Brifysgol ac mae gan rai olygfa ysblennydd o'r môr hyd yn oed. Mae myfyrwyr sy'n byw yn llety’r brifysgol yn cael aelodaeth blatinwm am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, sy'n golygu bod ganddynt hawl heb gyfyngiad i ddefnyddio holl adnoddau’r ganolfan a'r dosbarthiadau ffitrwydd.
Astudio Dramor
Bydd myfyrwyr ar bron bob cynllun gradd yn cael cyfle i astudio neu weithio dramor. Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnwys blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys semester neu flwyddyn academaidd gyfan yn astudio yn un o'n prifysgolion partner neu'n cyflawni lleoliad profiad gwaith sy’n gysylltiedig â'ch gradd. Bydd ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn eich cynorthwyo i weld yr hyn sydd orau i chi.
Profiad gwaith a Blwyddyn mewn diwydiant
Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau israddedig a chyrsiau Meistr sy'n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant. Os nad yw eich cwrs yn cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, mae gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd amrywiaeth o leoliadau profiad gwaith i chi ddewis o’u plith. P'un a ydych yn cymryd lleoliad profiad gwaith neu'n cwblhau blwyddyn mewn diwydiant, bydd y ddau opsiwn yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol, a gwella eich CV ar ôl graddio.