Telerau ac Amodau Cynigion ar gyfer mynediad yn 2026
Cynigir pob lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y ddealltwriaeth eich bod, drwy dderbyn cynnig o'r fath, yn cytuno i'r telerau a’r amodau canlynol. Mae'r telerau a’r amodau hyn yn rhan o'r contract rhyngoch chi a'r Brifysgol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr: derbyn@aber.ac.uk neu 01970 622021, neu drwy'r post: Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL.
Eich Cynnig
1. Yn achos ymgeiswyr uniongyrchol, anfonir unrhyw gynnig lle ar un o’n rhaglenni astudio i’w cyfeiriad e-bost. Bydd ymgeiswyr sy'n gwneud cais drwy UCAS yn derbyn hysbysiad drwy UCAS. Mae'r e-bost sy’n cynnig lle (ac unrhyw wybodaeth ychwanegol gan UCAS, os yw’n berthnasol) yn cynrychioli ein "Cynnig". Bydd y Cynnig yn cynnwys (neu'n eich cyfeirio at) wybodaeth bwysig arall sy'n gysylltiedig â'r Cynnig, gan gynnwys:
- y rhaglen y cawsoch gynnig i astudio arni;
- manylion unrhyw amodau (academaidd neu fel arall, gan gynnwys y rhai a hysbyswyd gan UCAS), a fo’n berthnasol i'ch Cynnig;
- y lleoliad astudio, os yw eich cynnig yn ymwneud â chwrs a ddarperir oddi ar y safle (h.y. nid yn Aberystwyth);
- manylion y ffioedd dysgu sy'n daladwy.
2. Dim ond pan fyddwch yn bodloni union delerau eich cynnig y bydd eich lle ar y rhaglen yn cael ei warantu, oni nodir yn wahanol mewn gohebiaeth swyddogol gan y Brifysgol.
3. Os ydych yn cael cynnig ar gyfer rhaglen arall, nid oes rheidrwydd arnoch i'w dderbyn.
4. Ystyrir unrhyw geisiadau i newid eich cwrs astudio, boed hynny yn ystod y broses ymgeisio neu ar ôl cyrraedd y Brifysgol, ar yr amodau bod digon o leoedd ar gael a’ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwnnw.
5. Bydd gofyn i chi ailgadarnhau eich bod yn cytuno â thelerau ac amodau'r Brifysgol pan fyddwch yn cofrestru fel myfyriwr.
Cywirdeb Yr Wybodaeth
6. Trwy gyflwyno cais i’r Brifysgol, rydych yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a roddwyd yn wir, yn gyflawn ac yn gywir, hyd eithaf eich gwybodaeth.
7. Gall rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn, ffug neu gamarweiniol arwain at wrthod eich cais neu ei dynnu’n ôl, a bydd eich contract gyda'r Brifysgol yn cael ei derfynu. Efallai y byddwn hefyd yn gwrthod ystyried unrhyw geisiadau gennych chi yn y dyfodol.
8. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o'ch cymwysterau ac unrhyw amodau eraill a nodir yn eich cynnig pan ofynnir i chi wneud hynny. Os nad ydych yn bodloni'r amodau hyn, neu os daw adeg pan na fyddwch yn eu bodloni mwyach, neu os na ddarparwch dystiolaeth resymol o'u bodloni, mae’n bosib y bydd eich contract yn cael ei derfynu.
9. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gywiro unrhyw wallau a wnaed mewn gohebiaeth am benderfyniadau a chynigion.
Eich Statws Ffioedd
10. Wrth benderfynu ar eich statws ffioedd, mae'r Brifysgol yn dilyn y canllawiau a nodir gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (fel y'u diwygiwyd), a Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (fel y'u diwygiwyd).
11. Bydd eich statws ffioedd yn cael ei bennu naill ai yn ffioedd 'Cartref' neu 'Ryngwladol'.
12. Fel arfer, bydd eich statws ffioedd yn aros yr un fath trwy gydol eich astudiaethau. Os oes angen ailasesu eich statws ffioedd a'i newid, bydd unrhyw newidiadau i’r ffioedd yn dod i rym o ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf. Dim ond yn unol â’r rheoliadau statws ffioedd sydd mewn grym ar y pryd y bydd ailasesiadau yn cael eu cynnal.
13. Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y statws ffioedd a benodwyd i chi. Gellir gwneud apeliadau naill ai ar y sail nad yw penderfyniad y Brifysgol yn cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol, neu os oes gwybodaeth newydd wedi dod i’r amlwg a allai effeithio'n rhesymol ar y penderfyniad. I apelio, dylech gysylltu â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, drwy e-bost derbyn@aber.ac.uk neu drwy'r post: Prifysgol Aberystwyth, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3DD. Bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn cysylltu â chi o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl derbyn unrhyw ohebiaeth. Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb cyntaf yma, gallwch fynd ar drywydd y mater drwy ein proses Cwynion ac Apeliadau.
Eich Ffioedd Dysgu
14. Mae manylion ein Ffioedd Dysgu ar gael ar ein gwefan: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/
15. Sylwer, bydd ffioedd dysgu myfyrwyr israddedig sy'n talu ffioedd cartref yn seiliedig, fel arfer, ar y ffi uchaf a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n bosib y gellid cynyddu ffioedd dysgu bob blwyddyn yn unol â mynegai chwyddiant gwrthrychol a dilysadwy, megis y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) neu fesur cyfatebol arall fel y pennir gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau rheoleiddio. Bydd unrhyw newidiadau i'r ffioedd yn cael eu cyfleu'n glir ac yn agored cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y maent yn berthnasol iddi.
16. Mae ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig sy'n talu ffioedd rhyngwladol yn cael eu hadolygu bob blwyddyn gan grŵp Ffioedd ac Ysgoloriaethau'r Brifysgol.
17. Os ydych yn hunan-ariannu, mae gwybodaeth am sut i dalu eich ffioedd ar ein gwefan: www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/student-fees
Blaendaliadau ffioedd dysgu
18. Os bydd angen i chi dalu blaendal ffioedd dysgu er mwyn sicrhau eich lle, bydd yr wybodaeth honno'n cael ei chynnwys yn eich llythyr cynnig.
19. Mae blaendaliadau ffioedd dysgu yn ddarostyngedig i'r telerau a’r amodau a amlinellir yn ein Polisi Ad-daliad Blaendaliadau Rhyngwladol.
Newidiadau i'ch ffioedd
20. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd yn unol â pharagraffau 14-16.
21. Statws Ffioedd 'Cartref' Israddedig - mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad bob blwyddyn i benderfynu a ganiateir i brifysgolion yng Nghymru gynyddu ffioedd i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd 'Cartref'. Os bydd cynnydd i’r cap ffioedd neu gynnydd oherwydd chwyddiant yn cael ei gymeradwyo a’i weithredu gan y Brifysgol, bydd yn berthnasol i’r holl israddedigion â statws ffioedd ‘Cartref’, yn rhai newydd a’r rhai sydd eisoes yn astudio. Bydd y cynnydd hwn yn berthnasol i'r ffioedd cyfrannol a godir am y Flwyddyn Dramor a'r Flwyddyn mewn Gwaith. Er enghraifft, os mai £9,250 yw eich ffioedd ym mlwyddyn un, a'r cynnydd sy'n gysylltiedig â chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru yw 3% y flwyddyn, byddai eich ffi yn cynyddu i £9,528 ym mlwyddyn dau a £9,814 ym mlwyddyn tri gan roi cyfanswm o £28,592 ar gyfer rhaglen israddedig tair blynedd nodweddiadol.
22. Statws Ffioedd 'Rhyngwladol' Israddedig - nid yw ffioedd rhaglenni a godir ar y gyfradd ffioedd 'Rhyngwladol' yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac ni fyddant yn cynyddu’n flynyddol ar sail chwyddiant yn ystod eich astudiaethau. Mae hyn yn golygu y bydd y Ffi 'Ryngwladol' a godir ym mlwyddyn un yn aros ar yr un lefel trwy gydol eich rhaglen astudio.
23. Ffioedd Ôl-raddedig – 'Cartref' a 'Rhyngwladol' - Ni fydd ffioedd rhaglenni a godir am gyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir trwy gwrs yn cynyddu’n flynyddol ar sail chwyddiant yn ystod eich astudiaethau. Mae hyn yn golygu y bydd y ffi a godir yn eich blwyddyn gyntaf yn aros yr un fath ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o’ch rhaglen astudio (lle bo hynny'n berthnasol).
24. Ffioedd Dysgu o Bell - bydd ffioedd rhaglenni ar gyfer cyrsiau dysgu o bell yn cynyddu’n flynyddol ar sail chwyddiant yn ystod eich astudiaethau, fel y penderfynir gan y Brifysgol. Bydd y cynnydd hwn yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â’u cyrsiau.
Talu ffioedd
25. Sut i dalu Rhaid talu’r ffioedd dysgu ar gyfer pob blwyddyn astudio wrth gofrestru ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Rhaid talu’r ffioedd naill ai'n llawn ar yr adeg honno, neu drefnu cynllun talu sy'n cynnwys 3 rhandaliad gyda cherdyn banc.
26. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ffioedd neu os oes angen rhagor o fanylion arnoch am dalu (gan gynnwys os ydych yn cael trafferthion wrth dalu eich ffioedd), cysylltwch â'r Tîm Gweithrediadau Cyllid: ffioedd@aber.ac.uk
27. Os nad yw myfyriwr yn cwblhau taliad yn unol â'r telerau a’r amodau hyn, bydd Polisi Casglu Dyledion Teg y Brifysgol yn berthnasol. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gymryd pob cam rhesymol i adennill ffioedd sy'n weddill ac mae'n cadw'r hawl i ganslo'r contract a therfynu cofrestriad y myfyriwr heb ad-daliad.
28. Sylwer, os yw eich ffioedd yn cael eu talu ar eich rhan gan drydydd parti neu noddwr, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r ffioedd sy'n ddyledus os nad yw’r trydydd parti neu'r noddwr hwnnw yn talu pan fydd yn ddyledus.
Ffioedd A Thaliadau Ychwanegol
29. Mae'r ddarpariaeth academaidd yn y Brifysgol yn cynnwys rhai elfennau astudio sy'n cael eu cynnal yn rhywle arall heblaw Aberystwyth. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys cyrsiau maes mewn pynciau biolegol, daearyddol ac amgylcheddol, yn ogystal ag ymweliadau â theatrau, orielau ac amgueddfeydd mewn pynciau sy'n seiliedig ar y dyniaethau.
30. Nid yw'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r cyfleoedd hyn wedi'u cynnwys yn ffioedd cyffredinol y Brifysgol, felly dylech neilltuo arian ar gyfer y digwyddiadau hyn yn unol â hynny.
31. Bydd y rhaglenni astudio’n amrywio o ran eu cost, eu lleoliad a’u hyd. Gellir dod o hyd i gostau enghreifftiol ar gyfer pob gweithgaredd ar y tudalennau Ffioedd a Chostau Ychwanegol ar ein gwefan.
Rhwymedigaethau Ac Atebolrwydd Y Brifysgol
Ein rhwymedigaethau
32. Yn ystod cyfnod y Contract (fel y disgrifir yn ein Cynnig) mae'r Brifysgol yn cytuno i ddarparu'r Gwasanaethau i chi (gan gynnwys darparu'r Rhaglen) gyda phob gofal a medr rhesymol, yn unol â thelerau'r Contract hwn. Os mai partner masnachfraint Prifysgol Aberystwyth fydd yn darparu eich rhaglen astudio, efallai mai’r partner fydd yn darparu’r gwasanaethau hyn ar ran y Brifysgol.
33. Os nad ydym yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau o dan y Contract hwn, ein cyfrifoldeb ni yw unrhyw golled neu niwed yr ydych chi’n ei ddioddef sy'n ganlyniad rhagweladwy i'n tor-cytundeb neu ein hesgeuluster. Fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed na ellir ei ragweld. Ystyrir bod colled neu niwed yn rhagweladwy os oedd yn ganlyniad amlwg i'n tor-cytundeb neu os cafodd ei ystyried gennych chi a ninnau ar yr adeg y gwnaethom ymrwymo i'r Contract hwn. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am anallu neu oedi wrth gyflawni ei rhwymedigaethau os caiff ei achosi gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.
Ein hatebolrwydd
34. Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd am:
- farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeuluster neu esgeuluster ein gweithwyr cyflogedig, asiantau neu isgontractwyr;
- twyll neu gamliwio twyllodrus.
- unrhyw fater arall na chaniateir i ni ei eithrio na chyfyngu ar ein hatebolrwydd amdano yn ôl y gyfraith.
Rheoliadau'r Brifysgol
35. Trwy dderbyn cynnig lle yn y Brifysgol, rydych yn cytuno i gydymffurfio â darpariaethau'r Siarter, yr Ystatudau, yr Ordinhadau a’r Rheoliadau, a rheolau a rheoliadau eraill fel y bo’r Brifysgol yn eu sefydlu ar gyfer ei myfyrwyr o bryd i'w gilydd (a ddiffinnir gyda'i gilydd fel y "Rheoliadau").
36. Mae darpariaethau a disgwyliadau allweddol y Rheoliadau a'r polisïau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt yn cynnwys y rhai a amlinellir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd a'r Rheolau a’r Rheoliadau
37. Os na chedwir at y rheolau hyn efallai y rhoddir proses ddisgyblu ar waith a gosod cosbau academaidd a/neu ddiarddel yn unol â'r Drefn Disgyblu Myfyrwyr a gynhwysir ynddi. Gall y rhain gynnwys, ymhlith eraill:
- Ymroddiad Myfyrwyr a Chynnydd Academaidd - os nad ydych yn cyrraedd y disgwyliadau hyn efallai y cewch eich atal rhag symud ymlaen ar eich cwrs.
- Ymddygiad Myfyrwyr - gallai torri'r rheolau hyn arwain at ymchwiliad mewnol annibynnol a gosod sancsiynau, a allai gynnwys diarddel.
- Ymddygiad Academaidd Annerbyniol - gall torri'r rheolau hyn arwain at broses ddisgyblu, cosbau academaidd a/neu ddiarddel.
- Talu Ffioedd Dysgu – yn unol â'n Polisi Casglu Dyledion Teg i Fyfyrwyr, os nad ydych yn talu’r arian sy'n ddyledus gennych i'r Brifysgol, rydym yn cadw'r hawl i dynnu’ch caniatâd i ddefnyddio’n cyfleusterau a/neu wasanaethau yn ôl lle bo’n angenrheidiol ac yn gymesur.
- Cydraddoldeb ac Amrywioldeb - mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd heb unrhyw wahaniaethu a hyrwyddo diwylliant o gynwysoldeb, yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr ac aelod o staff gydymffurfio â'n safonau Cydraddoldeb ac Amrywioldeb, sydd wedi’u seilio ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gall unrhyw ymddygiad sy'n mynd yn groes i'r safonau hyn, boed wrth ymweld â'r Brifysgol, ar ôl cofrestru, neu wrth gynrychioli'r Brifysgol, arwain at derfynu ein contract â chi.
- Addasrwydd i Ymarfer - (gall gynnwys gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)) mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol, y rhai sydd wedi'u cofrestru gyda chorff rheoleiddio statudol, neu'r rhai sydd angen mynd ar gyfnod lleoliad gwaith. Mae enghreifftiau'n cynnwys rhai cynlluniau Addysg, Addysg Gofal Iechyd/Nyrsio, a Gwyddor Filfeddygol/Nyrsio Milfeddygol.
- Datgelu Euogfarnau Troseddol perthnasol – fel y'u diffinnir yn ein Polisi Euogfarnau Troseddol, mae rhwymedigaeth arnoch hysbysu'r Brifysgol ar unwaith os oes gennych neu os ydych yn cael euogfarnau troseddol heb eu disbyddu am droseddau perthnasol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr drwy'r cyfeiriad e-bost cyfrinachol: admitdisclose@aber.ac.uk. Unwaith y byddwch yn fyfyriwr cofrestredig, dylid gwneud unrhyw ddatganiad i arconf@aber.ac.uk. Os na datgelir y wybodaeth hon fe ellid ystyried bod hynny’n torri Gweithdrefnau Disgyblaeth y Brifysgol a gellid gosod cosbau yn unol â hynny.
Yr Hawl I Astudio Yn Y Deyrnas Unedig
38. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn gallu dangos eich hawl i astudio yn y Deyrnas Unedig. Fel arfer, bydd angen fisa myfyriwr ar ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU cyn y gallant gofrestru ac astudio ar gwrs yn y Brifysgol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y caniatâd fisa perthnasol gennych a'ch bod yn cydymffurfio â thelerau'r fisa hwnnw.
39. Mae Prifysgol Aberystwyth yn 'noddwr' cofrestredig o dan System Fewnfudo Llywodraeth y DU sy’n Seiliedig ar Bwyntiau. Mae hyn yn ein galluogi i recriwtio a noddi myfyrwyr sy'n ddinasyddion gwledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i dynnu nawdd fisa myfyrwyr yn ôl a dod â'r contract hwn i ben yn achos unrhyw fyfyriwr nad yw'n cydymffurfio â rheolau a rheoliadau fisa fel y'u diffinnir gan y Swyddfa Gartref / UKVI.
40. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw fanylion pellach arnoch am fisâu neu fewnfudo, cysylltwch â'r Swyddfa Cydymffurfio yn: compliance@aber.ac.uk.
Amrywiadau i'r Contract, Rheoliadau, Rhaglenni A Gwasanaethau
41. Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i wneud cyn lleied o newidiadau a phosib ar gyfer blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs, a bydd yn rhoi gwybod i chi yn briodol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai newidiadau yn angenrheidiol oherwydd rhesymau dilys yn ymwneud â materion staffio, ariannol, cyfreithiol, rheoleiddiol, polisi a/neu academaidd. Fel arfer, mae'r rhain yn:
- adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a/neu ofynion proffesiynol, statudol, neu’r corff rheoleiddio a/neu reoliadau’r sector
- ymgorffori canllawiau neu arfer gorau’r sector;
- adlewyrchu datblygiadau pwysig mewn dysgu academaidd, ymchwil a/neu safonau proffesiynol neu ofynion i sicrhau bod cynnwys ein rhaglen a’i darpariaeth yn gyfredol ac yn berthnasol;
- ymateb i adborth myfyrwyr, adborth arholwyr allanol neu adolygiad mewnol ar y rhaglen;
- ymwneud â newidiadau anochel yn ein staff academaidd a/neu staff cynorthwyol, er enghraifft pan fo staff allweddol wedi cymryd absenoldeb estynedig neu wedi gadael y Brifysgol;
- adlewyrchu gostyngiad yn y nifer o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru, nawr neu yn y dyfodol;
- adlewyrchu sefyllfa lle nad yw bellach yn ymarferol yn ariannol i gynnal modiwl neu gwrs;
- adlewyrchu unrhyw newidiadau i strwythur y flwyddyn academaidd, i’n hamserlen, ein cyfleusterau neu’r lleoliad a/neu’r dull o ddarparu rhaglenni;
- cynorthwyo â gwella eglurder neu gysondeb dulliau gweithredu.
42. Bydd unrhyw newidiadau fel arfer yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, er bod y Brifysgol yn cadw'r hawl i weithredu newidiadau ar adegau eraill os bernir bod hynny’n rhesymol briodol.
43. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu dangos ar wefan y Brifysgol ac fe ddefnyddir dulliau eraill i roi gwybod i fyfyrwyr amdanynt.
44. Mae'r prosbectws printiedig yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Bydd unrhyw newidiadau i'r prosbectws printiedig yn cael eu gwneud i'r fersiwn ar-lein, a chynghorir ymgeiswyr yn gryf i edrych ar y prosbectws ar-lein a’r adrannau perthnasol o'n gwefan cyn gwneud cais a derbyn Cynnig.
45. Efallai y bydd achosion lle mae'r Brifysgol o'r farn ei bod yn angenrheidiol, yng nghyd-destun ei dibenion ehangach, i beidio â darparu rhaglen, neu uno neu gyfuno rhaglen â rhaglenni astudio eraill. Os bydd y Brifysgol yn penderfynu cymryd unrhyw gamau o'r fath cyn i'r rhaglen ddechrau, bydd yn gwneud ymdrechion rhesymol i'ch hysbysu ymlaen llaw. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd gennych hawl i ganslo'r contract hwn gan ddarparu rhybudd ysgrifenedig i'r Brifysgol a bydd gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw flaendal/ffioedd rydych wedi'u talu.
Pa newidiadau allai ddigwydd?
46. Gallai'r rhesymau a amlinellir ym mharagraff 9.1 uchod olygu y bydd angen i’r Brifysgol wneud amryw o newidiadau. Er mwyn eich helpu i ddeall beth allai'r newidiadau hyn ei olygu i chi yn ymarferol, rydym wedi eu categoreiddio yn "newidiadau mawr" a "mân newidiadau".
Mân Newidiadau (rhestr o enghreifftiau yn unig, nid yw’n hollgynhwysfawr):
- addasiadau rhesymol i'r amserlen ar gyfer darparu eich rhaglen;
- newidiadau rhesymol i nifer y dosbarthiadau/darlithoedd a gweithgareddau addysgu eraill sy'n gysylltiedig â'r rhaglen;
- addasiadau rhesymol i'r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau TG a gwasanaethau llyfrgell i chi;
- addasiadau rhesymol i'r dulliau a ddefnyddir i ddarparu/asesu’r rhaglen;
- amrywiadau rhesymol i gynnwys a maes llafur y rhaglen;
- newidiadau i union leoliad y cyfleusterau dysgu i’ch rhaglen, ar yr amod bod y rhain o ansawdd cyfatebol i'r rhai a hysbysebir yn ein deunydd cyhoeddusrwydd;
- ychwanegu a/neu dynnu rhai modiwlau, nad ydynt yn rhai craidd, yn ôl o’ch rhaglen;
- diweddariadau i restrau darllen i adlewyrchu newidiadau yn y pwnc perthnasol, er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn parhau'n gyfredol;
- newidiadau gweithdrefnol i'n contract sy'n gwella eich profiad cyffredinol;
- newidiadau i'n rheoliadau, ein codau ymarfer, ein polisïau a’r gweithdrefnau a restrir yn y ddogfen hon.
Newidiadau Mawr (rhestr o enghreifftiau yn unig, nid yw’n hollgynhwysfawr):
- newidiadau sylweddol i'r ffordd yr ydym yn dysgu, yn darparu a/neu’n asesu rhaglen, megis newid sylweddol yng nghydbwysedd yr asesu, o waith cwrs i arholiadau ar draws y rhaglen;
- ychwanegu rhai modiwlau craidd neu rai gorfodol i’ch rhaglen a/neu dynnu rhai yn ôl;
- newidiadau i'r math o asesiad a ddefnyddir yn eich rhaglen;
- newidiadau i deitl eich cymhwyster;
- newidiadau i deitl eich rhaglen;
- gwneud addasiadau mwy sylweddol i'n rhaglenni;
- newidiadau sylweddol i'n trefniadau diogelwch sy'n cael effaith go iawn ar sut rydych yn gweithredu ar y campws;
- newidiadau sylweddol i’ch rhaglen o ran lleoliad y cyfleusterau dysgu neu eu manylebau, gan gynnwys adleoli'r rhaglen o bosib.
- penderfynu newid "gofynion craidd" y rhaglen (lle mae "gofynion craidd" yn cyfeirio at fodiwlau craidd);
- penderfynu uno dwy neu fwy o raglenni neu ymgymryd ag ailstrwythuro rhaglen gradd i raddau helaeth tebyg, gan dynnu pob un o'r rhaglenni hynny yn ôl, i bob pwrpas, fel opsiynau unigol.
Sut y byddwn yn eich hysbysu am newidiadau i'r contract a beth sy'n digwydd os nad ydych yn cytuno â'r newidiadau
47. Ar gyfer mân newidiadau, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau drwy, er enghraifft, ddiweddaru cronfa ddata ar-lein y modiwlau. Byddwn yn rhoi rhybudd i chi a fydd, yn ein barn ni, yn briodol o dan yr amgylchiadau. Lle bynnag y bo'n bosib, byddwn yn ceisio rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi; fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn bosib.
48. Bydd newidiadau fel arfer yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf. Fodd bynnag, mae’n bosib y cyflwynir newid yn ystod y flwyddyn academaidd os yw'r Brifysgol yn barnu, yn rhesymol, mai dyma sydd fwyaf buddiol i’r myfyrwyr, neu os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu amgylchiadau eithriadol eraill. Bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i darfu cyn lleied â phosib ar fyfyrwyr, megis rhoi rhybudd rhesymol o newidiadau i reoliadau cyn iddynt ddod i rym, neu gyflwyno’r newidiadau yn raddol pan fo hynny'n briodol.
49. Bydd rheoliadau wedi'u diweddaru ar gael ar wefan y Brifysgol ac efallai y defnyddir dulliau eraill hefyd i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.
50. Byddwn yn eich hysbysu trwy e-bost am newidiadau mawr.
51. Os bydd newid sylweddol i'r contract nad ydych yn cytuno ag ef, cynigir cyfle i chi ddod â'r contract i ben. Mae’n bosib hefyd y bydd gennych hawl i gael ad-daliad priodol o unrhyw ffioedd a dalwyd. Fel arall, byddwn yn ymdrechu i gynnig lle i chi ar raglen arall yn y Brifysgol, fel y bo'n briodol.
52. Os na fyddwch yn ein hysbysu eich bod yn anghytuno â'r newid mawr arfaethedig i'r contract, byddwn yn ystyried eich bod yn barod i fwrw ymlaen â'ch rhaglen o dan y telerau newydd.
Tynnu rhaglen yn ôl
53. Mae’n bosib y bydd achosion pan fydd angen i ni dynnu rhaglen yn ôl neu ei chyfuno â rhaglenni eraill. Efallai y bydd hyn yn digwydd naill ai cyn i chi ddechrau eich rhaglen gyda ni, neu yn ystod tymor y contract hwn.
54. Os yw hyn yn berthnasol, byddwn yn cymryd camau rhesymol i gynnig lle i chi ar raglen arall yn y Brifysgol (ar yr amod bod digon o leoedd ar gael a'ch bod yn cydymffurfio â’r gofynion derbyn myfyrwyr a chofrestru). Fel arall, ar eich cais, byddwn yn eich cynorthwyo i ymuno â rhaglen arall mewn sefydliad arall a byddwn yn rhoi ad-daliad i chi o’r ffioedd a dalwyd, os yw hynny’n briodol.
55. Ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi dechrau eu hastudiaethau eto, byddwn yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol (gan gynnwys, os yw'n berthnasol, fynd trwy system UCAS) i'ch galluogi i ddewis rhaglen arall (naill ai yn y Brifysgol neu mewn sefydliad arall).
56. Mae’n amod o’ch Contract eich bod yn cofrestru ar ddechrau eich cwrs, ac ar ddechrau pob blwyddyn academaidd wedi hynny trwy gydol eich cwrs. Cewch wybod am y broses gofrestru cyn dechrau pob blwyddyn academaidd. Os na fyddwch yn cofrestru erbyn y dyddiad cau yna bydd eich hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol yn cael ei hatal.
Amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth
57. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol yn codi, na ellid fod wedi'u hatal hyd yn oed gyda gofal rhesymol. Mewn achosion o'r fath, bydd y Brifysgol yn eich hysbysu yn unol â hynny ac yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r effaith ar brofiad dysgu'r myfyriwr.
58. Os bydd amgylchiadau o'r fath yn golygu bod angen addasu neu gau rhaglen, byddwn yn cynnig cyfle i chi drosglwyddo i gwrs arall o fewn y Brifysgol, neu dynnu'n ôl. Os byddwch yn dewis tynnu'n ôl, byddwn yn rhoi cymorth rhesymol i'ch cynorthwyo i sicrhau lle mewn prifysgol arall.
59. Os nad ydych yn fodlon â'r camau a gymerwyd i liniaru amgylchiadau o’r fath sy’n tarfu arnoch, gallwch derfynu eich contract gyda'r Brifysgol a/neu wneud cwyn ffurfiol. Fodd bynnag, os bydd amgylchiadau'n codi sy’n rhwystro’r Brifysgol rhag cymryd camau i darfu cyn lleied â phosib ar fyfyrwyr, ni fyddwn ni na chithau yn atebol am dorri'r contract hwn, nac am beidio â chydymffurfio â'i thelerau. Mae hyn yn cynnwys darparu dysgu neu wasanaethau pellach, talu ffioedd ychwanegol, ad-daliadau am ffioedd a dalwyd, neu unrhyw fath arall o golled neu niwed.
60. Mae enghreifftiau o amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth yn cynnwys (ymhlith pethau eraill):
- gweithredoedd Duw, llifogydd, daeargrynfeydd, stormydd gwynt neu drychinebau naturiol eraill neu dywydd garw;
- pandemigau, epidemigau neu glefydau heintus, a bygythiadau i’r iechyd cyhoeddus;
- tanau, ffrwydradau, neu ddifrod damweiniol;
- terfysgaeth;
- aflonyddwch gwleidyddol neu sifil;
- adeiladau’n dymchwel, peiriannau'n methu, cyfrifiaduron yn torri, neu gerbydau’n pallu;
- difrod, ymyrraeth neu ddim mynediad i adeiladau, cyfleusterau neu offer;
- anghydfodau yn ymwneud â llafur, gan gynnwys streiciau a gweithredu diwydiannol;
- tarfu ar wasanaethau cyfleustodau neu fethu â’u darparu, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, trydan, nwy neu ddŵr;
- deddfau, gorchmynion, deddfwriaeth, rheoliadau neu gyfyngiadau a osodir gan unrhyw lywodraeth neu awdurdod lleol;
- gofynion a nodir gan gyrff achredu neu reoleiddwyr proffesiynol;
- absenoldebau annisgwyl neu aelodau allweddol o staff yn ymadael, lle nad yw'n bosib, yn rhesymol, ddod o hyd i aelod newydd o staff sy’n addas ac sydd â’r arbenigedd angenrheidiol;
Myfyrwyr sy'n astudio rhaglenni Prifysgol Aberystwyth a gyflenwir gan Bartner-Ddarparwyr
61. Mae'r cymal hwn wedi ei neilltuo i achosion myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen astudio Prifysgol Aberystwyth a ddarperir gan Bartner-Ddarparwr, megis o dan gytundeb masnachfraint neu raglenni ar y cyd, deuol neu ddwbl. Os nad Prifysgol Aberystwyth sy'n darparu'r rhaglen, bydd eich cynnig yn nodi'n glir pwy yw'r Partner-Ddarparwr.
62. Cytundeb Partner-Ddarparwr Yn ogystal â'ch cytundeb gyda Phrifysgol Aberystwyth, byddwch hefyd yn creu cytundeb gyda'r darparwr, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel Cytundeb Partner-Ddarparwr. Mae'r cytundeb hwn yn rhoi caniatâd i chi fynychu safle’r partner i ddilyn eich rhaglen astudio. Cytundeb rhyngoch chi a'r Partner-Ddarparwr yn unig yw hwn, ac ni ellir ei orfodi gan Brifysgol Aberystwyth nac yn erbyn Prifysgol Aberystwyth. Bydd y cytundeb hwn yn rheoli’ch perthynas â'r partner-ddarparwr ac yn manylu ar y disgwyliadau ohonoch wrth ichi fynychu'r safle er mwyn astudio. Mae’n amod o’ch contract gyda Phrifysgol Aberystwyth eich bod yn cytuno â thelerau'r Cytundeb Partner-Ddarparwr ac fe fydd yn cael ei derfynu yn yr amgylchiadau canlynol:
- Os nad ydych yn derbyn telerau'r Cytundeb Partner-Ddarparwr cyn cofrestru neu ailgofrestru mewn unrhyw flwyddyn academaidd;
- Os ydych yn derbyn y telerau ond ar ôl hynny'n terfynu eich cytundeb gyda'r Partner Ddarparwr am ba reswm bynnag; neu
- Os yw’r darparwr yn terfynu ei gytundeb gyda chi'n gyfreithiol am ba reswm bynnag ac nad yw'n ymarferol bosib ichi drosglwyddo i Brifysgol Aberystwyth i gwblhau eich rhaglen astudio ar un o'i champysau.
63. Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i derfynu ei chontract â chi os nad ydych yn cydymffurfio â sylwedd unrhyw rwymedigaethau a nodir yn eich Cytundeb Partner-Ddarparwr gyda'r darparwr dan sylw.
64. Yn achos unrhyw wrthdaro rhwng telerau’r cytundeb hwn a'r telerau a nodir yn eich Cytundeb Partner-Ddarparwr, y telerau yn eich contract gyda Phrifysgol Aberystwyth fydd drechaf oni bai y gellir dod i gytundeb arall rhyngoch chi, Prifysgol Aberystwyth a'r partner-ddarparwr.
65. Ffioedd: Oni bai ein bod yn eich hysbysu'n wahanol yn ysgrifenedig, chi sy’n gyfrifol am dalu unrhyw ffioedd dysgu neu ffioedd ailsefyll asesiadau yn uniongyrchol i Brifysgol Aberystwyth.
66. Cyfleusterau ac Adnoddau: Yn ystod eich cwrs astudio, y Partner-Ddarparwr ac nid Prifysgol Aberystwyth fydd yn rhoi’r mynediad i adnoddau a’r cyfleusterau a fydd yn cefnogi eich rhaglen (mewn achosion lle darperir y rhaglenni yn llwyr neu’n rhannol i ffwrdd o gampws Prifysgol Aberystwyth). Bydd eich mynediad i’r gwasanaethau hyn yn cael ei reoli gan y cytundeb rhyngoch chi a'r partner-ddarparwr.
67. Manylebau’r Rhaglen: Mae gwybodaeth ynglŷn â manylebau’r rhaglen sy'n berthnasol i'ch rhaglen astudio chi i'w chael ar-lein a gellir hefyd gofyn i Swyddfa Derbyn Israddedigion y Brifysgol amdanynt.
Mynediad Gohiriedig
68. Os hoffech ohirio'ch cais tan y cyfnod derbyn academaidd nesaf, e-bostiwch y Swyddfa Derbyn i wirio a yw hyn yn bosib: derbyniadau@aber.ac.uk
69. Ni ellir gwarantu y byddwn yn cytuno i geisiadau i ohirio. Drwy ofyn am ohirio, rydych yn cydnabod efallai na fydd y rhaglen yr ydych wedi gwneud cais amdani ar gael yn ystod y cyfnod derbyn academaidd nesaf. Dylech hefyd fod yn ymwybodol efallai y bydd cynnydd mewn ffioedd ar gyfer y cyfnod derbyn nesaf.
70. Os nad oes rhaglen ar gael wedyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi cyfle ichi wneud cais am gwrs arall ym Mhrifysgol Aberystwyth neu ddarparu cymorth rhesymol i'ch helpu i ddod o hyd i gwrs gyda darparwr gwahanol.
71. Drwy ofyn am ohirio, rydych yn cydnabod ac yn derbyn y gallai cynnwys y rhaglen, y ffioedd dysgu, a’r offer/gwasanaethau sydd ar gael fod wedi newid erbyn y cyfnod derbyn academaidd nesaf.
72. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i’r ffioedd dysgu trwy edrych ar ein tudalennau ffioedd dysgu ar y we ar gyfer y cyfnod derbyn myfyrwyr rydych chi’n gofyn am gael ymuno ag ef. Bydd ffioedd yn daladwy yn ôl cyfraddau’r flwyddyn mynediad, nid blwyddyn y cais.
Anableddau A Chymorth Dysgu
73. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol a hygyrch. Mae pob cynnig yn amodol ar allu’r Brifysgol i weithredu'r addasiadau penodol y mae eu hangen arnoch yn rhesymol i gwblhau eich rhaglen.
74. Os oes gennych anabledd, bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn prosesu’r wybodaeth a ddarparwyd gennych am yr anabledd hwnnw ar ôl i chi gael cynnig lle. Mae’n bosib y byddant yn cysylltu â chi i asesu pa addasiadau rhesymol sydd eu hangen, os o gwbl. Mae’n bosib y bydd gwybodaeth am eich anabledd yn cael ei chyfleu i staff perthnasol eraill y byddai’n rhesymol iddynt gael gwybodaeth o'r fath at ddibenion gweithredu unrhyw rai neu’r cyfan o'r addasiadau a nodwyd os byddwch yn derbyn y cynnig.
Diogelu Data
75. Wrth wneud cais i’r Brifysgol am le ar raglen a chofrestru arni, mae'n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth bersonol. Mae'n ofynnol hefyd i'r Brifysgol gasglu, prosesu a chadw ystod eang o wybodaeth amdanoch yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr, a allai gynnwys data personol o natur sensitif.
76. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Brifysgol yn unol â thelerau ein Polisi Diogelu Data a deddfwriaeth berthnasol arall. Dylai ymgeiswyr sydd wedi llwyddo i gael lle ar gynlluniau astudio masnachfraint a rhaglenni astudio ar y cyd, deuol neu ddwbl fod yn ymwybodol y bydd data eu cais yn cael ei rannu â’r sefydliad partner at ddibenion derbyn myfyrwyr. Mae’r amgylchiadau lle datgelir unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd parti yn cael eu rheoli’n llym.
- Mae'n ofynnol i'r Brifysgol gyflwyno data i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) bob blwyddyn i gefnogi dadansoddiadau ystadegol cenedlaethol. Wrth gofrestru fel myfyriwr gyda ni, rydych yn rhoi caniatâd i'r Brifysgol ddarparu gwybodaeth yn unol â'n rhwymedigaethau prosesu data.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o fanylion arnoch am ein polisïau prosesu data a diogelu data, cysylltwch â'r Swyddfa Cydymffurfio â Rheoliadau Gwybodaeth: infocompliance@aber.ac.uk
Gwybodaeth Gytundebol Gyffredinol
77. Mae'r contract rhyngoch chi a'r Brifysgol yn cynnwys y canlynol:
- yr wybodaeth a gynhwysir yn y Telerau a’r Amodau hyn;
- y telerau (gan gynnwys unrhyw amodau perthnasol) sydd wedi'u cynnwys yn y Cynnig; a’r
- polisïau a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 sydd ynghlwm.
78. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i'r Contract a/neu'r Gwasanaethau fel y’u disgrifir yn y Telerau a’r Amodau hyn.
Sut i dderbyn ein Cynnig a phryd bydd ein Contract yn cael ei lunio
79. Bydd y Contract rhyngoch chi a'r Brifysgol yn dechrau pan fyddwch yn derbyn cynnig lle ar raglen astudio. Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS, gallwch dderbyn y cynnig gan ddefnyddio system UCAS Hub. Os byddwch yn gwneud cais ar hyd llwybr arall, gallwch dderbyn y cynnig drwy ddychwelyd y ffurflen ymateb i gynnig sydd wedi'i chynnwys yn yr e-bost a gawsoch yn cynnig lle. Trwy dderbyn eich cynnig lle, rydych yn cytuno i gadw at delerau ac amodau'r Contract.
80. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ar gyfer ymgeiswyr a gyflwynodd eu cais drwy UCAS, bydd Contract yn cael ei greu rhyngom pan fyddwch yn derbyn cynnig hyd yn oed os byddwch yn ein dewis fel eich "dewis wrth gefn". Disgrifir eich hawl i derfynu'r Contract hwn isod.
Sut y gellir terfynu'r Contract hwn neu ei atal
81. Bydd eich contract yn dod i ben yn awtomatig ar y dyddiad gorffen a restrir ar eich cofnod myfyriwr, neu'n gynharach os caiff ei derfynu yn unol â darpariaethau'r contract hwn.
Ein hawliau i ddod â'r contract i ben a beth sy'n digwydd os byddwn yn dod â'r contract i ben
82. Gallwn ddod â'r Contract i ben, ar ôl rhoi rhybudd i chi, o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Nid ydych yn bodloni unrhyw amod a nodir yn y cynnig, (neu fod amser yn dod yn ystod eich cyfnod ar y rhaglen pan nad ydych yn bodloni’r amodau);
- Rydych yn rhoi i ni wybodaeth neu wybodaeth dwyllodrus sy'n anwir, yn anghywir, yn anghyflawn a/neu'n gamarweiniol;
- Nid ydych wedi cofrestru neu ailgofrestru o fewn yr amserlenni penodedig a roddwyd i chi cyn pob blwyddyn academaidd;
- Rhwng derbyn cynnig a dechrau eich rhaglen, bu newid yn eich amgylchiadau sydd, yn ein barn resymol ni, yn golygu ei bod yn amhriodol i chi astudio ar y rhaglen;
- Nid ydych wedi cydymffurfio â sylwedd unrhyw un o'ch rhwymedigaethau a nodir yn y Contract hwn (gan gynnwys, a heb gyfyngiad, unrhyw rwymedigaeth a ddisgrifir yn y dogfennau a restrir oddi mewn);
- Ar ôl cynnal ein gweithdrefn camymddwyn academaidd, ein gweithdrefn ddisgyblu neu brosesau eraill, mae’r Brifysgol yn penderfynu na chaniateir i chi barhau â'ch rhaglen mwyach;
- Rydych wedi cael eich euogfarnu o drosedd dditiadwy yn y Deyrnas Unedig neu drosedd gyfatebol mewn unrhyw wlad arall;
- Mae eich ymddygiad, yn ein barn resymol ni, yn risg sylweddol i chi’ch hunan neu i eraill o ran iechyd, diogelwch a lles;
- Mae parhau eich cofrestriad gyda'r Brifysgol yn ein rhoi ni, neu'n bygwth ein rhoi ni, mewn sefyllfa sy’n torri unrhyw un o'n rhwymedigaethau cyfreithiol i gydymffurfio â gofynion mewnfudo'r DU neu ofynion eraill, a allai hefyd arwain at weld y Brifysgol yn tynnu nawdd Fisa Myfyrwyr yn ôl os nad ydych yn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau fisa fel y'u diffinnir gan y Swyddfa Gartref;
- Nid ydych wedi talu eich ffioedd yn gyson gan anwybyddu negeseuon atgoffa ffurfiol;
- Er eich bod wedi cael cynnig ail-wneud blwyddyn, nid ydych yn cadarnhau eich dymuniad i ail-wneud y flwyddyn erbyn y dyddiad cau a bennwyd.
83. Os bydd y Brifysgol yn dod â'r contract i ben am unrhyw un o'r rhesymau a nodir uchod, ni chewch eich rhyddhau'n awtomatig o'ch rhwymedigaeth i dalu'r ffioedd, ac efallai y byddwch yn atebol am weddill unrhyw ffioedd sy'n daladwy, oni bai ein bod yn cytuno ar drefniant arall gyda chi. Yn ogystal, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Ni fyddwch bellach yn gallu bod yn bresennol yn y Brifysgol;
- Rhaid i chi ddychwelyd unrhyw eiddo sy'n perthyn i'r Brifysgol yn unol â’r cyfarwyddiadau a roddir i chi;
- Bydd gennym hawl i derfynu, lle bo'n berthnasol, eich contract llety a reolir gan y Brifysgol neu unrhyw gontract arall yr ydych wedi ymrwymo iddo gyda'r Brifysgol.
Achlysuron pan ellir atal y contract hwn dros dro
84. Efallai y bydd achosion pan fydd angen i'r Brifysgol eich atal rhag astudio dros dro a/neu atal y contract hwn os ydych chi, neu os honnir eich bod, wedi torri eich rhwymedigaethau o dan y contract hwn. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i weithredu ataliad o'r fath drwy roi rhybudd ysgrifenedig i chi.
85. Bydd unrhyw hysbysiad neu ohebiaeth arall a wneir o dan y Telerau a’r Amodau hyn yn cael ei gyfleu yn ysgrifenedig ac yn cael ei gyfeirio atoch i’r cyfeiriad e-bost neu'r cyfeiriad post diwethaf a roesoch i’r Brifysgol. Bernir bod gohebiaeth o'r fath wedi cael ei chyflwyno'n briodol os caiff ei danfon dros e-bost, ei danfon â llaw a’i gadael yn y cyfeiriad post hwnnw, neu ei hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf i gyrraedd 48 awr ar ôl cael ei phostio i'r cyfeiriad hwnnw.
Eich manylion cyswllt
86. Hyd nes y byddwch yn cofrestru gyda ni ar ddechrau eich blwyddyn academaidd gyntaf, rhaid i chi ddiweddaru'ch manylion cyswllt gan ddefnyddio UCAS Hub (os yw'n berthnasol), neu drwy hysbysu'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr (e-bost: derbyn@aber.ac.uk, Ffôn: +44 (0)1970 622021). Ar ôl i chi gofrestru gyda ni, mae'n ofynnol i chi gynnal eich manylion cyswllt trwy system cofnodion myfyrwyr y Brifysgol.
87. Os byddwch yn torri telerau ein contract a bod y Brifysgol yn dewis peidio â mynnu eich bod yn cyflawni unrhyw un o'ch rhwymedigaethau o dan y contract, neu os nad ydym yn gorfodi ein hawliau yn eich erbyn, neu os byddwn yn oedi cyn gwneud hynny, nid yw'n golygu ein bod wedi hepgor ein hawliau yn eich erbyn, nac ychwaith yn awgrymu eich bod wedi'ch eithrio rhag cydymffurfio â'r rhwymedigaethau hynny.
88. Contract rhyngoch chi a’r Brifysgol yw hwn. Ni fydd gan unrhyw berson arall unrhyw hawliau i orfodi unrhyw un o'i delerau.
89. Os bydd unrhyw orchymyn llys neu awdurdod cymwys arall yn barnu bod unrhyw ddarpariaeth o'r contract rhyngoch chi a'r Brifysgol yn ddi-rym neu'n anorfodadwy yn ei chrynswth neu'n rhannol, bydd y contract hwnnw'n parhau i fod yn ddilys o ran y darpariaethau sydd ynddo a/neu weddill y ddarpariaeth yr effeithir arni. Bydd y contract rhyngoch chi a'r Brifysgol yn cael ei lywodraethu a'i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae'r partïon yn cytuno i ymostwng i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr. Nid yw contract y Brifysgol â’i myfyrwyr yn rhoi buddiannau trydydd parti at ddibenion Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
Eich hawliau i derfynu'r contract a chanlyniadau ei derfynu
90. Mae gennych hawl statudol i ganslo'r contract hwn heb roi rheswm. Bydd y cyfnod canslo yn dod i ben 14 diwrnod ar ôl y dyddiad pan fyddwch yn derbyn cynnig lle i astudio yn y Brifysgol.
91. Y tu allan i'r cyfnod canslo o 14 diwrnod, mae gennych hawl i derfynu'r contract gan roi rhybudd o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os gwnaethoch gais drwy UCAS ac wedi ein dewis ni fel dewis wrth gefn ar y system UCAS Hub, a'ch bod yn penderfynu astudio yn y sefydliad a roesoch fel eich dewis gorau/dewis cadarn cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. Yn yr amgylchiadau hyn, ni fyddwch yn gyfrifol i ni am unrhyw ffioedd a/neu gostau cysylltiedig;
- os nad ydych yn derbyn unrhyw newidiadau sylweddol a wnaed i'r gwasanaethau a/neu'r contract yn unol â'r telerau a’r amodau hyn, rhaid i chi ein hysbysu o'r penderfyniad hwn erbyn 22 Medi 2025. Ni fyddwch yn gyfrifol i ni am unrhyw ffioedd a/neu gostau cysylltiedig o hyn allan, ond efallai na fydd gennych hawl i gael unrhyw ad-daliad o'r Ffioedd a dalwyd hyd at y dyddiad y daw'r contract i ben;
- lle rydym yn torri sylwedd ein rhwymedigaethau i chi o dan y contract i ddarparu'r gwasanaethau a ddisgrifir. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd gennych hawl i gael ad-daliad cymesur o unrhyw Ffioedd a dalwyd o'r dyddiad terfynu;
- pan fyddwch yn arfer eich hawliau i ganslo yn ystod y cyfnod statudol o 14 diwrnod fel y disgrifir yn y ddogfen hon, ac os felly ni fyddwch yn atebol i dalu'r ffioedd; ac
- ar unrhyw adeg arall heb reswm. Os byddwch yn rhoi rhybudd o'ch bwriad i ddod â'r contract i ben cyn dechrau unrhyw flwyddyn academaidd, ni fyddwch yn gyfrifol am unrhyw ffioedd am weddill eich amser gyda ni. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno gorffen hanner ffordd drwy'r flwyddyn academaidd berthnasol, efallai y byddwch yn gyfrifol am y Ffioedd ar gyfer y rhan sy'n weddill o'ch blwyddyn academaidd, a byddwn yn trafod gyda chi pa lefel o daliad neu ad-daliad y gallai fod gennych hawl iddo.
Sut i ganslo'ch contract
92. Os ydych yn ymgeisydd israddedig a wnaeth gais drwy UCAS, gallwch wrthod cynnig lle drwy’r UCAS Hub. I ganslo'ch cais i Aberystwyth neu eich cais UCAS yn ei gyfanrwydd, gweler y canllawiau ar wefan UCAS: https://www.ucas.com/undergraduate/after-you-apply/making-changes-your-application-after-you-apply
93. Os oes gennych le cadarn diamod, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni am eich dymuniad i dynnu'n ôl (neu’ch rhyddhau eich hunan i’r broses Glirio). Gallwch wneud hyn drwy e-bostio'r tîm Derbyn Myfyrwyr yn derbyn@aber.ac.uk. Neu, gallwch ddefnyddio’r ffurflen dempled a geir ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny.
94. Os ymgeisydd ôl-raddedig ydych chi neu fyfyriwr israddedig a wnaeth gais uniongyrchol i astudio gyda ni, rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i'r Brifysgol am eich penderfyniad i ganslo'r contract hwn. Gellir gwneud hyn drwy anfon e-bost i: derbyn@aber.ac.uk. Neu, gallwch ddefnyddio’r ffurflen dempled a geir ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny.
95. Os byddwch yn canslo o fewn y cyfnod o 14 diwrnod fel y nodir uchod, bydd y Brifysgol yn ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd (os yw'n berthnasol) heb oedi’n amhriodol, ac ni fyddwch yn rhwym i'r Telerau a’r Amodau hyn.
96. Bydd unrhyw ad-daliad yn cael ei wneud gan ddefnyddio'r un dull o dalu â'r trafodyn cyntaf. Os gwnaed taliad gan noddwr neu weithiwr cyflogedig, bydd y Brifysgol yn rhoi'r ad-daliad i'r parti perthnasol.
97. Er mwyn canslo cyn y dyddiad cau, mae'n ddigonol eich bod yn ein hysbysu trwy anfon e-bost i: derbyn@aber.ac.uk cyn i'r cyfnod canslo ddod i ben.
Canslo ar ôl y cyfnod canslo statudol
98. Os byddwch yn canslo'r contract ar ôl i'r cyfnod canslo statudol ddod i ben, ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu'r taliadau y derbyniodd gennych yn awtomatig gan y gallech fod yn atebol i dalu rhan o'ch ffioedd dysgu, fel y nodir ym Mholisi Ffioedd Dysgu y Brifysgol.
99. I ganslo'r contract ar ôl i'r cyfnod canslo statudol ddod i ben, rhaid i chi roi gwybod i'r Brifysgol am eich penderfyniad yn ysgrifenedig. Gellir gwneud hyn drwy anfon e-bost i: derbyn@aber.ac.uk. Neu, gallwch ddefnyddio’r ffurflen dempled a geir ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny.
Cyrsiau sy'n dechrau o fewn y cyfnod canslo statudol
100. Os yw eich cwrs i fod i ddechrau o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad pan fyddwch yn derbyn cynnig lle yn y Brifysgol (er enghraifft, os ydych wedi gwneud cais drwy'r Clirio), rydych yn cytuno'n ddatganedig y dylai'r gwasanaeth ddechrau o fewn y cyfnod canslo. Os byddwch wedyn yn penderfynu canslo'r contract o fewn y cyfnod canslo, efallai y byddwch yn atebol i dalu rhan o'ch ffioedd dysgu i dalu am y cyfnod o’r adeg y dechreuodd y Brifysgol roi gwasanaeth i chi hyd at y dyddiad canslo, fel y nodir ym Mholisi Ffioedd Dysgu’r Brifysgol.
Cwynion Ac Apeliadau
101. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gweithdrefnau derbyn myfyrwyr sy’n deg ac o ansawdd uchel ar gyfer pob ymgeisydd. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd adegau o bosib pan fydd ymgeisydd yn teimlo'n anfodlon â phroses derbyn myfyrwyr y Brifysgol neu ei chanlyniadau. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn neu apêl ynglŷn ag agwedd ar wasanaeth derbyn myfyrwyr y Brifysgol, dylech edrych ar ein Polisi Cwynion ac Apeliadau Derbyn Myfyrwyr.
102. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr yn y Brifysgol, dylech ddilyn y drefn ar gyfer Cwynion Myfyrwyr fel y disgrifir yn ein Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/
Atodlen 1
Dogfennau a Pholisïau y cyfeirir atynt yn y Telerau a’r Amodau hyn:
Dogfen Polisi
|
Lle gellir cael gafael ar y ddogfen hon |
Llawlyfrau Adrannol y Brifysgol |
|
Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol a Gwybodaeth i Fyfyrwyr, gan gynnwys:
· Sicrwydd Ansawdd yn Aberystwyth · Cymorth i Fyfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr
|
|
Polisi'r Brifysgol ar Ymarfer Academaidd Annerbyniol |
https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/ |
Rheoliadau ynghylch Eiddo Deallusol a Masnacheiddio |
|
Cydraddoldeb ac Amrywioldeb |
|
Y Siarter, Ystatudau ac Ordinhadau’r Brifysgol |
https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/corporate-information/governance/about-governance/ |
Rheoliadau ffioedd a chyllid ychwanegol y Brifysgol |
|
Rheolau ynglŷn â defnyddio cyfleusterau'r llyfrgell |
|
Rheoliadau, polisïau a chanllawiau ynghylch defnyddio TG a chyfleusterau rhwydwaith |
|
Gwybodaeth am Bartneriaethau Academaidd |
|
Rhagor o wybodaeth i fyfyrwyr |
https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/student-info/ |
Ffurflen Canslo
Enw llawn: |
Dyddiad Geni: |
Rhif Cais: |
Cod y Cwrs: |
Yr wyf trwy hyn yn rhoi rhybudd fy mod yn dymuno canslo fy nghytundeb â Phrifysgol Aberystwyth i astudio rhaglen sy'n dechrau yn 2026.
Gofynnaf i chi (dewiswch fel y bo'n briodol):
- dynnu fy nghynnig yn ôl
- fy rhyddhau i broses glirio UCAS
Llofnod:
Dyddiad:
Dychwelwch y ffurflen hon i: derbyn@aber.ac.uk