Sut i ysgrifennu Datganiad Personol

 

O’r flwyddyn 2026 ymlaen, bydd eich datganiad personol UCAS yn cynnwys 3 chwestiwn gwahanol.

Bydd y canllawiau isod yn eich helpu i gynllunio atebion sy'n dangos eich cymeriad, eich diddordebau a'ch uchelgeisiau academaidd, yn ogystal â dangos i’r darllenydd pam rydych chi'n addas ar gyfer y cwrs o’ch dewis.

Cofiwch, byddwch yn gwneud cais am sawl prifysgol neu gwrs, felly sicrhewch fod eich atebion yn ddigon cynhwysfawr i fod yn berthnasol i’ch holl geisiadau.

Pethau allweddol i'w cofio

  • Mae rhaid defnyddio o leiaf 350 o nodau ar gyfer bob cwestiwn.
  • Gyda’i gilydd, ni fydd eich holl atebion yn cael mynd dros 4,000 o nodau (gan gynnwys y bylchau rhwng geiriau ayyb).
  • Cychwynnwch yn fuan er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o amser i ddrafftio, golygu a derbyn adborth.
  • Drafftiwch mewn dogfen ar wahân pob tro er mwyn osgoi terfyniadau amser ar wefan UCAS.

Cwestiwn 1: Pam ydych chi’n dymuno astudio'r cwrs neu'r pwnc hwn?

Dyma gyfle i chi ddangos eich diddordeb gwirioneddol yn y pwnc a’ch rhesymau dros wneud cais. Meddyliwch am:

  • Beth a sbardunodd eich diddordeb neu a’ch ysbrydolodd i wneud y cais.
  • Pa bynciau neu feysydd o fewn y pwnc sydd fwyaf diddorol i chi.
  • Sut mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer eich uchelgeisiau chi, boed hynny'n yrfa yn y dyfodol neu er mwyn dilyn trywydd eich diddordeb ymhellach.

Gair o gyngor: byddwch yn benodol. Yn hytrach na dweud "Dwi wedi mwynhau hanes erioed," eglurwch pa ran o hanes sydd o ddiddordeb i chi a pham.

Cwestiwn 2: Sut mae eich cymwysterau a'ch astudiaethau wedi eich helpu i baratoi ar gyfer y cwrs neu'r pwnc hwn?

Defnyddiwch yr adran hon i ddangos y wybodaeth a'r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin trwy’ch astudiaethau, a sut maent yn eich paratoi ar gyfer y brifysgol. Gallech gynnwys:

  • Pynciau, modiwlau neu brosiectau a’ch helpodd i fagu’r ddealltwriaeth berthnasol. 
  • Y sgiliau rydych chi wedi’u datblygu, fel ymchwilio, dadansoddi, datrys problemau neu weithio fel rhan o dîm.
  • Llwyddiannau, fel cystadlaethau, prosiectau neu rolau arwain.

Gair o gyngor: peidiwch â rhestru eich graddau – maen nhw gan UCAS eisoes. Yn hytrach, canolbwyntiwch ar yr hyn a ddysgasoch a sut y bydd y sgiliau hyn yn eich helpu i lwyddo yn eich cwrs.

Cwestiwn 3: Beth arall rydych chi wedi’i wneud i baratoi y tu allan i fyd addysg, a pham mae'r profiadau hyn yn ddefnyddiol?

Mae prifysgolion hefyd yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiadau rydych chi'n eu magu y tu hwnt i'ch astudiaethau. Ystyriwch:

  • Profiad gwaith, gwirfoddoli neu swyddi rhan-amser, a'r sgiliau a ddysgasoch.
  • Gweithgareddau allgyrsiol fel chwaraeon, cerddoriaeth neu glybiau sy'n dangos eich ymroddiad, eich gallu i weithio mewn tîm neu’ch creadigrwydd.
  • Cyfrifoldebau personol neu heriau rydych chi wedi’u profi, a'r pethau a ddysgasoch ohonynt.
  • Gweithgareddau ers gadael yr ysgol neu'r coleg, os yw hynny'n berthnasol.

Gair o gymorth: ystyriwch pam mae'r profiadau hyn yn berthnasol. Beth a ddysgasoch chi, a sut allwch chi gymhwyso’r hyn a ddysgoch at eich astudiaethau.

Sut i fynd ati i lunio’ch atebion

  • Dechreuwch drwy feddwl am bwyntiau bwled ar gyfer pob cwestiwn.
  • Ystyriwch sut mae’ch profiadau, eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn berthnasol i’r pwnc y hoffech ei astudio.
  • Troswch y pwyntiau bwled yn atebion eglur a phenodol sydd yn dangos eich gallu a’ch angerdd.

Y pethau i’w gwirio cyn cyflwyno

  • Sicrhewch eich bod yn prawddarllen yn fanwl am unrhyw gamgymeriadau gramadegol neu gamsillafu.
  • Gwiriwch nad yw eich ateb yn fwy na 4,000 o nodau.
  • Defnyddiwch iaith gadarnhaol, gan ganolbwyntio ar eich cryfderau
  • Gwnewch yn siŵr bod eich enghreifftiau yn berthnasol i’r pwnc o’ch dewis.
  • Dangoswch eich gwir bersonoliaeth gan osgoi iaith hirwyntog.