Addewidion Aber

Addewidion Aber yw ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Dyma’r cynllun mwyaf cynhwysfawr o’i fath gan unrhyw brifysgol yng Nghymru.

Mae’n cynllun strategaeth yn rhestru mewn un ddogfen flaenoriaethau’r Brifysgol ar gyfer ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac yn atgyfnerthu ymrwymiad Aberystwyth i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Mae’r addewidion yn nodi’r hyn sy’n arbennig am Aberystwyth a sut mae’r Brifysgol yn cynnig profiad Cymraeg cyflawn.

  • Llety clyd: lle i fyw yn Gymraeg
  • Arian yn dy boced: am ddilyn rhwng 5 a 40 credyd yn Gymraeg
  • Rhoi dy iaith ar waith: cefnogaeth i ddysgu a gwella dy Gymraeg
  • Aelodaeth o UMCA am ddim: agor y drws ar gymdeithas Gymraeg
  • Help! Tiwtor academaidd i dy helpu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Gofod i flaguro: gofod i gymdeithasau cyfrwng Cymraeg
  • Profiad Gwaith… gyda chwmnïau Cymraeg
  • Amryw-iaith: cyrsiau o bob math ar draws y Brifysgol- yn Gymraeg

 

“Mae Prifysgol Aberystwyth bob amser wedi arwain y sector addysg uwch ym maes darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Beth mae’r cynllun yma yn ei wneud yw sicrhau dilyniant a pharhad o’r hyn rydyn ni eisoes yn ei gynnig tra hefyd yn gosod amcanion uchelgeisiol o ran gwella a thorri tir newydd yn y maes.

“Yn nhermau cyflogadwyedd yn unig, un o ddeilliannau pwysicaf Addysg Uwch, mae llwyddiant arwyddocaol  graddedigion sydd wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn dystiolaeth digamsyniol o werth y buddsoddiad mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.” Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol, Prifysgol Aberystwyth.

“Beth sy’n arbennig am y cynllun yma yw ei fod yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg ym mron pob un o’r meysydd academaidd. Ac yn fwy na hynny, mae yna ddyfnder darpariaeth sy’n galluogi myfyrwyr i ddilyn cynlluniau gradd cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg." Mr Penri James, Darlithydd yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) a Chadeirydd Cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

“Mae’r Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg yn datgan ymrwymiad i ddatblygiad ac i ddyfodol yr iaith o fewn y Brifysgol ac yn genedlaethol. Dwi’n hynod o falch bod aelodaeth am ddim i UMCA yn rhan o’r cynllun sy’n dangos pa mor bwysig yw’r profiad cymdeithasol i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Ffactor arall sy’n rhan annatod o gymdeithas Gymraeg Aber yw’r gwarant o lety Cymraeg i bob myfyriwr Cymraeg.” Mared Edwards, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth