Wythnos Wobl
Mae pawb yn profi adegau pan fyddant yn teimlo'n ansicr ohonynt eu hunain neu'n cael ychydig o "wobl". Gall sigladau unrhyw un brofi wobl, ar unrhyw adeg, ac am bob math o resymau. Dyna pam rydym yn cyflwyno Wythnos Wobl ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Beth yw Wythnos Wobl?
Mae Wythnos Wobl yn ein hatgoffa bod uchafbwyntiau a heriau bywyd prifysgol yn gwbl normal. Er y gall bywyd prifysgol fod yn gyffrous, yn werth chweil ac yn llawn cyfleoedd newydd, gall fod adegau hefyd pan fo pethau'n teimlo'n heriol neu'n ansicr, ac mae hynny'n iawn.
Drwy gydol yr wythnos, cewch gyfle i fyfyrio ar eich lles eich hun, i gysylltu ag eraill, a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael yn y Brifysgol.
Yn bwysicaf oll, mae Wythnos Wobl yn eich atgoffa nad ydych ar eich pen eich hun. Mae'n iawn cael wobl. Mae’n digwydd i bawb.
