CroesoAber: Cymorth a Chefnogaeth

Ymholiadau Cyffredinol

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Holi Aber, a fydd yn gallu ateb eich ymholiad neu eich rhoi mewn cysylltiad â'r tîm priodol.

Cymorth Croeso, Llyfrgell Hugh Owen, Dydd Gwener-Sadwrn, 18-19 Medi 2026, 0900-1700

Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael:

  • Desg Ymholiadau Holi Aber / Ask Aber
  • Gwasanaethau Technegol
  • Gwasanaethau Cymorth Rhyngwladol a Myfyrwyr
  • Teithiau Tywys y Llyfrgell
  • Ffioedd Myfyrwyr

Cymorth Cofrestru, Llyfrgell Hugh Owen, Dydd Llun-Mercher 21-23 Medi 2026, 0900-1700

Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael:

  • Cymorth Cofrestru Academaidd
  • Desg Ymholiadau Holi Aber / Ask Aber
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Lles / Cyngor / Hygyrchedd
  • UKVI
  • Teithiau Tywys y Llyfrgell
  • Desgiau'r Cyfadrannau

Llety

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch llety, cysylltwch â'r Swyddfa Llety neu ewch i'w swyddfa yn Y Sgubor, Fferm Penglais. Mae gwybodaeth am symud i mewn a chasglu allweddi ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/new-students/moving-in

Cofrestru

Mae gwybodaeth am gofrestru ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd ar gael ar  https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/students/ug-issues/registration. Yn ystod Wythnos y Croeso, mae cymorth ar bob agwedd ar gofrestru ar gael o ddydd Llun 21ain Medi tan ddydd Mercher 23ain Medi yn Llyfrgell Hugh Owen rhwng 0900 a 1700.

Cyllid Myfyrwyr

Gall myfyrwyr gael cymorth gyda chyllid myfyrwyr yn y Parth Cymorth Croeso (Llyfrgell Hugh Owen) ddydd Gwener 18fed a dydd Sadwrn 19eg Medi rhwng 0900 a 1700, ac yn y Parth Cymorth Cofrestru (Llyfrgell Hugh Owen) o ddydd Llun 21ain Medi tan ddydd Mercher 23ain Medi rhwng 0900 a 1700. Mae'r porth cyllid ar gael ar https://financeportal.aber.ac.uk/.