Croeso i chi Fyfyrwyr Uwchraddedig
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Aberystwyth fel Myfyriwr Uwchraddedig. Efallai eich bod eisoes wedi astudio eich gradd israddedig efo ni felly 'Croeso nôl'! Os ydych yn newydd i Aberystwyth yna 'Croeso' am y tro cyntaf!
Mae'r dudalen yma wedi ei chynllunio'n benodol ar eich cyfer fel myfyriwr uwchraddedig, ac mae'n darparu'r wybodaeth berthnasol i chi o ran y cyfnod Croeso ac Ymgartrefu.
Sgroliwch lawr i ddod o hyd i amryw o wybodaeth megis eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol, i lyfr llaw cyffredinol sy'n rhoi gwybodaeth am yr wythnosau cyntaf a gwybodaeth am Ysgol y Graddedigion.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!

Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol
Defnyddiwch eich Cynllunydd Croeso ac Ymgartefu personol i'ch helpu i ddarganfod y digwyddiadau sy'n benodol i chi yn ystod Wythnos Groeso 2025 ac ar gyfer eich wythnosau cyntaf yn y Brifysgol.
Bydd gweithgareddau croeso eich adran yn ymddangos yn awtomatig yn seiliedig ar eich cynlluniau gradd, a gallwch hefyd weld yr holl gyfleoedd allgyrsiol sy’n gysylltiedig â Wythnos Groeso.
I wneud y gorau o brofiadau newydd yn y Brifysgol, cwrdd â phobl newydd neu yn syml i ddarganfod gwybodaeth gwerthfawr, defnyddiwch y Cynllunydd Ymgartrefu i ddarganfod pa ddigwyddiadau sy'n cymryd lle.

Amserlen Ganolog yr Wythnos Groeso 2025
Gallwch weld Amserlen Canolog Wythnos GroesoAber 2025 yma, sy'n eich galluogi i weld y gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi eu trefnu gan: Y Tîm Croeso Canolog, Adrannau Academaidd, UndebAber, Bywyd Preswyl.
Mae'r amserlen yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng Dydd Iau, 19eg Medi a Dydd Sadwrn, 27ain Medi.
Am wybodaeth fanylach ynghylch y digwyddiadau a'r gweithgareddau hyn, cofiwch fynd i’ch Cynllunydd Ymgartefu Personol lle gallwch weld y digwyddiadau hyn ochr yn ochr â'r rhai sydd wedi eu gan eich Adran Academaidd.

Dy Ganllaw ar gyfer yr Wythnosau Cyntaf yn y Brifysgol
Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â'n cymuned uwchraddedig yn y brifysgol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. Gobeithiwn y bydd y llawlyfr cyffredinol hwn yn ei gwneud hi'n haws i chi ymgartrefu yma’n Aberystwyth os ydych yn astudio yma am y tro cyntaf.
Mae'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i chi fel myfyriwr o safbwynt ymgartrefu yn y brifysgol trwy amlinellu ein cyfleusterau ar y campws, ac os ydych eisoes wedi astudio eich gradd israddedig efo ni, byddwch o bosib yn darganfod gwybodaeth ddefnyddiol o ran y themau ymgartrefu estynedig.
Mae ‘na wybodaeth pellach o ran ymgartrefu yn ein tref hefyd, ac ambell awgrym o ran cyrraedd llefydd a siopa am fwyd os ydych yn newydd i'r ardal!
Croeso i Aberystwyth!

CaruAber – Dod i Adnabod dy Brifysgol
Dyma dy le i ddarganfod, i ddysgu ac i ddatblygu.
Wrth i chi ddechrau ymgyfarwyddo â'r brifysgol rydym am gefnogi eich cyfnod pontio i'r brifysgol, ac i chi ddod i adnabod y Brifysgol yn well. Mae ein themâu CaruAber yn canolbwyntio ar saith elfen allweddol a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch amser gyda ni yn ystod eich cyfnod pontio.

Cwestiynau Cyffredin Croeso
Gwyliwch ein amrywiaeth o Gwestiynau Cyffredin ar gyfer eich cyfnod Croesawu ac Ymsefydlu yma’n Aber. Mae’r cwestiynau wedi eu dylunio ac wedi eu cyflwyno gan ein myfyrwyr ni yn dilyn eu profiadau nhw a’r cwestiynau y bydden nhw wedi eisiau gwybod. Maent wedi eu cyflwyno mewn ffurf fideos fer hefyd.

Ysgol y Graddedigion
Mae ein Hysgol i Raddedigion yn cefnogi pob agwedd o’ch amser yn Aberystwyth i wella eich profiad uwchraddedig a'ch helpu i ragori ym mhob maes academaidd o’ch astudiaethau.
Dewch o hyd i wybodaeth ddefnyddiol wedi ei rhannu gan yr Ysgol i Raddedigion yma sy'n ymwneud â lles, cymunedau a rhwydweithiau ymchwil, adnoddau cyfredol, a chysylltiadau defnyddiol eraill.