Academi Ddoethurol: hyfforddi ymchwilwyr proffesiynol

Croeso i’r Academi Ddoethurol

 

Rydyn ni yma i gefnogi hyfforddiant ymchwil a datblygiad proffesiynol myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac ymchwilwyr yn fwy cyffredinol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Isod, gallwch weld yr holl wybodaeth allweddol am eich profiad ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r lle gorau i ddechrau chwilio am ateb i’r rhan fwyaf o gwestiynau sydd gennych chi. Fodd bynnag, os na allwch chi ddod o hyd i ateb i gwestiwn penodol, neu os byddwch chi angen rhagor o fanylion, cysylltwch â ni yn academi.ddoethurol@aber.ac.uk 

 

Sylwer: mae’r Academi Ddoethurol yn gwasanaethu Graddau Ymchwil Ôl-raddedig yn unig (PhD, DProf, MPhil). Ar gyfer Graddau Ôl-raddedig a Addysgir (MA/MSc), cysylltwch â’r adran berthnasol.