Dy Rhestr Wirio CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu - Fersiwn Byr

Mae cychwyn yn y brifysgol yn amser cyffrous a ‘da ni am sicrhau eich bod yn ymgartrefu cyn gynted a phosib. Mae ffrindiau newydd i'w gwneud, llefydd newydd i'w darganfod a'r chyfleoedd lu i ddatblygu diddordebau newydd hyd yn oed yn y dyddiau cyntaf.

Cyn cwblhau'r tasgau isod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r rhestr wirio ‘CynAber – Cyn Cyrraedd’.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn y mae angen i chi ei wneud wrth gyrraedd, a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.

Er gwybodaeth, mae'r blychau sydd wedi eu lliwio mewn COCH yn cael eu hystyried yn dasgau hanfodol a'r rheini yn LAS yn cael eu hystyried yn dasgau argymelledig. 

Gwelwch y Rhestr Wirio CyrraeddAber manylach yma

3 wythnos cyn i chi gyrraedd y campws

Cofiwch eich Dyddiadau CyrraeddAber…

Cofiwch y dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber a bydd Llety'r Brifysgol ar gael i symud i mewn o ddechrau y Contract Meddiannaeth Llety.

Myfyrwyr yn cyrraedd y llety Dyddiadau’r Tymor
1 diwrnod cyn i chi gyrraedd y campws

Cyrraedd Aber o'ch Cartref

Os ydych yn symud i lety ar y campws, dilynwch y cyfarwyddiadau cyrraedd gan y Tîm Llety . P'un a yw mewn car, trên neu ddulliau eraill, darganfyddwch eich opsiynau ar sut i gyrraedd Aber.

Myfyriwr yn cyrraedd ar fws Teithio i Aberystwyth
Diwrnod Cyrraedd y Campws

Symud mewn i’ch Llety

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am gasglu eich allwedd a'ch Cerdyn Aber o'r rhestr wirio fanwl. Cofiwch hefyd gasglu eich Canllaw i’r Wythnos Groeso CroesoAber yn rhan o’r broses gofrestru llety.

Myfyrwyr gyda bagiau Symud i Mewn
Diwrnod Cyrraedd y Campws

Cysylltu â Wi-Fi campws

Pan gyrhaeddwch y campws gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â phrif rwydwaith diwifr y brifysgol, o'r enw eduroam. Gallwch wedyn gadw mewn cysylltiad lle bynnag yr ydych ar y campws.

Myfyrwyr yn edrych ar ffon Cysylltu â’r Wi-Fi
Penwythnos Cyrraedd (Dydd Iau 18 Medi – Dydd Sul 21 Medi 2025)

Ymweld a’r Parth Croeso

Os am gymorth a chefnogaeth ar y campws yn ystod penwythnos y prif ddyfodiaid ewch i’r Parth Croeso, ewch i siarad â'n cynghorwyr.

Llyfrgell Hugh Owen Lleoliad y Parth Croeso
Dydd Sul cyntaf ar y campws (Dydd Sul 21 Medi 2025)

Mynychu Sesiynau Sul Croeso Aber

Mae Sesiynau Sul Croeso Aber yn sgyrsiau wyneb yn wyneb sydd wedi eu cynllunio i ateb  cwestiynau ar ol i chi gyrraedd Aber. 

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am amseroedd ar gyfer y sgyrsiau hyn o'r rhestr wirio fanwl.

Cyflwyniadau Lleoliad y Sesiynau Sul
Wythnos Croeso (Dydd Llun 22 Medi – Dydd Sadwrn 27 Medi 2025)

Cymryd rhan mewn Digwyddiadau a Gweithgareddau Wythnos Croeso

Mae’r Wythnos Groeso yn wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau i bob fyfyriwr newydd a drefnir gan wahanol dimau ar draws y Brifysgol. Mae'r cyfan wedi'i anelu at groesawu pawb i'r campws. Y bwriad yw i bawb deimlo’n gartrefol, gwneud ffrindiau a chysylltiadau, ac ymgyfarwyddo â'r campws.

Bydd mwy o ddigwyddiadau'n cael eu hychwanegu yn y cyfnod cyn Wythnos Croeso felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw dod yn ôl.

Baner Prifysgol Aberystwyth Digwyddiadau’r Wythnos Groeso
Diwrnodau cyntaf yr Wythnos Groeso

Cwrdd â'ch adran!

Mae’r Sesiwn Sefydlu Academaidd yn gyflwyniad pwysig i'r cwrs a'r pwnc, cyn i'r gwaith ddechrau. Mae hyn yn cael ei gynnal dros sawl diwrnod yn ystod yr Wythnos Groeso. Mi fydd pob adran yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio dros yr wythnos a thu hwnt.

I gael gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yn eich adran, ewch i'r dudalen hon a dewiswch eich cwrs.

Cwrdd a darlithydd Gweithgareddau Adrannau Academaidd
Diwrnodau cyntaf yr Wythnos Groeso

Cwblhau eich Cofrestriad Cwrs

Cofiwch cyn i chi gael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd rhaid i chi gwblhau’r broses cofrestru. Os oes angen help cwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein neu unrhyw gymorth arall, gallwch ymweld a’r Parth Gofrestru yn ystod yr Wythnos Groeso:

Llyfrgell Hugh Owen Lleoliad y Parth Cofrestru
Yn ystod yr Wythnos Groeso (Dydd Mawrth 23 Medi – Dydd Iau 25 Medi 2025)

Ymweld â Ffair y Glas

Mae Ffair y Glas, a drefnir gan Undeb Aberystwyth (Undeb y Myfyrwyr) yn arddangos popeth sydd ar gynnig i fyfyrwyr. O gymdeithasau, clybiau chwaraeon a digwyddiadau, i ostyngiadau myfyrwyr gan frandiau mawr a busnesau lleol, mae Ffair y Glas yn rhan hollol allweddol o'r croeso Aber.

Myfyrwyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Manylion Ffair y Glas
Yn ystod yr Wythnos Groeso

Cwblhewch CroesoAber : Her y Campws

Cymerwch ran yn Her y Campws sy’n ffordd ddigidol rhyngweithiol a hunan-gyfeiriedig i archwilio ein campws. Gallwch ddod i adnabod y campws a'ch ffrindiau newydd ychydig yn well trwy wneud hyn fel grŵp hyd yn oed! I gael y gorau o'r daith, cwblhewch yr her efo pobol eraill, yn ystod y dydd ac os bydd hi'n bwrw glaw, defnyddiwch ymbarel!  

Mae'r daith hon yn defnyddio ap o'r enw Actionbound. I ddechrau, lawrlwythwch yr ap ar gyfer iOS -Cyswllt neu Android -Cyswllt ac yna ewch i'r dudalen wedi ei nodi islaw. 

Campws Penglais Her y Campws
Yn ystod yr Wythnos Groeso

Ymgysylltwch efo Arweinwyr Cyfoed Adrannol Croeso Aber (os yn gymwys) 

Bydd gan y mwyafrif o adrannau academaidd dîm o arweinwyr cyfoed adrannol sydd ar hyn o bryd yn astudio yn eu hail neu drydedd fwyddyn neu ar lefel ôl-raddedig. Gan ddibynnu ar yr adran rydych yn astudio gyda hi, mae’n bosibl y bydd arweinydd cyfoed yn cysylltu â chi yn awtomatig cyn i chi gyrraedd, neu bydd eich adran yn cysylltu â chi i ofyn a ydych yn dymuno cofrestru ar gyfer arweinydd cyfoed neu beidio. Yn ystod y cyfnod croeso bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau a derbyn gwybodaeth a fydd o gymorth i chi. 

Nodyn: Nid yw hyn yn berthnasol i rai adrannau. 

Tri myfyriwr yn cerdded ar campws Croeso Aber : Cymorth Cyfoedion
Yn ystod yr Wythnos Groeso

Hyfforddiant caniatâd ar-lein

Mae Aberystwyth yn brifysgol ddiogel, deg a chynhwysol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein campws yn le mwy diogel. Nid oes goddefgarwch i aflonyddu, unrhyw droseddau casineb, cam-drin ac ymddygiad gwylwyr. Drwy ddysgu mwy am ganiatâd a chwblhau'r hyfforddiant, helpwch ni i gadw Aberystwyth yn ddiogel.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Hyfforddiant Caniatâd
Yn ystod yr Wythnos Groeso

Cofrestu gyda meddyg

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu lleol. Rydym am sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i’ch helpu i gofrestru gyda meddyg teulu. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Myfyrwyr yn y dref Cofrestrwch ar-lein
Yn ystod yr Wythnos Groeso a Thu Hwnt

Help yn ystod eich Wythnos Cyrraedd Aber...

Bydd y Tîm A Myfywyr a'r staff o gwmpas drwy gydol dyddiau cyntaf y prif benwythnos cyrraedd. Fodd bynnag, bydd staff wrth law drwy gydol yr holl gyfnodau cyrraedd ac mae gennym restr o gysylltiadau allweddol

Arwydd 'Hola Fi' Manylion Cyswllt Allweddol
Tu Hwnt yr Wythnos Groeso

Gwybodaeth i bobl sy'n cyrraedd y tu allan i'r Wythnos Groeso

Rydym yn eich annog yn gryf i gyrraedd Aber mewn pryd ar gyfer dyddiadau allweddol CyrraeddAber i wneud y mwyaf o'r gweithgareddau ymgartrefu. Rydym yn deal fodd bynnag bod yna nifer o resymau pam nad yw hyn yn bosibl.

Ewch i’r rhestr wirio manwl yma am gamau pellach ynghylch cyrraedd tu allan i'r Wythnos Groeso.

Myfyrwyr ar y campws Cyrraedd tu allan i'r Wythnos Groeso