Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Research students inspecting crops at the National Phenomics Centre.

IBERS – Gallu Cenedlaethol y DU mewn Gwyddoniaeth Porfa a Bridio Planhigion

Mae IBERS yn sefydliad ymchwil blaenllaw, â’i fryd ar sicrhau bod dynoliaeth yn gallu cynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy y bwyd, y porthiant a’r adnoddau diwydiannol yn seiliedig ar blanhigion sydd eu hangen arni.

Gan adeiladu ar fwy na chanrif o arbenigedd mewn bridio planhigion, mae ein gwyddonwyr yn datblygu mathau newydd a gwell o laswellt, ceirch a chnydau gwydn eraill er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, iechyd dietegol a newid hinsawdd.

 

Rydym yn cydweithio’n agos â llunwyr polisï, cadwyni cyflewni, y diwydiant amaeth a phartneriaid eraill i sicrhau bod ein hymchwil yn ymestyn y tu hwnt i’n labordai a’n treialon maes arbrofol, gan gynnig manteision go iawn i gymdeithas.

 

Fel un o wyth sefydliad ymchwil yn unig a ariennir gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI (BBSRC), rydym yn darparu gallu cenedlaethol i’r DU mewn gwyddor porfa a bridio planhigion, gan gefnogi amcanion cynaliadwyedd strategol a thargedau sero net.

Rydym yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac wedi’n lleoli ar gampws Gogerddan, lle mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys canolfan ffenomeg planhigion genedlaethol, cyfleuster peilot bioburo uwch a banc hadau unigryw sy’n diogelu un o’r casgliadau mwyaf yn y byd o hadau glaswellt, meillion, ceirch a miscanthus. Mae gennym hefyd ffermydd ymchwil helaeth, gan gynnwys Canolfan Ymchwil yr Ucheldir, Pwllpeiran. At ei gilydd, mae’r rhain yn cwmpasu dros 1,000 hectar ac yn cynnig ystod graddiant o lefel y môr hyd at 600m o uchder.

Cymerwch olwg ar ein llyfryn Biowyddorau ar gyfer Gwell Yfory i ddysgu mwy am ein gwaith arloesol. Gallwch hefyd lawrlwytho copi PDF.

Rydym yn canolbwyntio ar gnydau Porthiant, Bwyd a Ffibr gyda’r ymchwil yn cael eu rhannu rhwng y grwpiau canlynol: