Cymorth a Chyngor ar Markdown

Mae Markdown yn iaith arwyddnodi ysgafn gyda chystrawen fformatio testun plaen a gynlluniwyd fel y gellir ei drosi i HTML a llawer o fformatau eraill. Caiff Markdown ei ddefnyddio yn aml i greu testun cyfoethog wrth ddefnyddio golygydd testun plaen.

Ar y sgrin "Proffil Gwe" yn Pobl Aber gallwch ddefnyddio cystrawen Markdown i gyflawni fformatio megis penawdau, llythrennau trwm, italig, dolennau gwe ac ati.

Yna caiff y Markdown hwn ei drawsnewid i HTML pan fydd eich proffil yn cael ei arddangos ar y wefan.

Adnoddau Markdown

Dyma rai adnoddau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol wrth weithio gyda Markdown