Ysgoloriaethau Adrannol

‌‌Mae'r Adran a'r Brifysgol yn cynnig amrediad o ysgoloriaethau a bwrsariaethau

Mae yna nifer o wobrau ar gael bob blwyddyn. Gweler y dudalen ar Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am fwy o fanylion.

Ysgoloriaethau adrannol

Mae’r Adran Fathemateg wedi ymrwymo i gefnogi ymgeiswyr brwd o safon uchel i astudio Mathemateg. Mae’r Ysgoloriaeth Adrannol yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau ac mae’n ychwanegiad clodfawr i unrhyw CV. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeisydd naill ai fod wedi ennill Ysgoloriaeth Mynediad y Brifysgol, neu lwyddo i gael gradd A* yn eu lefel A mewn Mathemateg.