Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Gwnewch gais i Aberystwyth nawr am gyfle i gael dros £18,000 mewn Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Pam dylwn i wneud cais am ysgoloriaeth?
Mae llawer o resymau dros wneud cais i astudio yn Aberystwyth – yn ogystal ag addysgu ac ymchwil o’r safon uchaf rydym yn cynnig profiad myfyriwr heb ei ail mewn lleoliad godidog. Mae Aberystwyth hefyd yn rhoi pwyslais ar gefnogi ein myfyrwyr, gan gynnwys yn ariannol. Mae ein hysgoloriaethau a bwrsariaethau hael yn golygu y gall ein myfyrwyr gyfuno pecynnau ariannol gwerth dros £18,000, a’r newyddion da yw nad oes angen ei ad-dalu!
Gwnewch gais nawr ar gyfer Ysgoloriaeth Mynediad
Os ydych chi’n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth, mynnwch gip ar ein Hysgoloriaeth Mynediad. Gellir ennill £1,000 y flwyddyn a chael cynnig diamod. Dyddiad cau gwneud cais yw 29 Ionawr a byddwch yn cael eich gwahodd i sefyll dau arholiad, naill ai yn Aberystwyth neu yn eich ysgol/coleg*. Mwy o wybodaeth ar gael yma.
*sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.
Pa ysgoloriaethau eraill sydd ar gael?
Mae gennym nifer o wobrau ar gael i’n myfyrwyr a gellir cyfuno pecynnau ariannol. Cewch edrych ar ein llyfryn Cymorth Ariannol a Gwobrau neu ddilyn y dolenni isod am fwy o wybodaeth.
Pwysig
Sylwer bod ymgeiswyr i'r cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth yn gymwys i gael ysgoloriaethau a bwrsariaethau a ddyfernir gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn hytrach na dyfarniadau Prifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag, gweler y ddolen isod am amrywiaeth o ddyfarniadau a grëwyd yn benodol ar gyfer ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol.
-
Ysgoloriaethau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod
hyd at £1,000 y flwyddyn a chynnig diamod
Darganfod mwy -
Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd
£2,000 am gael 3 radd A mewn arholiadau Safon Uwch (neu gymhwysterau cyfwerth)
Darganfod mwy -
Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifanc a Myfyrwyr sydd wedi’u Dieithrio
£1,500 y flwyddyn a nifer o fuddion eraill
Darganfod mwy -
Ysgoloriaethau Astudio drwy’r Gymraeg
hyd at £400 y flwyddyn am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Darganfod mwy -
Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gwobrau am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Darganfod mwy -
Ysgoloriaethau Adrannol
- ar gyfer Amaeth, Cyfrifiadureg, Mathemateg, Ffiseg a'r Gymraeg
Darganfod mwy -
Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc)
Bwrsariaethau ar gyfer BVSc Gwyddor Milfeddygaeth (YD105)
Darganfod mwy -
Nyrsio - Bwrsariaethau Llety
£3,500 oddi ar y ffi llety yn y flwyddyn gyntaf (i ymgeiswyr o ardaloedd penodol)
Darganfod mwy -
Ysgoloriaethau Chwaraeon
£1,000 y flwyddyn am ragori mewn chwaraeon, ar gael ar gyfer unrhyw gwrs
Darganfod mwy -
Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth–Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth
£4,000 a buddion eraill, ar gyfer chwaraewyr pêl-droed profiadol
Darganfod mwy -
Ysgoloriaethau Cerdd
£650 y flwyddyn am ragoriaeth cerddorol, ar gael ar gyfer unrhyw gwrs
Darganfod mwy -
Grant CCF (Cangen Caerdydd)
hyd at £1,500 am flwyddyn, agored i ymgeiswyr sy'n byw yn ardaloedd CF ac NP
Darganfod mwy -
Arddangosfeydd Stuart Rendel
Hyd at £1,000 y flwyddyn, ar gyfer ymgeiswyr o Sir Drefaldwyn
Darganfod mwy
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac sy'n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am ysgoloriaeth/grant/gymorth ariannol yn Gymraeg neu'n Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.