Dysgu Gydol Oes

Pwy all gofrestru ar gwrs Dysgu Gydol Oes?

Rydym yn cynnig cyrsiau rhan amser i oedolion dros 16 oed. Nid oes angen cymhwyster na phrofiad blaenorol arnoch i gofrestru ar gwrs Dysgu Gydol Oes; ond o dan rai amgylchiadau, bydd yn fanteisiol eich bod wedi cwblhau rhai modiwlau cyn symud ymlaen i’r cam nesaf – rydym yn nodi hyn yn glir yn nisgrifiadau’r cyrsiau. Os nad ydych yn sicr ar ba lefel i ymuno, mae croeso i chi gysylltu â’r Cydgysylltydd Pwnc perthnasol.

Myfyrwyr 16 oed neu iau

  • Dim ond am resymau addysgol y byddwn yn derbyn myfyrwyr 16 neu iau.
  • Nid yw’n ymarferol pennu cymhwyster gofynnol, neu set sgiliau, o ran derbyn myfyrwyr o dan 16 oed i’r Ysgol, ond bydd gofyn bod myfyrwyr o dan 16 oed wedi cyrraedd Cyfnod Allweddol 3.
  • Nid yw’r Brifysgol yn gweithredu in loco parentis. Ymhellach, ni fyddwn yn derbyn unrhyw blentyn sy’n dod i ddosbarth gydag oedolyn am resymau gofal plant.

Beth os nad yw’r cwrs ar gael yn fy ardal i?

Os oes gan 8 o bobl ddiddordeb mewn cwrs penodol, gallwn gynnal cwrs mewn lleoliad ac ar adeg sy’n gyfleus i chi (os bydd tiwtor ar gael). Cysylltwch â’r Cydgysylltydd perthnasol i drafod hyn.

Beth fydd y gofynion os byddaf yn cofrestru ar gwrs?

Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau’n cynnwys 20 awr o waith grŵp gyda thiwtor. Cewch eich dysgu drwy waith a thrafodaethau grŵp, gan elwa ar brofiadau a gwybodaeth y myfyrwyr yn ogystal â’r tiwtor. Tu allan i’r sesiynau hyn, bydd angen i chi dreulio ychydig o amser yn darllen ac yn astudio’n annibynnol, gan gynnwys cwblhau aseiniadau. Mae aseiniadau’n rhan hanfodol o’r profiad dysgu. Maen nhw’n eich helpu i weithio’n annibynnol, dod i ddeall mwy am yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu, ac arddangos eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Ymhlith aseiniadau posib, mae myfyrio am eich profiad gwaith, cyflwyniadau, posteri, adroddiadau ysgrifenedig, astudiaethau achos ac arddangosfeydd ymarferol. Nid oes unrhyw arholiadau na phrofion wedi’u hamseru.

Gwaith cwrs ac ennill credydau

Mae’r holl gyrsiau sy’n rhan o’n darpariaeth ran-amser yn cael cymhorthdal hael gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Felly, mae’r holl gyrsiau’n rhoi gwerth da am arian. Mae’r Cyngor Cyllido’n pennu swm y grant y bydd yn ei roi i Brifysgol Aberystwyth i’w helpu i ddarparu’r cyrsiau hyn ar sail y “credydau” prifysgol sy’n cael eu rhoi. Bydd myfyrwyr yn ennill “credydau” ar ôl cyflwyno gwaith ac ar ôl i’r marciau gael eu cymeradwyo. Felly, er mwyn parhau â’n gwaith, mae angen i bob myfyriwr gwblhau’r aseiniadau a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r cwrs.

Dyma’r unig incwm y byddwn yn ei gael gan y llywodraeth. Drwy wneud hyn, byddwch yn dod i ddeall mwy am y pwnc, yn cael adborth adeiladol am eich cynnydd gan arbenigwr ac, ar ben hynny, yn sicrhau bod cost eich astudiaethau ar lefel Addysg Uwch yn parhau i fod yn isel.