Celf a Dylunio

 

Mae ein cyrsiau Celf a Dylunio’n addas i bawb! P'un a ydych chi'n ddechreuwr sy'n ystyried diddordeb newydd neu’n artist profiadol sy'n ceisio mireinio'ch sgiliau. Drwy gwmpasu ystod eang o bynciau—o baentio a cherflunio i ddylunio graffeg a chelfyddydau digidol—mae ein cyrsiau'n cynnig cyfuniad unigryw o dechnegau traddodiadol ac arferion cyfoes. Maent yn darparu amgylchedd meithringar lle gall oedolion sy’n ddysgwyr ailddarganfod eu hawen greadigol, datblygu eu galluoedd artistig, ac ymgysylltu ag unigolion o'r un anian mewn taith o ymchwilio artistig a hunanfynegiant.

Porwch drwy ein Cyrsiau Celf a Dylunio trwy glicio yma. Gallwch hefyd weld Clipiau Fideo Rhagflas, a darllen ein Llythyrau Cychwyn Cwrs i gael mwy o wybodaeth.

Heb wneud unrhyw waith celf o'r blaen? Peidiwch â phoeni! Mae gennym gyfres o fodiwlau celf Lefel 0 (FfCChC3) sy'n gyrsiau seiliedig ar sgiliau i'ch helpu i ymlacio i astudio celf a dylunio. Mae'r rhain yn rhoi sylfaen i chi yn y technegau, ac yn eich galluogi i drochi eich traed yn y dŵr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen ebostiwch Alison Pierse ar chp@aber.ac.uk. Ar gyfer ymholiadau gweinyddol, e-bostiwch y Swyddfa Dysgu Gydol Oes dysgu@aber.ac.uk.

Tysfysgrif Addysg Uwch Celf a Dylunio

Rydym yn cynnig Tystysgrif Addysg Uwch o fewn ein cyrsiau Celf a Dylunio. Mae gennych 5 mlynedd i gyflawni’r astudiaethau sydd eu hangen, sef gwerth 120 o gredydau (FfCChC4). Byddwch naill ai’n pasio neu’n methu’r Dystysgrif a bydd angen ichi astudio modiwlau allweddol (sy’n dod i gyfanswm o 70 credyd) er mwyn rhoi addysg gyflawn ichi ym maes celf. Gall y modiwlau Allweddol hyn fod yn fodd ichi ddod o hyd i'ch hoff gyfrwng wrth baentio a darlunio. Mae'r modiwlau dewisol yn eich galluogi i astudio agwedd benodol yn fwy manwl.

I grynhoi:

  • Cwblhau 120 o gredydau
  • Gall 20 credyd fod ar Lefel "0" (FfCChC3)
  • Rhaid i 70 credyd fod yn fodiwlau Allweddol
  • Mae’r modiwlau canlynol yn orfodol:
  • Modiwl tiwtorial
  • Tri modiwl hanes celf penodol
  • Sicrhau cyfartaledd wedi’i bwysoli o 40% yn gyffredinol
  • Bod yn bresennol ar gyfer 60% o'r cwrs

Fformat y Cynllun

Mae modiwlau allweddol yn rhoi sampl o’r deunyddiau a’r cyfryngau celf yr hoffech eu hastudio'n fanylach. Mae modiwlau pellach sy’n defnyddio cyfrwng penodol ar gael yn y Rhestrau Dewisol ac maent yn cwmpasu modiwlau tri dimensiwn, dylunio, paentio dau ddimensiwn a lluniadu, dylunio cysylltiedig â chyfrifiaduron, gwneud printiau, a hanes celf. Felly, mae hyn yn galluogi i chi gynllunio eich dysgu eich hun i gyd-daro â’ch cryfderau.

Mae'r tiwtoriaid yn dod â'n darpariaeth at garreg eich drws, ond mae ar rai modiwlau angen mwy o gefnogaeth dechnegol, neu mwy o le, a bydd angen i chi deithio i Aberystwyth ar gyfer ambell gwrs, ond rydym yn ceisio trefnu i chi rannu ceir i’ch helpu. Rydyn ni hefyd yn cylchdroi dosbarthiadau fel eu bod nhw'n cael eu cynnal yn y gwahanol gymdogaethau dros gyfnod o flynyddoedd. Fe allech chi ystyried ein dysgu ar-lein wrth eich pwysau heb unrhyw gostau teithio. Cynhelir ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ystod y dydd, nosweithiau a phenwythnosau, gwyliau ac mewn ysgolion preswyl yn yr haf. Cynhelir rhai dosbarthiadau yn ein prif ardaloedd craidd, ond rydym hefyd yn dysgu mewn ardaloedd pellach i ffwrdd, er enghraifft mewn neuaddau pentref ac orielau.

Pa ddilyniant sydd i’r Dystysgrif?

Mae cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio, ynghyd â chyfweliad a phortffolio yn caniatáu mynediad i 2il flwyddyn y rhaglen radd (FfCChC5) yn yr Ysgol Gelf, Aberystwyth.  Mae ganddynt nifer o raddau ac mae pob cynllun gradd yn gofyn am ystod o fodiwlau allweddol neu graidd sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo; bydd y rhain yn cael eu rhestru yn eich llawlyfr myfyrwyr a fydd yn cael ei anfon atoch chi wrth gofrestru.

I gofrestru ar gyfer y Dystysgrif cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ffurflen Gofrestru Tystysgrif Addysg Uwch/Diploma Addysg Uwch

Tystysgrif Addysg Uwch a Chyflogadwyedd

Tystysgrif Addysg Uwch:  Celf a Dylunio

"Ches i erioed gyfle i astudio celf yn yr ysgol"

"Dw i eisiau gweithio ac astudio"

"Dydw i ddim yn teimlo y gallaf ymrwymo i astudio amser llawn"

"Mae gen i syniad y gallwn i fod yn dda mewn celf"

“Mae'r adnoddau hynny fel aur”

Mae’r rhain yn sylwadau rydyn ni’n eu clywed yn aml gan ein myfyrwyr newydd.  Maen nhw wedi penderfynu cyfoethogi eu bywyd trwy astudio Celf a Dylunio yn yr adran Dysgu Gydol Oes.  Mae gan ein tiwtoriaid gyfoeth o brofiad o addysgu oedolion sy'n ddysgwyr, llawer ohonynt wedi dysgu fel oedolion eu hunain ac yn deall yr angen i gael cefnogaeth a magu hyder.  Gallant deilwra eich llwybr dysgu, eich cynorthwyo i ddatblygu eich cryfderau a’ch diddordebau a chanolbwyntio ar y meysydd lle mae angen i chi ddatblygu. 

 

Beth mae darpariaeth wyneb yn wyneb yn ei gynnwys:

  • Rydym yn cynnal dosbarthiadau yn eich milltir sgwâr mewn pentrefi a threfi anghysbell ar hyd a lled Canolbarth Cymru.
  • Dysgu mewn gerddi ac orielau hyfryd gydag adnoddau ac ysbrydoliaeth ar flaenau eich bysedd
  • Dysgu celf alwedigaethol mewn ysgolion preswyl
  • Gallwch astudio ar yr un pryd â gweithio
  • Cynnig cyrsiau celf ar benwythnosau a gyda'r nos
  • Dosbarthiadau am ddiwrnod cyfan yn hytrach na dosbarthiadau dwyawr, sy'n arbed petrol
  • Mae'r cyrsiau dydd yn cyd-daro ag oriau ysgol
  • Arbenigo mewn dysgu oedolion, gan deilwra ein darpariaeth, ein hasesu a’n cynlluniau gwaith yn benodol ar gyfer oedolion
  • Rhedeg llawer o gyrsiau sy'n addas ar gyfer eich datblygiad proffesiynol megis Dehongli ac Addysgu mewn Amgueddfa / Oriel, Marchnata eich hun fel ymarferydd celf a Gwneud cerfluniau helyg

Cwestiynau Cyffredin

  • Mae gennych 5 mlynedd i gasglu 120 o gredydau; hynny yw, tuag un cwrs y tymor
  • Nid oes raid ichi gofrestru ar y Dystysgrif Celf a Dylunio er mwyn astudio gyda ni
  • Gallwch astudio ein cyrsiau yn gyrsiau unigol
  • Gallwch astudio cyrsiau Lefel 0 (FfCChC3) i weld a ydych yn hoffi ein ffordd o’ch dysgu
  • Rydyn ni’n falch iawn o'n staff diwyd
  • Mae nifer o’n tiwtoriaid yn weithwyr proffesiynol yn eu maes
  • Rydyn ni’n ystyriol o’r holl fyfyrwyr hynny sy’n dechrau ar eu hastudiaethau ac nad ydynt wedi gwneud unrhyw waith celf o'r blaen
  • Mae gennym gyfres o gyrsiau Lefel O mewn arlunio, paentio a cherflunio.

Sut gallaf basio'r Dystysgrif?

Mae gennych 5 mlynedd i gyflawni’r astudiaethau sydd eu hangen, sef gwerth 120 o gredydau (FfCChC4).  Byddwch naill ai’n pasio neu’n methu’r Dystysgrif a bydd angen ichi astudio gwerth 70 credyd o fodiwlau allweddol er mwyn rhoi addysg gyflawn ichi ym maes celf.    Gall y modiwlau Allweddol hyn fod yn fodd ichi ddod o hyd i'ch hoff gyfrwng wrth beintio a darlunio.  Mae'r modiwlau dewisol yn eich galluogi i astudio agwedd benodol yn fwy manwl.

I grynhoi:

  • Cwblhau 120 o gredydau
  • Gall 20 credyd fod ar Lefel "0" (CQFW3)
  • Rhaid i 70 credyd fod yn fodiwlau Allweddol
  • Mae’r modiwlau canlynol yn orfodol:
  • Modiwl tiwtorial
  • Tri modiwl hanes celf penodol
  • Sicrhau cyfartaledd wedi’i bwysoli o 40% yn gyffredinol
  • Bod yn bresennol ar gyfer 60% o'r cwrs

Fformat y Cynllun

Mae modiwlau allweddol yn rhoi sampl o’r deunyddiau a’r cyfryngau celf yr hoffech eu hastudio'n fanylach.  Mae modiwlau pellach sy’n defnyddio cyfrwng penodol ar gael yn y Rhestrau Dewisol ac maent yn cwmpasu modiwlau tri dimensiwn, dylunio, paentio dau ddimensiwn a lluniadu, dylunio cysylltiedig â chyfrifiaduron, gwneud printiau, a hanes celf.  Felly, mae hyn yn galluogi i chi gynllunio eich dysgu eich hun i gyd-daro â’ch cryfderau.

Mae'r tiwtoriaid yn dod â'n darpariaeth at garreg eich drws, ond mae ar rai modiwlau angen mwy o gefnogaeth dechnegol, neu mwy o le, a bydd angen i chi deithio i Aberystwyth ar gyfer ambell gwrs, ond rydym yn ceisio trefnu i chi rannu ceir i’ch helpu.  Rydyn ni hefyd yn cylchdroi dosbarthiadau fel eu bod nhw'n cael eu cynnal yn y gwahanol gymdogaethau dros gyfnod o flynyddoedd.  Fe allech chi ystyried ein dysgu ar-lein wrth eich pwysau heb unrhyw gostau teithio.  Cynhelir ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ystod y dydd, nosweithiau a phenwythnosau, gwyliau ac mewn ysgolion preswyl yn yr haf.  Cynhelir rhai dosbarthiadau yn ein prif ardaloedd craidd, ond rydym hefyd yn dysgu mewn ardaloedd pellach i ffwrdd, er enghraifft mewn neuaddau pentref ac orielau.

Pa ddilyniant sydd i’r Dystysgrif?

Mae cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio, ynghyd â chyfweliad a phortffolio yn caniatáu mynediad i 2il flwyddyn y rhaglen radd (CQFW5) yn yr Ysgol Gelf, Aberystwyth.   Mae ganddynt nifer o raddau ac mae pob cynllun gradd yn gofyn am ystod o fodiwlau allweddol neu graidd sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo; bydd y rhain yn cael eu rhestru yn eich llawlyfr myfyrwyr a fydd yn cael ei anfon atoch chi wrth gofrestru.

I gofrestru ar gyfer y Dystysgrif cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ffurflen Gofrestru Tystysgrif Addysg Uwch/Diploma Addysg Uwch

 

Cyflogadwyedd

Sut all ein cyrsiau eich cynorthwyo i gael swydd neu ddyrchafiad?

Bydd myfyrwyr yn dangos meddwl creadigol, ymwybyddiaeth o ofod, cysyniadau dylunio, ymwybyddiaeth weledol, a damcaniaeth lliw yn gysylltiedig â marchnata a hyrwyddo.  Byddwn hefyd yn datblygu sgiliau arddangos a dylunio, datrys problemau, cyd-drafod, a gweithio ar sail cyfarwyddyd penodol.  Bydd sgiliau dadansoddi, meddwl beirniadol, a dealltwriaeth o'r berthynas rhwng ymarfer celf a hanes celf yn cael eu dysgu.  Yn ogystal, mae hunan-fyfyrio beirniadol, datblygu ymholiad personol, rheoli amser a gweithio o fewn i gyfyngiadau amser yn sgiliau sy'n eich gwneud yn fwy cyflogadwy ac yn cael eu hannog yn ein modiwlau Celf a Dylunio.

Dyna enwi ambell un!  Ydych chi'n gwneud yn sicr eich bod yn pwysleisio’r rhain yn eich ceisiadau?

Dywedodd y diweddar Syr Ken Robinson, "Mae creadigrwydd nawr mor bwysig â llythrennedd ym myd addysg, a dylen ni roi’r un statws iddo."  Ystyriwch…mae gan fyfyrwyr ar gyrsiau Celf a Dylunio fwy o allu i weld trwy broblemau a gweithredu arnynt i’w datrys mewn ffordd greadigol.

Yn ogystal, gall y modiwlau penodol hyn wella cyflogadwyedd a helpu i sefydlu busnesau yn y cartref a busnesau annibynnol.

Uwch-gylchu dillad Rhoi cyfle i fyfyrwyr werthu eu gwaith.  Mae tri modiwl yn y gyfres hon; Mae rhai myfyrwyr wedi dechrau eu label ffasiwn eu hunain.

Cerfluniau Helyg a Helyg Byw Mae cyrsiau gwneud cerfluniau yn cael eu cymryd gan ddylunwyr gardd o fusnesau bach.

Marchnata eich hun fel Ymarferydd Celf a Dylunio Mewnol Mae hwn yn cael ei gymryd gan y rhai sy'n sefydlu diwydiannau crefft yn y cartref.

Addysg a Dehongli mewn Amgueddfa / Oriel Mae hwn yn rhoi sgiliau i chi ddylunio rhaglenni addysg ac yn sicr o roi syniad go dda i chi p’un a ydych am fynd i ddysgu.

Deialog, Trafodaeth, Dadl Mae hwn yn datblygu hyder wrth fynd i'r afael â gwahanol gynulleidfaoedd mewn ffordd hwyliog.

Menter: ewch amdani! Mae'n fodiwl sy'n amlygu'r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu busnes.  Ydych chi'n reolwr da, arweinydd?  Pa sgiliau newydd fydd eu hangen arnoch?

Tystebau

Efallai y bydd sylwadau ychydig o fyfyrwyr yn rhoi cipolwg i chi ar sut beth yw astudio cwrs gyda ni.

  • "Mae'r cyrsiau a ddarperir o fewn y rhaglenni Dysgu Gydol Oes yn rhoi cyfleoedd rhagorol i barhau i hunanddatblygu y tu hwnt i ymddeoliad"
  • "Prif gryfder y cwrs oedd y tiwtor gwych oedd yn ei arwain. Roeddwn yn hapus iawn gyda'r cwrs cyfan."
  • "Roedd yn teimlo fel cynnydd da drwy'r cwrs. Roedd y tiwtor yn hawddgar ac yn ddefnyddiol, ac mae wedi agor cyfrwng cwbl newydd i mi"
  • "Hyfforddiant bywiog a chefnogol, roedd sylwadau'r tiwtoriaid yn benodol a chefais fy ymestyn i'r eithaf"
  • "Tiwtor ysbrydoledig a daniodd ddychymyg yr holl fyfyrwyr!"
  • "Roedd y cwrs yn addysgiadol ac yn ddiddorol. Fe wnes i wir ei fwynhau."
  • "Wedi mwynhau'r cwrs ac eisiau mwy, tiwtor ardderchog gyda llawer o amynedd"
  • "Mae mor anghyffredin dod ar draws tiwtor mor ddawnus a brwdfrydig"
  • "Cwrs gwych, tiwtor gwych, wrth fy modd"
  • "Roeddwn i'n hoffi ei fod ar-lein ac wrth fy mhwysau gyda fideos hyfforddiant clir a difyr"
  • "Mae wedi bod yn agoriad llygad, dwi'n gweld pethau'n wahanol nawr, hyfforddiant da iawn"
  • "Gallu cynllunio'r cwrs fy hun yn hytrach na chael terfynau amser penodol, ansawdd yr adborth a'r cynnwys amrywiol sydd ar gael drwy Blackboard. Ni allaf feddwl am unrhyw welliannau."
  • "Mae yna gryn dipyn o gyrsiau celf i oedolion yn yr ardal (Gogledd Essex) ond nid ydynt yn cael ystyriaeth o ddifrif fel y cyrsiau yn Aberystwyth. Er fy mod yn meddwl bod y system gredyd yn Aberystwyth ychydig yn ddiflas weithiau, rwy'n credu bod y gwahanol ofynion wedi canolbwyntio'r meddwl a chynhyrchu ymatebion o ansawdd uwch gan y myfyrwyr.  Diolch yn fawr gan fyfyriwr diolchgar."