Ecoleg
Mae’r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau ym maes pwnc Ecoleg. O Amrywiaeth Anifeiliaid a Phlanhigion i fodiwlau ar Ffyngau ac Adar, rydym yn sicr y byddwch yn dod o hyd i bwnc diddorol i’w astudio.
Gallwch astudio modiwlau unigol, neu gallwch weithio tuag at Dystysgrif mewn Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes ac yna, os dymunwch, Ddiploma.
Cyflwynir ein cyrsiau mewn 3 fformat gwahanol:
Dysgu ar-lein ar eich cyflymdra eich hun; a gyflwynir drwy Blackboard, ein hamgylchedd dysgu ar-lein.
Dysgu wyneb yn wyneb mewn amryw o leoliadau ecoleg ledled Cymru.
Dysgu cyfunol; cymysgedd o’r ddau, lle byddwch chi’n astudio nifer o unedau ar-lein ar eich cyflymdra eich hun cyn mynychu 1 neu 2 ddiwrnod o ddysgu wyneb yn wyneb mewn lleoliad ecoleg yng Nghymru.
Pa ffordd bynnag y dewiswch astudio gyda ni, fe wnawn yn sicr y cewch ddigon o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn ichi wneud y mwyaf o'ch profiad o ddysgu. Mae pob un o'n modiwlau wedi'u hachredu gan y brifysgol ac mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o ddarparu addysg oedolion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, e-bostiwch Dr Calista Williams, caw52@aber.ac.uk. Os oes gennych ymholiadau gweinyddol, e-bostiwch y Swyddfa Dysgu Gydol Oes, dysgu@aber.ac.uk.