Astudiaethau Hanes Naturiol

 

Astudiaethau Natur yw astudio byd natur, cofnodi rhywogaethau unigryw bywyd ar y ddaear yn fanwl. Cyfle i Gelf gyfarfod â Gwyddoniaeth ar delerau cyfartal. Bydd astudiaethau’n creu cysylltiadau a byddant yn seiliedig ar gyfeirnodi cyd-destunol a hanesyddol. Byddwch yn astudio technegau celf mwyhau, cyfansoddi, cymysgu lliwiau, adnabod a hefyd yn astudio ecoleg ac adnabod.

Proffil Myfyriwr

Thuy Bui Howarth o Fietnam

Y rhesymau am fy nghais am y Dystysgrif Addysg Uwch: Astudiaethau Natur 

Po fwyaf rwy'n ei ddysgu am blanhigion, blodau, anifeiliaid, pryfed ac ecoleg, mwyaf fy syndod ynghylch maint ein dinistr ni fodau dynol o’r ecosystem a'r amgylchedd. Hoffwn allu gwneud cyfraniad bychan iawn tuag at newid y ffaith drist hon drwy ledaenu fy narluniau yn ogystal â gwybodaeth Fotanegol i'r byd. A'r unig ffordd y gallaf wneud hynny yw trwy ddysgu. 

A minnau’n berson Fietnamaidd sy'n byw yn Ewrop (Y Swistir), dechreuais fagu diddordeb mewn Darlunio Botanegol yn ddiweddar iawn. Mae hwn yn broffesiwn newydd sbon nad yw'n bodoli yn Fietnam eto, mewn unrhyw raglen hyfforddiant academaidd ffurfiol hyd y gwn i. Felly, yn y dyfodol agos, os oes modd, hoffwn greu lle i artistiaid Botanegol a Botanegwyr Fietnam gwrdd, dysgu a thrafod er lles ecosystem Fietnam ac i helpu pobl i ddeall mwy am bwysigrwydd planhigion, blodau, anifeiliaid, pryfed a'r hyn y gall pob un ohonom ei wneud i wneud ein Daear yn lle mwy gwyrdd.