Beth yw Dysgu Gydol Oes?

Ydy Dysgu Gydol Oes yn rhywbeth i chi?

Ymchwil parhaus am wybodaeth yw dysgu gydol oes - ymchwil a ysgogir gennych chi’ch hun ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol, sef yn y bôn, y cysyniad nad ydych chi byth yn rhoi'r gorau i ddysgu. Mae'n golygu nad yw addysg a dysgu wedi'u cyfyngu i ffurfioldeb ysgol neu gyfnod penodol mewn bywyd ond ei fod yn ymestyn trwy gydol oes unigolyn. 

Rhai o nodweddion dysgu gydol oes:

  1. Taith ddi-ben-draw: bod yn fyfyriwr sy’n astudio bywyd, wastad yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu, waeth pa mor hen rydych chi.
  2. Hunan-ysgogol: rydych chi'n dysgu am eich bod chi eisiau, nid dim ond am fod yn rhaid i chi. Efallai eich bod yn chwilfrydig, yn chwilio am yrfa newydd, neu eisiau dysgu math newydd o gelf neu iaith!
  3. Unrhyw le a phobman: nid yw dysgu gydol oes wedi'i gyfyngu i'r ystafell ddosbarth, gallwch ddysgu o fideo, podlediad, llyfr, neu sgwrs mewn siop goffi.
  4. Cadw ar y blaen: mae'r byd yn newid trwy’r amser. Trwy barhau i ddysgu, rydych chi'n cadw i fyny â'r datblygiadau diweddaraf a byth yn teimlo allan ohoni.
  5. Twf: mae rhai pobl yn dysgu ar gyfer eu gwaith. Efallai bod eraill yn dysgu er mwyn gallu siarad iaith newydd, deall ffurf wahanol ar gelfyddyd, datblygu diddordeb neu dim ond i wybod mwy am y byd.
  6. Nid llyfrau yn unig: nid dim ond darllen llyfrau neu ennill gradd. Mae'n ymwneud â deall diwylliannau, pobl, a sut mae pethau'n gweithio.
  7. Chi sy’n rheoli: chi sy'n penderfynu beth i ddysgu, gan wneud dewisiadau sy'n eich cynorthwyo i dyfu a gwneud penderfyniadau mewn bywyd.
  8. Cwestiynu popeth: mae dysgwyr gydol oes yn gofyn "pam" a "sut." Maen nhw wrth eu bodd yn canfod syniadau newydd.

Yn syml: mae dysgu gydol oes yn ymwneud â chadw’n chwilfrydig, bod yn barod i gydio yn rhywbeth newydd, a pheidio â meddwl eich bod wedi dysgu'r cwbl.

Pwy sy’n gallu ymuno â Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae gennym ddewis da o gyrsiau yn ein Hadran Dysgu Gydol Oes, sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae ein cyrsiau ar agor i oedolion o bob oed, yn ogystal â myfyrwyr o unrhyw brifysgol a allai ystyried bod ein cyrsiau hybu gradd yn ddefnyddiol. Mae llawer o'n cyrsiau'n cael eu cynnal o bell neu trwy ddysgu cyfunol, sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble rydych chi eisiau. Mae gan ein tiwtoriaid gymwysterau a phrofiad. Maent yn darparu adnoddau astudio hygyrch ac maent wrth law i gynnig hyfforddiant ac arweiniad arbenigol.

Sut ydw i'n cofrestru?

I ddechrau porwch drwy’r cyrsiau i ddod o hyd i un sy'n addas. Ar y cyfan, mae ein cyrsiau'n dechrau bob mis Medi/Hydref, Ionawr ac Ebrill. Ar ôl i chi ddod o hyd i gwrs, gallwch brynu eich lle trwy ein siop ar-lein.