Ieithoedd Modern

 

Fu hi erioed yn gyfnod mwy cyffrous i astudio ieithoedd. Wrth i ieithoedd eraill gystadlu â'r Saesneg i fod yn brif iaith ar gyfer cyfathrebu byd-eang, mae mwy o resymau nag erioed i fod yn ddwyieithog neu hyd yn oed yn amlieithog.

Mae astudio ieithoedd yn gyfle i feithrin yr wybodaeth a'r medrau sydd eu hangen i fanteisio'n llwyr ar gyfleoedd yn yr 21ain ganrif. Ar ben hyn, mae'n meithrin dawn i gyfathrebu’n well a hyblygrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ddyfnach, ac mae'r rhain yn nodweddion mae cyflogwyr gartref a thramor yn chwilio amdanynt.