Hanes, Hel Achau ac Archaeoleg
Mae adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ym meysydd hanes, hel achau, ac archaeoleg. O'r gyfres hel achau mewn tair rhan i ddechreuwyr, sef From Acorn to Oak i fodiwlau ar Researching the History of Your House, rydyn ni'n sicr y gwelwch destun fydd o ddiddordeb ichi.
Gallwch astudio modiwlau unigol, neu gallwch weithio tuag at Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau.
Caiff ein cyrsiau eu darparu ar 2 fformat gwahanol:
- Dysgu ar eich cyflymder eich hun; trwy Blackboard, sef ein hamgylchedd addysgu ar-lein.
- Sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ar gampws Prifysgol Aberystwyth a lleoliadau eraill ledled Cymru.
Pa ffordd bynnag y dewiswch astudio gyda ni, fe wnawn yn sicr y cewch ddigon o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn ichi wneud y mwyaf o'ch profiad o ddysgu. Mae pob un o'n modiwlau wedi'u hachredu gan y brifysgol ac mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o ddarparu addysg oedolion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, e-bostiwch Dr Calista Williams, caw52@aber.ac.uk. Os oes gennych ymholiadau gweinyddol, e-bostiwch y Swyddfa Dysgu Gydol Oes, dysgu@aber.ac.uk.