Ffioedd a Chyllid

A student working at the Students' Union Starbucks at Aberystwyth University.

Gall mynd i brifysgol fod yn brofiad brawychus yn ogystal â phrofiad cyffrous. Mae hi’n gallu bod yn anodd deall gwir gost bod yn fyfyriwr yn ogystal â’r cymorth ariannol sydd ar gael i’ch helpu i fodloni’r costau hyn, er mwyn i chi allu dechrau cynllunio eich dyfodol a manteisio i’r eithaf ar eich amser yn Aberystwyth.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth nifer o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau, mewn gwirionedd, mae gennym hyd at £20,000 ar gael i israddedigion, cymhelliant i fyfyrwyr sydd eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac amrywiaeth o gyfleoedd am gyllid i fyfyrwyr uwchraddedig a rhyngwladol. Darllenwch fwy i weld sut y gallwn eich cynorthwyo wrth i chi astudio â ni.