2.4 Y Llwybr Cymeradwyaeth y Weithrediaeth (SDF1)
1. Llwybr ‘Y Weithrediaeth’ yw'r drefn ar gyfer cynigion sydd wedi eu newid neu eu had-drefnu'n sylweddol, yn ddatblygiadau mewn maes newydd o ddarpariaeth, a datblygiadau sydd ag oblygiadau mewn adnoddau a goblygiadau ar lefel prifysgol y mae angen i Weithrediaeth y Brifysgol eu cymeradwyo’n derfynol.
Dylid trafod cynigion gyda Phennaeth yr Adran a Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran yn y lle cyntaf.
Yr amserlen a'r drefn cymeradwyo.
2. Cam 1: Y Cylch cynllunio
Dylid ystyried pob cynnig drwy'r cylch Cynllunio cyn cwblhau unrhyw achos busnes neu ddogfennaeth datblygu cynllun.
3. Mewn achosion eithriadol yn unig, lle na fu’n bosib cyflwyno cynnig fel rhan o'r cylch cynllunio, dylai Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran drafod y cynnig gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio cyn i unrhyw achos busnes neu ddogfennaeth datblygu cynllun gael eu cwblhau. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio’n penderfynu a ddylid cymeradwyo’r cynnig mewn egwyddor ac yn mynd ymlaen i ddatblygu dogfennaeth y cynnig.
4. Cam 2: Datblygu ac ystyried Achos Busnes
Ar ôl i'r cynnig gael ei ystyried a'i gymeradwyo fel rhan o'r cylch cynllunio, dylai'r adran fynd ymlaen i ddatblygu'r achos busnes, gan ymgynghori â'r Adran Gynllunio. Caiff yr Achos Busnes ei ystyried gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol a fydd yn ystyried cynigion yng nghyd-destun strategaeth, dilysrwydd busnes gan gynnwys costau, risgiau (gan gynnwys risg i enw da), niferoedd myfyrwyr ac ystyriaethau ymarferol a bydd yn penderfynu a ddylai'r cynnig fynd ymlaen i gael ystyriaeth academaidd gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog. Dylai’r adran Gynllunio ymgynghori â’r adran Farchnata a Denu Myfyrwyr, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlennu, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a’r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig. Cysylltwch â'r Adran Gynllunio (plastaff@aber.ac.uk) am ragor o wybodaeth.
5. Cam 3: Datblygu ffurflen datblygu cynllun (SDF) a dogfennaeth ategol
Ar ôl i'r Achos Busnes gael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol i fynd ymlaen am ystyriaeth academaidd, dylai'r adran fynd ymlaen i ddatblygu'r ffurflen SDF1 a gweddill dogfennaeth y cynnig:
(i) Blaenddalen pwyllgor
(ii) Manyleb(au) y rhaglen, gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio yn ôl yr asesiadau (SDF9)
(iii) Tystiolaeth o ymgynghori allanol
(iv) Tystiolaeth o ymgynghori â myfyrwyr / cyn-fyfyrwyr
(v) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
(vi) Ffurflen Enwebu Aseswr Allanol (SDF7).
6. Os yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar ddarpariaeth mewn pynciau eraill, dylai’r adran hefyd ymgynghori â’r adrannau eraill.
7. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r Aseswr Allanol a bydd angen iddo gwblhau adroddiad ysgrifenedig cyn y digwyddiad i'w ystyried gan y Panel Craffu Academaidd: SDF8 Adroddiad yr Aseswr Allanol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofyn am hyn unwaith y bydd yr Aseswr Allanol wedi derbyn y gwahoddiad. Ni fydd Aseswyr Allanol yn cael eu gwahodd i'r Panel oni bai bod materion yn codi o'r adroddiad sydd angen eu trafod ymhellach, ac yna gellir cysylltu â hwy trwy fideo-gynadledda.
8. Cam 4: Ystyriaeth ar lefel yr adran a’r Gyfadran
Dylai Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Adran a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran ystyried y ffurflen SDF ar ôl iddi gael ei chwblhau yn llawn, gan gynnwys y ddogfennaeth ategol. Yna, dylid eu hanfon ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i’w hystyried gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog.
9. Cam 5: Ystyriaeth gan y Panel Craffu Academaidd
Bydd y Panel Craffu Academaidd yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, dylunio a chyflwyno'r cwricwlwm, profiad y myfyrwyr, adnoddau dysgu, cefnogaeth, trefniadau gweinyddu a chymeradwyaeth derfynol y cynnig. Mae'r dyddiadau a dyddiad cau derbyn papurau ar gyfer y Panel Craffu Academaidd i'w gweld yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/panel-craffu-academaidd/. Awgrymir bod cynigion yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Sicrwydd Ansawdd cyn y dyddiad cau ffurfiol ar gyfer derbyn papurau er mwyn galluogi'r Tîm i adolygu dogfennaeth y cynnig ac i roi amser i ddatrys unrhyw broblemau cyn i'r Panel graffu ar y cynnig.