2.7 Mân newid neu ad-drefnu (SDF3)
1. Rhaid i adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig mân newid neu ad-drefnu cynllun sy'n bod eisoes. Dylai'r Adran lenwi’r dogfennau canlynol i'w hystyried gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Adran a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran. Ceir canllawiau manwl pellach yn y Ffurflen Datblygu Cynllun (SDF).
(i) blaenddalen pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 3 (SDF3)
(iii) ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
2. Yr adrannau a’r cyfadrannau sy'n gyfrifol am graffu yn fanwl o safbwynt academaidd ar fân newidiadau i gynlluniau. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r adran a Phwyllgorau Gwaith y Cyfadrannau, dylid eu hanfon ymlaen at Gofnodion Myfyrwyr i'w gweithredu a'u copïo i'r Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk). I gyd-fynd â’r SDF3, dylid cynnwys blaenddalen sy'n crynhoi'r newidiadau ac yn cadarnhau dyddiadau’r Pwyllgor Dysgu ac Addysgu adrannol a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran sef y pwyllgorau lle y craffwyd ar y cynigion a’u cymeradwyo. Ni fydd ffurflenni SDF3 yn cael eu prosesu os nad yw'r flaenddalen hon yn bresennol.
3. Dylai’r adrannau academaidd roi ystyriaeth fanwl i oblygiadau unrhyw fân newidiadau a wneir i gynlluniau sydd eisoes yn bodoli, a allai godi o ganlyniad i'r monitro blynyddol neu i adborth allanol, a dylent ymgynghori â myfyrwyr fel yr amlinellir yn Adran 2.1 o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Dylai'r adrannau academaidd ymgynghori hefyd â Thîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd i wneud yn sicr pa lwybr cymeradwyo ddylid ei ddilyn. Os na fydd Pwyllgor Gwaith y Gyfadran neu’r Tîm Sicrhau Ansawdd yn fodlon â lefel y manylder a roddwyd, neu os yw o'r farn bod y newidiadau a gynigir yn fwy na mân ddiwygiadau, efallai y bydd yn mynnu bod yr adran(nau) dan sylw yn cyflwyno cynnig i ad-drefnu’r cynllun trwy ffurflen SDF1 neu SDF2 i’w ystyried gan Weithrediaeth y Brifysgol a/neu’r Panel Craffu Academaidd.
4. Er mwyn sicrhau nad yw cynlluniau gradd yn newid o ganlyniad i ddiwygiadau blynyddol yn cronni, i'r graddau nad ydynt bellach yn ddilys yng nghyswllt y manylion gwreiddiol, rhaid i'r holl fân ddiwygiadau i gynlluniau gael eu monitro gan y cyfadrannau a'u hadrodd i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau trwy gyfrwng y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs. Mae pob cynllun hefyd yn mynd trwy broses ail-ddilysu cyfnodol o’r ddarpariaeth bob pum mlynedd.
5. Mae modd cymeradwyo mân newidiadau i gynllun yn ystod yr ail-ddilysu cyfnodol o’r ddarpariaeth, fel yr amlinellir yn Adran 2.12 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
6. I gynorthwyo adrannau i asesu lefel y newidiadau sy'n cael eu cynnig a'r drefn gymeradwyo briodol, dylid gofyn am gyngor Tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd. Bydd mân ddiwygiadau fel arfer yn ymwneud ag agweddau tebyg i'r rhai isod:
(i) Dim newid gwirioneddol i amcanion y cynllun fel ag y mae
(ii) Dim newid gwirioneddol i nifer y modiwlau craidd na chyfyngu ar ddewis myfyrwyr
(iii) Dim newid gwirioneddol i ganlyniadau dysgu, cynnwys, na dulliau asesu'r cynllun fel ag y mae
(iv) Dim newidiadau sy'n effeithio dros 60 o gredydau ar unrhyw lefel yn Rhan Dau mewn cynllun israddedig
(v) Dim newidiadau sy'n effeithio dros 60 o gredydau ar gynllun uwchraddedig trwy gwrs.
7. Mae’n bosib y bydd y Gofrestrfa Academaidd yn penderfynu bod angen ymgynghoriad allanol os yw'r cynllun yn wahanol iawn i'r ddarpariaeth bresennol ar y lefel honno.