2.10 Adolygiad Adrannol, yn cynnwys ail-ddilysu cyfnodol o'r ddarpariaeth

1. Mae'r Adolygiadau Cyfnodol yn rhoi cyfle i'r adran, y gyfadran a'r brifysgol i gloriannu pa mor effeithiol yw gweithdrefnau'r adrannau o ran rheoli, dysgu, addysgu, gwella, sicrwydd ansawdd a monitro perfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol perthnasol, ac yn rhoi cyfle i'r Brifysgol ei sicrhau ei hun, a bod mewn sefyllfa i ddangos i gyrff allanol, bod y gwaith o reoli ansawdd a safonau yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.

2. Gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Academaidd, bydd y Tîm Adolygu ar ran y Brifysgol, yn archwilio adrannau bob 5 -6 mlynedd, i weld a yw'r prosesau a'r dulliau perthnasol ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau yn eu lle, yn gweithredu'n effeithiol ac effeithlon, a bod y gwelliannau a argymhellir i'r dysgu a'r addysgu yn cael eu rhoi ar waith. Caiff unrhyw ddarpariaeth gydweithrediadol ei chynnwys yn rhan o'r archwiliad ansawdd.

3. Dylid annog cynrychiolwyr myfyrwyr yr adran i gymryd rhan gyflawn ym mharatoadau’r adran am yr archwiliad; gall cynrychiolwyr myfyrwyr gyflwyno’u dogfen hunan-werthuso eu hunain fel atodiad i gyflwyniad yr adran.

Manylion y drefn

4. Rhoddir ystyriaeth i’r canlynol mewn adolygiad: cynlluniau a modiwlau israddedig ac uwchraddedig; darpariaeth ymchwil uwchraddedig; darpariaeth gydweithrediadol; systemau adborth; trefn cydymffurfio â phrosesau sicrhau ansawdd; datblygu staff a hyfforddiant.

5. Fel arfer, bydd arolwg yn para hyd at ddau ddiwrnod ac yn cynnwys:

  • Archwilio dogfen hunanwerthuso, cofnodion pwyllgorau perthnasol a'r holl ddogfennau eraill sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn Adran
  • Cyfarfod(ydd) gyda'r Pennaeth Adran a staff sydd â chyfrifoldeb am wahanol agweddau o addysgu a dysgu (e.e. arholiadau, cymorth i fyfyrwyr, derbyn myfyrwyr)
  • Cyfarfod(ydd) gyda chynrychiolwyr myfyrwyr, israddedig, uwchraddedig trwy gwrs ac uwchraddedig ymchwil
  • Cyfarfod(ydd) gyda staff eraill sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd a/neu addysgu a dysgu (e.e. aelodau newydd o staff / gweinyddwyr
  • Ail-ddilysu'r ddarpariaeth.

NODER: fel rheol byddai aelod o staff ond yn cyfrannu at un o’r grwpiau oni bai eu bod yn cyflawni rolau gwahanol iawn o fewn yr adran.

Aelodau'r Panel

6. Cadeirir yr Arolwg fel arfer gan Ddirprwy Is-Ganghellor (Dirprwy Is-G Dysgu ac Addysgu neu Ddirprwy Is-G Cysylltiol y Gyfadran. Rhoddir hyfforddiant ac arweiniad priodol i aelodau'r panel. Trafodir â Chadeirydd y Bwrdd Academaidd ynglŷn â'r aelodaeth, yn arferol dylid cynnwys:

  • Cadeirydd (fel arfer y Dirprwy Is-G (Dysgu ac Addysgu) neu un o Dd. Is-G y Cyfadrannau)
  • Deon Cysylltiol
  • Pennaeth Adran
  • Asesydd Academaidd Allanol (arbenigwr pwnc academaidd ac os yw’n briodol, arbenigwr o ddiwydiant)
  • Cofrestrydd Academaidd neu gynrychiolydd
  • Cynrychiolydd myfyrwyr
  • Bydd Ysgrifennydd y panel yn aelod o'r Gofrestrfa Academaidd

7. Gwahoddir adrannau i enwebu hyd at tri chydweithiwr proffesiynol o'r Deyrnas Unedig a allai weithredu fel Asesydd Allanol a thelir ffi a threuliau iddynt. Ni ddylai Asesydd Allanol fod yn Arholwr Allanol cyfredol yn yr Adran a gorau oll os bydd yn meddu ar wybodaeth am brosesau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd. Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Tîm Archwilio fydd yn dewis yr Asesydd Allanol mewn ymgynghoriad â'r Adran.

Amserlen Enghreifftiol

8. Amserlen enghreifftiol yw'r canlynol. Gall y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd gyfarfod â myfyrwyr cyn y prif ddigwyddiad, a chyflwyno crynodeb ysgrifenedig o’r drafodaeth i’w ystyried gan Banel yr Adolygiad:

Amser

Digwyddiad

DIWRNOD 1

 

12.30yp

CINIO gwaith Y Panel yn cwrdd yn Breifat

1.30yp

Cyfarfod gyda Phennaeth yr Adran

2.30yp

Y Panel yn cwrdd yn Breifat

3.00yp

Cyfarfod ag uwch staff academaidd sydd â swyddi allweddol yn yr adran

4.00yp

Y Panel yn cwrdd yn Breifat

4.15yp

Cyfarfod â myfyrwyr (os na chasglwyd adborth eisoes trwy ddull gwahanol )

5.15yp

Y Panel yn cwrdd yn Breifat

5.30yp

Cloi

I’w gadarnhau

Pryd gyda'r nos – Aseswr/Aseswyr Allanol gyda Phennaeth yr Adran a Chadeirydd y Panel

DIWRNOD 2

 

9.0yb

Y Panel yn cwrdd yn Breifat

9.30yb

Cyfarfodydd gydag arweinwyr cynlluniau (canolbwyntio ar ailddilysu'r ddarpariaeth)

10.30yb

Y Panel yn cwrdd yn Breifat

11.00yb

Cyfarfod â staff eraill yn cynnwys staff gweinyddol a staff rhan-amser sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd a/neu ddysgu ac addysgu

12.00yp

Y Panel yn cwrdd yn Breifat – penderfynu ar ganmoliaeth/argymhellion dros dro

12.30yp

Rhoi adborth i Bennaeth yr Adran

1.00yp

Cloi

9. Bydd Adolygiad Adrannol yn ystyried:

Cynlluniau a Modiwlau Israddedig ac Uwchraddedig

(i) Safonau addysgu a dysgu mewn modiwlau

(ii) Dulliau asesu o ran eu perthynas â:

  • canlyniadau dysgu
  • cynnwys y cwrs
  • strategaethau dysgu
  • sgiliau trosglwyddadwy

(iii) Dilyniant a Chyflawniad Myfyrwyr

(iv) Cymorth a Chanllawiau i Fyfyrwyr

(v) Cynrychiolaeth myfyrwyr

(vi) Adnoddau Addysgu a Dysgu

(vii) Dilyniant rhwng gwahanol lefelau o gyrsiau israddedig (Lefel 0 hyd at lefel M yn achos cynlluniau Meistr Integredig) a’r berthynas rhwng modiwlau israddedig ac uwchraddedig.

(viii) Natur gyfannol y cwrs (gan gynnwys Cyd Anrhydedd)

(ix) Arloesi o ran addysgu a dysgu e.e. Rhith Amgylchedd Dysgu / VLE

(x) Llawlyfrau Myfyrwyr a gwybodaeth arall a ddarperir i fyfyrwyr

(xi) Unrhyw gynlluniau Rhyddfraint, cydweithrediadol neu ddysgu o bell

(xii) Addysgu cyfrwng Cymraeg (os yw’n gymwys)

(xiii) Lleoliadau neu brofiad gwaith (os yw’n gymwys)

(xiv) Cyfnewid ac Erasmus

(xv) Cymorth, hyfforddiant, goruchwylio a monitro myfyrwyr ymchwil.

Systemau Adborth:

(i) Adroddiadau Arholwyr Allanol

(ii) Adborth gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (os yw’n gymwys)

(iii) Gwerthusiadau myfyrwyr o Fodiwlau a Chynlluniau, adroddiadau ar holiaduron gwerthuso modiwlau, Rho Wybod Nawr

(iv) Monitro Blynyddol Cynlluniau Trwy Gwrs

(v) Dangosyddion Perfformiad Allweddol gan gynnwys Canlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol

Cydymffurfio:

Bydd yr Adolygiad hefyd yn sicrhau bod Adrannau’n cydymffurfio â Rheoliadau’r Brifysgol a Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol, ac yn ymgysylltu â pholisïau’r Brifysgol a’u gweithredu, gan gynnwys, er enghraifft, Strategaeth Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol.

Darpariaeth a chymorth Ymchwil Uwchraddedig

Datblygu a Hyfforddi Staff:

(i) Hyfforddiant ac ymgynefino â’r Brifysgol a’r Adran, a datblygu staff

(ii) Trefn arsylwi gan Gymheiriaid.

10. Gall y Gofrestrfa Academaidd wahodd yr adran i ofyn i un neu fwy o’r arholwyr allanol cyfredol gyflwyno Adroddiad ysgrifenedig, yn ogystal ag adroddiad arferol yr arholwr allanol cyn cyfarfod y panel.

11. Bydd rhaid i'r Panel ystyried y meysydd canlynol, yn unol â'r Cyngor a Chyfarwyddyd yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU:

(i) Sicrhau bod y cynlluniau a arolygir yn parhau'n gyfoes a dilys, yng ngoleuni'r wybodaeth sy'n datblygu yn y ddisgyblaeth ac unrhyw newidiadau sydd wedi crynhoi yn y cyfnod ers i'r cynllun gael ei gymeradwyo'n wreiddiol / ers yr arolwg blaenorol

(ii) Cloriannu'r raddfa y mae'r myfyrwyr yn cyflawni canlyniadau dysgu'r cynllun, gan gyfeirio'n briodol at adroddiadau AMTS blaenorol a setiau data, ac adroddiadau arholwyr allanol

(iii) Sicrhau bod y cwricwlwm a'r drefn asesu yn dal i fod yn effeithiol yng nghyswllt canlyniadau dysgu'r cynllun

(iv) Nodi unrhyw wendidau, a gwneud argymelliadau ynglŷn â chamau gweithredu priodol.

Dogfennau

12. Bydd disgwyl i adrannau eu gwerthuso’u hunain yn erbyn cyfres o ddatganiadau cysylltiedig ag ansawdd a safonau addysgu a dysgu, gan ddefnyddio templed Hunanwerthuso sy’n cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol. Mae’r datganiadau’n cwmpasu’r meysydd canlynol: cynlluniau academaidd, addysgu a dysgu, asesu ac adborth, myfyrwyr ymchwil, cyfranogiad a phrofiad myfyriwr, datblygu staff academaidd, darpariaeth gydweithredol ac arholwyr allanol.

13. Dylid defnyddio’r adran sylwadau i gyfeirio at dystiolaeth ategol a nodi camau gweithredu ar gyfer cyfoethogi ansawdd a nodi’r camau mae’r adran wedi dynodi sydd angen eu cymryd i gyfoethogi ansawdd a/neu wella perfformiad.

14. Bydd y Tîm Rheoli Ansawdd canolog yn gweithio gydag adrannau i grynhoi dogfennau atodol, ac yn cyhoeddi'r wybodaeth hon ar safle SharePoint y Gofrestrfa Academaidd cyn cyfarfod yr Arolwg.

Ynghyd â’r Ddogfen Hunanwerthuso hon, bydd y dystiolaeth ategol ganlynol yn cael ei huwchlwytho; oni nodir yn wahanol, bydd hyn yn cael ei uwchlwytho gan y Tîm Sicrwydd Ansawdd:

I'w ddarparu gan yr adran:

  • Rolau a Chyfrifoldebau oddi mewn i Strwythur yr Adran: manylion cyfrifoldebau’r pwyllgorau sy'n ymwneud ag Addysgu ac Ymchwil, a phwy sy’n rhan ohonynt, a rhestr o rolau a chyfrifoldebau staff allweddol.
  • Cofnodion diweddaraf pwyllgor yr adran (neu bwyllgor gweithredol arall), pwyllgor Dysgu ac Addysgu a/neu bwyllgorau sy'n ymdrin â darpariaeth gydweithredol neu ddysgu gwasgaredig arall.
  • Dogfennau strategaeth yr adran lle bo hynny'n briodol: e.e., Strategaeth Addysgu a Dysgu, Strategaeth Cyflogadwyedd, Cynllun Gweithredu’r Grŵp Dysgu trwy Gyfrwng Technoleg

I'w ddarparu gan y Swyddfa Gynllunio:

  • Pecyn data gan gynnwys ystadegau, y Dashfwrdd Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Bydd y copïau diweddaraf o'r canlynol yn cael eu huwchlwytho gan y Tîm Sicrwydd Ansawdd:

  • Adroddiadau Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs ac adroddiadau Arholwyr Allanol
  • Adroddiad gan Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (lle bo'n berthnasol)
  • Cynllun Gweithredu’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
  • Cofnodion y Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr
  • Canlyniadau gwerthuso modiwlau gan fyfyrwyr
  • Llawlyfr(au) yr adran
  • Manylebau rhaglenni ar gyfer pob cynllun i'w ail-ddilysu
  • Adroddiadau cyfrif myfyrwyr ar fodiwlau a chynlluniau

Gall y Panel Adolygu ofyn am wybodaeth ychwanegol os oes angen ymchwilio ymhellach ar rai materion.

Canlyniad ymweliad yr Arolwg Adrannol Cyfnodol

15. Yn dilyn yr ymweliad, cynhyrchir adroddiad a fydd yn amlygu meysydd o arfer da ac yn cyflwyno argymhellion i’r adran, y gyfadran a’r brifysgol. Gall y Dirprwy Is-Ganghellor hefyd wahodd yr Asesydd Allanol i gyflwyno adroddiad ysgrifenedig. Bydd y pennaeth adran yn cael cyfle i wneud sylwadau ar gywirdeb ffeithiol yr adroddiad drafft ond ni fydd disgwyl iddo ymateb yn llawn i gynllun gweithredu tan yn ddiweddarach.

16. Bydd y panel yn penderfynu ar un o'r argymelliadau canlynol yn achos pob cynllun neu grŵp o gynlluniau sy'n cael eu hail-ddilysu:

(i)  Ail-ddilysu'n ddiamod

(ii) Ail-ddilysu amodol, yn amodol ar wneud mân newidiadau o fewn cyfnod penodedig

(iii) Diwygiadau sylweddol, ac efallai y bydd yn rhaid eu cyflwyno i Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran (MAyG) berthnasol

(iv) Dileu neu ohirio.

Os mai dileu neu ohirio yw'r penderfyniad, gofynnir i'r adran lenwi'r dogfennau perthnasol a gofyn am gymeradwyaeth trwy Bwyllgor MAyG, a gwneud y trefniadau priodol i sicrhau bod pob ymgeisydd sydd eisoes wedi dechrau ar y cynllun yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.

17. Disgwylir i adrannau ymateb i faterion sy'n cael eu nodi yng nghyswllt ail-ddilysu cynlluniau o fewn cyfnod amser penodedig, i'w adolygu gan y Cadeirydd. Os yw'r Cadeirydd yn hapus nad oes unrhyw agwedd sy'n peri pryder, ystyrir bod penderfyniad y panel yng nghyswllt ail-ddilysu cynlluniau yn un terfynol, ac adroddir hynny wrth y gyfadran. Os oes agweddau’n peri pryder, cyfeirir y penderfyniadau terfynol at y Gyfadran a/neu'r Bwrdd Academaidd.

18. Os mai dileu neu ohirio yw'r penderfyniad, gofynnir i'r adran lenwi'r dogfennau perthnasol a gofyn am gymeradwyaeth trwy Bwyllgor MAyG, a gwneud y trefniadau priodol i sicrhau bod pob ymgeisydd sydd eisoes wedi dechrau ar y cynllun yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.

19. Gofynnir i'r adran gyflwyno Cynllun Gweithredu o fewn tri mis i gyhoeddi adroddiad, yn nodi sut y bwriedir rhoi argymhellion y Panel Adolygu ar waith, ac yna rhoi adroddiadau cynnydd i’r Gyfadran ar yr argymhellion a nodir yn y Cynllun Gweithredu.

20. Cyflwynir yr Adroddiad a'r Cynllun Gweithredu i'r Bwrdd Academaidd. Os nad yw'r Bwrdd Academaidd yn fodlon â'r cynnydd neu â'r modd y mae'r camau gweithredu'n cael eu cyflawni, gall ofyn am y canlynol:

(i) Ymweliad â'r adran i drafod y camau gweithredu'n fanylach

(ii) Cynnal archwiliad mewnol dilynol o fewn i amserlen y cytunir arni.