2.13 Achrediad gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSR)
1. Cyrff PSR sy'n gosod safonau ac yn rheoleiddio safonau mynediad i broffesiynau arbennig. Mae'r Brifysgol yn ymwneud â nifer o'r cyrff hyn trwy achrediad ffurfiol o rai o'r cynlluniau astudio ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Yn rhan o'i gyfrifoldebau am God Ansawdd Addysg Uwch y DU, y Pwyllgor Ansawdd a Safonau sy'n bennaf gyfrifol am reoli'r holl waith adolygu, dilysu ac achredu allanol sy'n ymwneud â'r gweithgareddau dysgu yn y Brifysgol.
2. Mae Adrannau'n cadw elfen o gyfrifoldeb am gysylltu â'r cyrff ynglŷn ag achrediadau cychwynnol a rheoli'r cynlluniau achrededig yn eu meysydd. Mae adroddiadau'r Cyrff PSR yn darparu adborth allanol pwysig ynghylch ansawdd a safonau cynlluniau a disgwylir i adrannau eu hystyried yn drwyadl yn rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (gweler adran 6 y ffurflen AMTS1).
3. Rhaid i adrannau gadarnhau a yw'n fwriad gwneud cais am achrediad i gynlluniau newydd yn rhan o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau. Dylid cael achrediad cychwynnol i gynlluniau newydd cyn gynted ag y gellir ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo'n derfynol, a rhaid rhoi gwybod i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau am ganlyniad yr ymarfer achredu.
4. Rhaid i Gyfadrannau sicrhau bod copïau o'r canlynol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd, a lle bo’n briodol dylid eu dwyn i sylw’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau: pob gohebiaeth a dogfen a gyflwynwyd i Gorff PSR i ddiben achredu; gohebiaeth ac adroddiadau sy'n deillio o ymarfer achredu, ac ymateb neu gynlluniau gweithredu'r adran. Dylid anfon y rhain at qaestaff@aber.ac.uk
5. Bydd y canlyniadau a, lle bo’n briodol, yr adroddiadau sy'n deillio o adolygiadau PSRB yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Diben gwneud hynny yw sicrhau y gellir rhoi sylw i unrhyw wendidau a nodwyd yng ngweithdrefnau'r Brifysgol, bod adrannau'n ymateb i unrhyw fater a godir gan y Cyrff PSR, a bod arfer da yn cael ei ledaenu'n ehangach yn y Brifysgol. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau, trwy’r cyfadrannau, yn dilyn a monitro unrhyw weithredu sy'n deillio o adroddiadau Cyrff PSR, ac efallai y byddant yn gofyn i adrannau baratoi cynlluniau gweithredu mewnol i ymateb i'r adroddiadau.
6. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn cadw cofrestr o'r holl gynlluniau sy’n cael eu hachredu gan Gyrff PSR. Gwahoddir y Cyfadrannau i adolygu a chadarnhau cywirdeb y gofrestr yn flynyddol. Mae disgwyl hefyd i Gyfadrannau roi gwybod i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau am unrhyw newidiadau i statws achrediad cynlluniau.
7. Yr adrannau sy’n gyfrifol am gyhoeddi manylion llawn achrediad cynlluniau ar gyfer myfyrwyr, a rhaid iddynt roi gwybod i ymgeiswyr a myfyrwyr am statws y cynlluniau astudio yng nghyswllt achrediad gan Gyrff PSR.
8. Os gwneir newidiadau i'r dull astudio, neu os sefydlir trefn gydweithrediadol newydd ar gyfer cynllun astudio, rhaid i'r adran berthnasol gysylltu â'r Cyrff PSR i weld a yw'r ddarpariaeth ddiwygiedig yn dod o fewn cwmpas y trefniadau achredu cyfredol. Rhaid rhoi gwybod i fyfyrwyr am statws y ddarpariaeth newydd neu ddiwygiedig.