2.8 Gohirio a Dileu Cynllun Astudio a Newid Teitl Cynllun (SDF5/SDF6)

Gohirio cynllun astudio

1. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ohirio cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau ystyried hefyd fod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. ⁠Fel arfer, y disgwyliad yw mai dim ond am un flwyddyn y bydd cynllun yn cael ei ohirio, ac ar ôl hynny y bydd ar gael eto yn awtomatig ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr ac i'w weld ar dudalennau chwilio am gyrsiau. Bydd cynigion i ohirio cynllun yn cael eu hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr), a dylai adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr).  Ni fydd angen craffu pellach, a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.

Dileu cynllun astudio

2. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ddileu cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau ystyried hefyd fod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. ⁠Fel arfer, disgwylir i gynllun gael ei ddiddymu'n raddol dros gyfnod er mwyn i'r Brifysgol gyflawni ei hymrwymiad i fyfyrwyr cofrestredig. Fel eithriad, lle bo angen ad-drefnu ar frys, bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau lle mewn man arall i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol ac sy'n dymuno cwblhau'r cwrs astudio y cawsant eu derbyn arno'n wreiddiol. Os yw rhaglen israddedig yn cael ei dileu hanner ffordd trwy gylch derbyn, bydd confensiynau arferol UCAS yn gweithredu yn achos myfyrwyr a wnaeth gais am fynediad ar y cwrs hwnnw. Bydd cynigion i ddileu cynllun yn cael eu hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr), a dylai adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr).  Ni fydd angen craffu pellach, a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.

3. Nid ar gyfer cynlluniau cyfrwng Cymraeg yn unig y mae Adran 2, oherwydd gall dileu cynllun gael effaith hefyd ar fodiwlau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; dylid ei llenwi ar gyfer pob cynllun. Rhaid i adrannau lenwi Adran 2 mewn ymgynghoriad â Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Cymraeg), a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â chydweithwyr perthnasolcyn cyflwyno’r cynnig i'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr).

4. Dylai'r adrannau gadw mewn cof y bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn craffu ar gynigion i ohirio neu ddileu cynllun a goblygiadau’r penderfyniad yng ngoleuni arweiniad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ynglŷn â Chyfraith Defnyddwyr.

5. Gall y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio gynnig gohirio neu ddileu cynlluniau'n flynyddol yn seiliedig ar ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn gwahodd adrannau i weithredu ar sail yr adroddiad hwn i ddileu neu ohirio cynlluniau fel y bo'n briodol.  Gwahoddir cyfadrannau i ddarparu rhesymeg gadarn i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) ar gyfer cadw unrhyw gynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad.  Dylai cyfadrannau ystyried cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, mewn ymgynghoriad â Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Cymraeg) a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â chydweithwyr perthnasol a chadarnhau unrhyw effaith ar y ddarpariaeth.  Bydd gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yr awdurdod i wneud penderfyniadau terfynol gan ystyried yr adborth hwn.  Ni fyddai angen dogfennau cymeradwyo pellach a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.

⁠Newid teitl cynllun

6. Y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) fydd yn ystyried newidiadau i deitl cynllun. Dylai'r Adran lenwi'r canlynol i'w hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfrwyr):

(i) Blaenddalen pwyllgor

(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 6 (SDF6)   

Ni fydd angen craffu pellach, a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.