Cyflwyniad

1. Mae Trefn Cymeradwyo Modiwlau’r Brifysgol yn cael ei goruchwylio gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Y Cyfadrannau sy’n gyfrifol am gymeradwyo modiwlau newydd a modiwlau sydd wedi'u had-drefnu, mân newidiadau i fodiwlau a gohirio a dileu modiwlau.  Dylid gwneud cynigion ar gyfer modiwlau newydd a modiwlau wedi'u had-drefnu ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a'u cyflwyno i'r Gyfadran berthnasol i'w hystyried.  Dylai aelod o staff academaidd annibynnol graffu ar y cynigion; bydd yr adolygydd yn cael ei enwebu fel rhan o lif gwaith cymeradwyo'r modiwl a dylent gwblhau'r adran adolygu cyn i'r modiwl gael ei ystyried gan y G.  Ar ôl cael cymeradwyaeth y Gyfadran, bydd y Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr yn cael gwybod am y newidiadau a fydd yn cael eu cofnodi yng nghronfa ddata’r modiwl.  Dylid defnyddio’r system APEX i wneud cynigion ar gyfer modiwlau Dysgu o Bell sy’n seiliedig ar fodiwlau sydd eisoes yn bodoli ac yn cael eu dysgu ar y campws, a modiwlau Cyfrwng Cymraeg sy'n gopi uniongyrchol o fodiwl cymeradwy, neu i'r gwrthwyneb.

2. Dylai pob modiwl newydd, a’r rhai a ad-drefnwyd, gael eu cymeradwyo gan Gyfadrannau a dylid diweddaru’r wybodaeth ar gronfa ddata’r modiwlau a’r cynllun ar gyfer y sesiwn academaidd ddilynol. Dylid gwneud hyn erbyn diwedd tymor y gwanwyn neu heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth os daw tymor y gwanwyn i ben ar ôl y dyddiad hwn.

3. Dylid gwneud mân newidiadau gan ddefnyddio'r system Rheoli Modiwl APEX ond ni fydd angen adolygwr mewnol, er enghraifft mewn achosion o newid teitl, newidiadau bach mewn cynnwys, newidiadau i bwysiad asesiad lle nad yw hyn yn effeithio ar ganlyniadau dysgu, a newidiadau i'r semester. Rhaid cwblhau'r broses gymeradwyo yn gyfan gwbl os oes newidiadau sylweddol i’r modiwl o ran ei gynnwys, ei ganlyniadau dysgu neu’r asesu.

4. Dylid cyflwyno cynigion i ddileu a/neu ohirio modiwlau i'r Gyfadran i'w cymeradwyo. Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â dileu neu ohirio modiwlau i'r Gyfadran yn y lle cyntaf.  Dylid diweddaru'r modiwl yn APEX i ofyn am ddileu/gohirio, ac yna bydd yn cael ei ystyried gan y Gyfadran.

5. Fel rhan o'r broses gymeradwyo, dylai'r Gyfadran sy'n gyfrifol am y dysgu sicrhau bod ganddi'r adnoddau angenrheidiol i gyflwyno'r modiwl.

6. Nid bwriad y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yw'r darparu geiriad penodol ar gyfer cymeradwyo modiwl ond ei nod yw egluro rhai o’r cwestiynau cyffredin. Rhaid cael cymeradwyaeth y Gyfadran pan fo newidiadau i fodiwlau yn cynnwys y canlynol:

(i) Newidiadau sylweddol i gynnwys y modiwl

(ii) Unrhyw newid i’r lefel penodedig

(iii) Unrhyw newid i bwysoliad y credydau

(iv) Unrhyw newid i’r canlyniadau dysgu a/neu ddulliau asesu.

7. Mae’r angen am fodiwl newydd neu fodiwl wedi’i ad-drefnu yn cael ei gydnabod ar lefel yr adran neu’r pwnc, a nodir Cydlynydd Modiwl i arwain y gwaith o ddrafftio'r cynnig.

8. Gan ddefnyddio’r system Rheoli Modiwl APEX a'r canllawiau a ddarperir yn adran 2.2 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd, paratoir cynnig drafft.

9. Dylid cyflwyno'r cynnig i adolygydd modiwl (i'w enwebu gan y Gyfadran (Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr)). Mae'r broses adolygu ar wahân i unrhyw graffu ar gynnig modiwl gan yr adran. Dylai cyfadrannau sicrhau bod aelod academaidd annibynnol o staff yn craffu ar y cynigion modiwlau ac nad yw’r aelod hwnnw wedi bod yn rhan o ysgrifennu'r modiwl nac yn rhan o unrhyw broses graffu neu gymeradwyo adrannol cyn hyn.

10. Dylai'r asesydd ystyried y modiwl, darparu adborth adeiladol o fewn APEX ac argymell un o'r camau canlynol:

(i) Cymeradwyo'r cynnig

(ii) Cyfeirio’r cynnig ymlaen i’r Gyfadran i gael trafodaeth pellach neu ehangach, neu gymeradwyo yn amodol ar gyflawni diwygiadau penodol

(iii) Cyfeirio yn ôl at gydlynydd y modiwl i ddatblygu’r cynnig ymhellach.

11. Dylai'r cynnig/ad-drefnu modiwl cyflawn, gan gynnwys y sylwadau gan yr adolygydd annibynnol, gael ei gymeradwyo gan y Gyfadran.

12. Unwaith y bydd modiwl wedi'i gymeradwyo'n llawn, bydd y modiwl/newidiadau yn cael eu hychwanegu at y gronfa ddata modiwlau. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth, y Swyddfa Amserlennu a'r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd yn cael eu hysbysu'n awtomatig trwy'r llif gwaith yn APEX.

13. Ni fydd unrhyw fodiwl yn ymddangos ar y gronfa ddata nes bod y broses gymeradwyo ffurfiol wedi'i chwblhau ar lefel y gyfadran.

14. Mewn achosion lle gellir defnyddio isafswm trothwy i fodiwlau dewisol, rhaid i'r adran academaidd roi gwybod i fyfyrwyr na ellir gwarantu y bydd y modiwl yn cael ei gynnal gyda nifer isel o fyfyrwyr cofrestredig, ac efallai y gofynnir i fyfyrwyr ddewis eto. Yn yr un modd, dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr am achosion lle gellir capio nifer y cofrestriadau ar fodiwl, gan esbonio hyn yn glir.