Canllawiau ar Gwblhau Cymeradwyo Modiwlau yn APEX

15. Defnyddir yr wybodaeth yn y system Rheoli Modiwl yn sail ar gyfer holl ddogfennaeth berthnasol y modiwl, gan gynnwys yr wybodaeth ar gronfa ddata modiwlau PA ac mewn llawlyfrau cynlluniau gradd. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i lefel y manylder a fydd yn ymddangos ar y we yng nghyd-destun y cyngor a roddir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd  Cyngor cyfraith defnyddwyr i ddarparwyr addysg uwch.  Dylai'r wybodaeth a gyhoeddir fod yn ddigon manwl i alluogi myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr wneud dewisiadau gwybodus, ond nid mor fanwl fel y byddai mân newidiadau – nad ydynt yn effeithio ar ganlyniadau dysgu nac asesiadau – yn sbarduno'r angen am gyflwyno proses gymeradwyo lawn y modiwl.

16. Mae'r dyddiad cau terfynol ar gyfer cynigion modiwlau newydd Rhan Dau mewn pryd ar gyfer cofrestru dros dro yn y sesiwn cyn y sesiwn lle bwriedir cyflwyno'r modiwl. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, megis y rhai sy'n deillio o newidiadau staff, y dylai cyfadrannau ystyried cynigion modiwlau a gyflwynwyd ar ôl y dyddiad hwnnw.