Cyfraith Defnyddwyr a newidiadau i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes

4. Ym mis Mai 2023, diweddarwyd y cyngor a roddir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i ddarparwyr addysg uwch ynglŷn â chyfraith defnyddwyr, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2015. Nod y diweddariad oedd sicrhau bod y cyngor a roddir i ddarparwyr, er enghraifft wrth gyfeirio at gyfraith defnyddwyr a rhanddeiliaid, yn gyfoes.  Er bod rhywfaint o’r iaith a’r cyfeiriadau yn y ddeddfwriaeth wedi newid, yr un yw ymrwymiad darparwyr addysg uwch o ran sylwedd i’r hyn a gyhoeddwyd yn y cyngor gwreiddiol sy’n amlinellu safbwynt yr Awdurdod o ran cydymffurfio mewn nifer o feysydd gan gynnwys darparu gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig.  Mae’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (ASA) wedi llunio canllaw ymarferol er mwyn cynorthwyo darparwyr i gyflwyno gwybodaeth o ansawdd uchel i ddarpar fyfyrwyr, a hynny yn cynnwys gofynion mynediad, strwythur a dull dysgu’r cwrs, gwybodaeth am fodiwlau, asesiadau ac adborth, a chostau’r cwrs.  Mae’r cyngor diwygiedig a ailgyhoeddwyd (31 Mai 2023) ar gael yma https://assets.publishing.service.gov.uk/media/64771faeb32b9e0012a95f30/Consumer_law_advice_for_higher_education_providers_.pdf

5. Rhaid i'r Cyfadrannau gynllunio’n ofalus cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i gynlluniau cyfredol, a’r modiwlau sy’n cyfrannu tuag atynt. Os yw newidiadau’n cael eu cynnig fel rhan o ymarferiadau monitro neu adolygu blynyddol, neu mewn ymateb i drefniadau adborth allanol neu adborth myfyrwyr, rhaid i'r adrannau ymgynghori gyda myfyrwyr cyfredol (yn cynnwys y rhai sydd wedi derbyn cynnig ond sydd heb ddechrau eu hastudiaethau) cyn y gellir ystyried cymeradwyo’r newidiadau. Bydd union natur yr ymgynghori hwn yn dibynnu ar ystod y newidiadau arfaethedig ond fe all ddilyn un o’r dewisiadau canlynol.  Dylai'r Adrannau ymgynghori â’r Tîm Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor pellach: qaestaff@aber.ac.uk:

(i) Ymgynghori drwy'r Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr

(ii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda’r myfyrwyr yn anfon ymatebion at Gynrychiolwyr Myfyrwyr er mwyn galluogi trafodaeth ar y cyd mewn cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Staff / Myfyrwyr

(iii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda rheidrwydd i gael cydsyniad pob myfyriwr.

6. Mewn achosion lle y mae’n bosibl na fydd modiwlau dewisol yn cael eu cynnig oherwydd diffyg diddordeb neu am nad oes aelodau staff ar gael i’w dysgu, dylid gwneud hyn yn eglur i fyfyrwyr trwy’r wybodaeth a gyhoeddir. Dylid hysbysu myfyrwyr o unrhyw newid i’r dewis o fodiwlau sydd ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu dewis modiwl arall. Bydd hyn yn cael ei egluro i fyfyrwyr mewn llawlyfrau adrannol, sy’n cynnwys datganiad cyffredin ar lefel prifysgol.