Manylaebau Rhaglen

7. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch 2024 yn mynnu bod cyrff dyfarnu graddau yn darparu gwybodaeth ddiffiniol am eu dyfarniadau. Gweler Egwyddor 7 – Cynllunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu rhaglenni Arferion Allweddol 7b Cynhyrchir set ddiffiniol o ddogfennau o’r prosesau dylunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu; fe’u cedwir yn ddiogel ac maent yn gweithredu fel y brif ffynhonnell wybodaeth am bob rhaglen.

Gwneir hyn trwy’r fanyleb rhaglen, sy’n cynnwys manylion am yr wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a phriodoleddau eraill y bydd myfyrwyr yn eu datblygu wrth gwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus, ynghyd â’r gweithgareddau dysgu ac asesu sy’n eu cefnogi wrth iddynt ddysgu.

8. Y Gofrestrfa Academaidd sy’n gyfrifol am gynnal y manylebau rhaglen ar-lein, a disgwylir i adrannau adolygu’r rhain bob blwyddyn. Archwilir y manylebau rhaglen hefyd yn rhan o adolygu ac ailddilysu cynlluniau. Darperir templed ar gyfer eu paratoi ar y dechrau a’u cymeradwyo.  Ceir templed penodol ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn yn astudio dramor, gyda chanlyniadau dysgu a fydd yn gyffredin i bob cynllun.  Mae’r rhain ar gael yn Adran 2.14 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.  Cyhoeddir canllawiau ar gyfer ysgrifennu manylebau rhaglen gan yr Academi Addysg Uwch, ac maent ar gael yma: (https://www.heacademy.ac.uk/system/files/new_writing_programme_specification.pdf).