Marchnata cynlluniau newydd

9. Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r polisi canlynol ar gyfer marchnata a chyhoeddi gwybodaeth am gynlluniau newydd.

10. Ni fydd cynlluniau yn cael eu hysbysebu ar dudalennau ‘chwilio am gwrs’ y Brifysgol, ac ni fyddant ar gael i ymgeiswyr trwy UCAS, hyd nes iddynt dderbyn cymeradwyaeth derfynol. Ni chaniateir unrhyw eithriad i’r polisi hwn.

11. Gellir hysbysebu pob cynllun newydd ym mhrosbectws printiedig y Brifysgol ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn sgil ystyriaeth gychwynnol gan y Panel Craffu Academaidd.

12. Mewn achosion eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) ganiatáu dulliau marchnata eraill ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’. Byddai hyn yn golygu bod yr adrannau yn gallu cynhyrchu taflenni print neu arddangos manylion ar wefannau adrannol neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Noder na fydd hyn yn cynnwys UCAS na thudalennau cyrsiau’r Brifysgol. Er mwyn gofyn i’r Dirprwy Is-Ganghellor ystyried caniatáu marchnata ehangach ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’, bydd angen i'r adrannau gwblhau cais yn y rhan berthnasol o’r Ffurflen Datblygu Cynllun. Dyma’r meini prawf ar gyfer penderfyniad gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr):

Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu dysgu yn Aberystwyth:

(i) Rhaid i o leiaf 75% o’r cynllun fod yn cael ei ddarparu eisoes trwy fodiwlau cyfredol

(ii) Mae’r holl adnoddau ar gyfer darparu’r cynllun yn bodoli eisoes

(iii) Cadarnhawyd teitl y cynllun eisoes, ac ni fydd unrhyw newid pellach.

Ni fydd marchnata ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn cael ei gymeradwyo os ystyrir y gallai teitl y cynllun gael ei drafod ymhellach a’i newid yn ystod cam y panel yn y broses cymeradwyo cynlluniau.

Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu darparu trwy bartneriaeth gydweithredol:

(i) Mae'r trefniant partneriaeth eisoes wedi'i gymeradwyo

(ii) Mae’r cynllun yn seiliedig ar ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn Aberystwyth ac ni fydd unrhyw addasu cynnwys na newid i’r teitl.