Rôl y Panel Craffu Academaidd

8. Panel Sefydlog yw'r Panel Craffu Academaidd ac mae'n adrodd i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Y Panel sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chynlluniau a gynigir, ond gall eu cyfeirio'n ôl at y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio neu ymlaen i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau os oes agweddau sylweddol sy'n peri pryder neu faterion ag iddynt ystyriaethau ehangach i'r Brifysgol. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn cadw golwg gyffredinol ar ddull gweithredu'r Panel Craffu Academaidd ac yn monitro effeithlonrwydd y prosesau Sicrhau Ansawdd.

9. Bydd y Panel yn gwneud yn sicr y bu digon o ymgynghori allanol wrth ddatblygu'r cynllun, er enghraifft ag arholwyr allanol cyfredol, ymgynghorwyr allanol yr adran, a chynrychiolwyr o gyrff proffesiynol neu achrededig. Bydd y Panel yn rhoi ystyriaeth fanwl i farn yr aseswr allanol, a fydd wedi gorfod cyflwyno adroddiad ysgrifenedig (SDF8) ymlaen llaw i’w ystyried gan y panel.  

10. Bydd cyfarfodydd y Panel Craffu Academaidd yn cael eu trefnu fel a ganlyn:

(i) Croeso gan y Cadeirydd

(ii) Crynodeb o'r cynllun gan yr adran(nau) sy'n ei gynnig

(iii) Trafodaeth gyffredinol, a fydd yn ystyried y cwestiynau canlynol ac yn ystyried anghenion yr holl fyfyrwyr:

    • A oes tystiolaeth fod galw am y cynllun ac a yw'r gofynion mynediad ar lefel briodol?
    • A yw amcanion a chanlyniadau dysgu'r cynllun yn briodol, yn arbennig yng nghyswllt y meincnodau pwnc perthnasol, y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru?
    • A yw cynnwys a chynllun y maes llafur yn briodol ar gyfer cyflawni amcanion dysgu arfaethedig y cynllun?
    • A yw'r maes llafur wedi'i drefnu fel bod y gofynion ar y dysgwr yn nhermau her ddeallusol, sgiliau, gwybodaeth, cysyniadoli, ac annibyniaeth wrth ddysgu yn cynyddu'n gyson?
    • A yw'r dulliau asesu yn addas i fesur graddfa cyflawni'r canlyniadau arfaethedig?
    • A oes adnoddau digonol, h.y. staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw ofynion arbenigol, i ddarparu'r cynllun yn effeithiol?
    • A oes gan y cynllun unrhyw nodweddion a fydd ag oblygiadau o ran ymarferoldeb, rheoli neu gyflenwi, neu o ran rheoliadau'r Brifysgol?

(iv) Trafodaeth gan y panel, ac ni fydd cynrychiolydd yr adran(nau) sy'n cynnig y cynllun yn bresennol yn y drafodaeth

(v) Penderfyniad.