Canlyniad y Panel Craffu Academaidd

13. Yn dilyn cyfarfod y panel, bydd Ysgrifennydd y Panel (aelod o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) yn paratoi cofnodion y cyfarfod mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd.

14. Dylai’r Adran sy’n cyflwyno’r cynnig lenwi blaenddalen pwyllgor mewn ymateb i'r cofnodion, gan roi manylion y diwygiadau a wnaed i'r cynnig gwreiddiol o ganlyniad i adborth y Panel Craffu Academaidd. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r ffurflenni SDF oni bai bod y Panel yn argymell gwneud hynny. Bydd cofnodion y Panel Craffu Academaidd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau.