4.13.5 Drws Trugaredd (Confensiynau Graddau Sylfaen)
1. Mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol wrth weithredu’r Drws Trugaredd:
Pwysau Marciau
2. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 1%* i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r gofynion hyn:
NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs, yn y dosbarth uwch neu drosodd
NEU
mae o leiaf 80 credyd o blith y 120 credyd olaf yn y dosbarth uwch neu drosodd.
3. At ddibenion y rheol hon, caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.