Terfynau Amser ac Estyniadau

1. Y disgwyl yw y bydd ymgeiswyr yn cyflwyno eu traethodau ymchwil o fewn y terfyn amser a osodir gan y rheoliadau. Gall y Brifysgol atal ymgeisyddiaeth neu estyn terfyn amser, ond dim ond mewn achosion eithriadol.

2. Fel arfer caiff ataliadau/estyniadau eu caniatáu ar sail dosturiol yn unig, neu mewn achosion o salwch, anawsterau domestig difrifol, ymrwymiadau proffesiynol gormodol neu anawsterau ymchwil na chawsant eu rhag-weld pan fo modd dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid cyflwyno achos llawn a rhesymegol, wedi ei gefnogi gan dystiolaeth feddygol addas neu dystiolaeth annibynnol arall, i'w ystyried gan y Brifysgol. Yn achos ymgeiswyr sy'n cyfeirio at ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid cyflwyno gyda'r cais gadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o'r pwysau gwaith eithriadol sydd ar yr ymgeisydd.

3. Rhaid cyflwyno datganiad clir, yn dangos bod yr adran berthnasol wedi asesu'r sefyllfa y mae'r ymgeisydd ynddi a'i bod yn ystyried bod y cais am estyniad yn briodol. Dylai hwn gynnwys amserlen waith yn arwain at gyflwyno o fewn y terfyn amser estynedig a gynigir. Dylai’r ymgeisydd hefyd ddarparu datganiad ysgrifenedig.

4. Rhaid cyfeirio ceisiadau am ataliadau/estyniadau drwy oruchwylydd a Chyfadran yr ymgeisydd i Ysgol y Graddedigion.