Cyflwyno ac Iaith y Traethawd Ymchwil

5. Heb fod yn hwy na thri mis cyn y disgwylir cyflwyno, bydd yr ymgeisydd yn llenwi ffurflen Bwriad i Gyflwyno, a bydd hynny’n cychwyn y gweithdrefnau ar gyfer arholi, gan gynnwys yr Adran/Cyfadran yn enwebu arholwr/arholwyr allanol. Disgwylir i arholwyr allanol gael eu penodi cyn cyflwyno. Bydd hyn yn sicrhau y gall y broses arholi ddechrau’n brydlon wedi cyflwyno.

6. At ddibenion yr arholiad, bydd ymgeiswyr yn cyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil a fydd yn cynnwys:

i. crynodeb heb fod yn hwy na thri chant o eiriau;
ii. datganiad, wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, yn dangos i ba raddau y mae'r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad ymchwil yr ymgeisydd ei hun; cydnabyddir ffynonellau eraill gan droednodiadau sy'n rhoi cyfeiriadau penodol. Rhaid cynnwys llyfryddiaeth lawn yn atodiad i'r gwaith;
iii. datganiad, wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, i dystio nad yw'r gwaith eisoes wedi ei dderbyn yn ei hanfod am unrhyw radd, ac nad yw’n cael ei gyflwyno yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd;
iv. datganiad wedi ei lofnodi ynghylch argaeledd y traethawd, yn nodi bod y traethawd ymchwil, os bydd yn llwyddiannus, ar gael i'w adneuo yng nghadwrfa ymchwil electronig y brifysgol ac ar gyfer ei fenthyg yn rhyng-lyfrgellol neu i'w lun-gopïo (yn ddarostyngedig i gyfraith hawlfraint), naill ai ar unwaith neu ar ôl diwedd unrhyw waharddiad neu embargo; ac y gellir trefnu bod y teitl a'r crynodeb ar gael i gyrff allanol. Os oes gweithiau creadigol yn rhan o’r cyflwyniad, dim ond y sylwebaeth feirniadol fydd yn cael ei chyhoeddi fel arfer. Bydd teitl a chrynodeb o’r traethawd ymchwil ar gael am ddim.

7. Mae ymgeisydd yn rhydd i gyhoeddi'r cyfan neu ran o'r gwaith a gynhyrchir yn ystod cyfnod cofrestru'r ymgeisydd yn y Brifysgol cyn ei gyflwyno fel traethawd ymchwil cyfan, neu ran o draethawd ymchwil. Gellir ymgorffori'r cyfryw waith cyhoeddedig yn y traethawd ymchwil a gyflwynir i'r Brifysgol yn nes ymlaen.

8. Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n dilyn cynllun astudio neu ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'n ofynnol i ymgeisydd sy'n dymuno cael ei asesu neu ei hasesu mewn iaith (h.y. y Gymraeg neu'r Saesneg) heblaw prif iaith yr hyfforddi/asesu ar gyfer y cynllun o dan sylw hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Yna dylai'r swyddog enwebedig gysylltu â Chadeirydd y Bwrdd Arholi ynghylch y canlynol:

i. y cyfryw drefniadau y bydd eu hangen o bosibl (e.e. darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd) ar gyfer yr arholiad llafar;
ii. y trefniadau angenrheidiol, y mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo – ar gais Cadeirydd y Bwrdd Arholi – gan yr arholwr neu'r arholwyr, ar gyfer cyfieithu a/neu farcio’r gwaith;
iii. cyflogi person neu bersonau addas i weithredu fel arholwr neu arholwyr ymgynghorol neu – am ffi gymeradwyedig – fel cyfieithydd neu gyfieithwyr.

9. Ar adegau, gellir barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw'r Gymraeg / Saesneg am resymau ysgolheigaidd. Yn y cyfryw achosion, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion ganiatáu cyflwyniad o'r fath, lle bydd achos rhesymedig wedi ei wneud i'w gymeradwyo, fel rheol cyn i'r ymgeisydd gofrestru ar gyfer astudio. Rhaid i’r adran amlinellu trefniadau addas ar gyfer goruchwylio ac arholi’r traethawd ymchwil er mwyn cadarnhau na fydd cyfaddawdu ar ansawdd profiad dysgu’r myfyriwr na safonau’r dyfarniad. Ni chymeradwyir ceisiadau sy'n seiliedig ar ddiffyg gallu'r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno yn naill ai'r Gymraeg neu'r Saesneg.

10. Disgwylir i ymgeiswyr sy'n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu â bodloni'r arholwyr o'r blaen ailgyflwyno dau eu traethawd ymchwil diwygiedig ynghyd â'r dogfennau hynny a nodir ym mharagraff 6 uchod.

11. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar gyflwyno'r traethodau ymchwil yn y Canllawiau a roddir i ymgeiswyr sydd ar fin cyflwyno eu traethawd ymchwil.

12. Os yw'n fodlon bod achos prima facie dros gyfeirio'r traethawd ymchwil i'w arholi'n fanwl, bydd Ysgol y Graddedigion sicrhau bod y traethawd ymchwil ar gael i’r ddau arholwr. Ni ddylai’r adran na’r ymgeisydd anfon y traethawd ymchwil yn syth at yr arholwr. Mae hyn yn wir hefyd yn achos ailgyflwyno.

13. Ni chaiff ymgeisydd ddiwygio'r traethawd ymchwil, ychwanegu ato na dileu ohono ar ôl ei gyflwyno.