Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi

14. Bydd pob Bwrdd Arholi yn cynnwys:

  • Cadeirydd;
  • Arholwr allanol;
  • Naill ai arholwr mewnol neu ail arholwr allanol.

15. Yn achos arholi ymgeisydd sy'n aelod o'r staff, bydd dau arholwr allanol ac ni fydd arholwr mewnol. Bydd y rheoliad hwn yn gymwys i ymgeiswyr a oedd yn aelodau o staff yn ystod eu cyfnod cofrestru, a hefyd i’r rheini sy’n dod yn aelodau o staff ar ôl cwblhau cofrestriad myfyriwr ond cyn cyflwyno. Diben hyn yw sicrhau bod yr arholwyr yn wrthrychol, ac yn cael eu gweld felly, ac er mwyn osgoi unrhyw anawsterau y gallai’r ymgeisydd neu’r arholwr eu hwynebu os ydynt yn gyd-weithwyr. Pan mae ymgeiswyr wedi dod yn aelodau o’r staff ar ôl cofrestriad fel myfyriwr, a phan mae natur neu leoliad eu cyflogaeth yn golygu y byddai arholwr mewnol a gynigir yn amlwg yn wrthrychol, gellir cyflwyno’r achos i Bennaeth Ysgol y Graddedigion y dylid cynnal yr arholiad gydag un arholwr mewnol ac un arholwr allanol.

16. Bydd ymgeiswyr sydd, neu sydd yn dyfod ar adeg cyflwyno, yn aelodau o staff mewn sefydliad neu Brifysgol arall yn cael eu harholi fel yn achos ymgeisyddiaethau myfyriwr (h.y. fel arfer gydag un arholwr allanol ac un arholwr mewnol).

17. Gall Penaethiaid Adrannau enwebu aelod uwch o’u staff academaidd i weithredu fel Cadeirydd Bwrdd Arholi. Pan fo Pennaeth Adran/Athrofa hefyd yn oruchwylydd i’r ymgeisydd o dan sylw, rhaid iddynt ddirprwyo’r dasg hon. Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi, a bydd yn gyfrifol am y modd y cynhelir yr arholiad. Bydd y Cadeirydd:

• fel arfer yn Uwch-ddarlithydd neu’n uwch neu â phrofiad addas ar gyfer y rôl;
• fel arfer yn dod o adran(nau) y myfyriwr, ond gellir ei ddewis o adran arall os na ellir canfod unrhyw un addas, er enghraifft, oherwydd gwrthdaro buddiannau neu’r angen am siaradwr Cymraeg;
• yn brofiadol yn goruchwylio ac arholi ymgeiswyr PhD;
• yn gyfarwydd â’r rheoliadau ar gyfer arholiadau llafar ar draethodau ymchwil.

18. Bydd yr arholwr/arholwyr allanol yn cael ei benodi/eu penodi yn unol â darpariaethau Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol. Rhaid iddynt fod yn ymwybodol o natur a phwrpas y radd yr arholir yr ymgeisydd ar ei chyfer a meddu ar wybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn nhestun yr ymchwil. Amlinellir meini prawf eraill ar gyfer eu penodi yn y Llawlyfr.

19. Ni ddylid penodi arholwyr allanol y bu ganddynt gysylltiad helaeth â'r ymgeisydd. Mewn achosion lle bu cysylltiad helaeth, dylid rhoi gwybod am fanylion natur y cysylltiad i Ysgol y Graddedigion ei ystyried yn ystod y broses benodi. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau ar gyfer byrddau arholi a’r ffurflen Bwriad i Gyflwyno.

20. Dylai’r arholwr mewnol fel arfer:

  • fod yn aelod o staff o adran(nau) y myfyriwr, ond gellir ei ddewis o adran gytras lle bo hynny’n addas neu’n ofynnol.
  • fod â PhD;
  • fod â phrofiad o oruchwylio o leiaf un myfyriwr PhD hyd at gwblhau’n llwyddiannus.

21. Os, o dan amgylchiadau eithriadol, y bydd yn amhosibl penodi arholwr mewnol addas o’r Brifysgol, gall Ysgol y Graddedigion gymeradwyo penodi ail arholwr allanol yn lle arholwr mewnol, wedi’i enwebu gan yr Adran. Dylid bod wedi cymryd pob cam i benodi arholwr mewnol cyn i ail arholwr allanol gael ei ystyried.

22. Ni cheir penodi goruchwylydd yr ymgeisydd yn arholwr mewnol, er y caiff, gyda chaniatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw, gael ei wahodd gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi i fod yn bresennol yn yr arholiad llafar mewn capasiti ymgynghorol.

23. Gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi wahodd unigolion addas eraill i fynychu’r arholiad llafar mewn capasiti ymgynghorol.

24. Dylai'r arholwyr gael traethawd ymchwil yr ymgeisydd ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig a'r canllawiau sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arholiad. Gofynnir i'r Cadeirydd, a'r arholwyr, nodi bod y Brifysgol yn disgwyl, fel arfer, y dylid cwblhau arholi’r ymgeisydd o fewn cyfnod o ddeuddeg wythnos waith o ddyddiad anfon y traethawd ymchwil i'r arholwyr.