2. Diffiniad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

2.1 Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yw cyflawni unrhyw weithred lle gall unigolyn sicrhau mantais na chaniateir iddo ef/iddi hi ei hun neu i rywun arall. Bydd y Rheoliad hwn yn berthnasol, a gellir canfod bod myfyriwr wedi cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, beth bynnag fo bwriad y myfyriwr a chanlyniad y weithred, a boed y myfyriwr yn gweithredu ar ei ben/phen ei hun neu ar y cyd ag unigolyn arall/unigolion eraill. Gellir cynnwys unrhyw weithredoedd yn y diffiniad hwn, boed hwy’n digwydd yn ystod neu mewn perthynas ag arholiad ffurfiol, darn o waith cwrs, cyflwyno tystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall i Fyrddau Arholi, neu unrhyw fath ar asesiad a wneir wrth ymgeisio am gymhwyster neu ddyfarniad gan y Brifysgol.

2.2 Mae'r Brifysgol yn cydnabod y categorïau canlynol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a gall achosion eraill ddod o fewn i ddiffiniad cyffredinol Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

(i) Llên-ladrad

Y diffiniad o lên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno gan honni mai eich gwaith eich hun ydyw. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys

  • dyfynnu heb ddefnyddio dyfynodau
  • copïo gwaith rhywun arall
  • cyfieithu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny
  • aralleirio neu addasu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny'n gywir
  • defnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho o'r rhyngrwyd heb gydnabod hynny
  • defnyddio deunydd a gafwyd gan fanc traethodau neu asiantaethau tebyg
  • cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun

(ii) Cydgynllwynio

Mae cydgynllwynio'n digwydd pan fydd gwaith a gyflawnir gan eraill neu gydag eraill yn cael ei gyflwyno gan honni mai gwaith un unigolyn ydyw. Os yw gwaith un neu fwy o unigolion yn cael ei gyflwyno yn enw rhywun arall a bod yr awdur/awduron gwreiddiol yn ymwybodol o hynny, mae'n bosibl yr ystyrir bod pawb fu ynghlwm â hyn yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

Mae’n bosibl yr ystyrir bod myfyrwyr sy'n llwytho copïau o'u haseiniadau eu hunain (neu aseiniadau pobl eraill) i safleoedd rhannu ffeiliau academaidd wedi cyflawni ymddygiad academaidd annerbyniol ar y sail bod gweithgaredd o'r fath yn hwyluso llên-ladrad ac yn gyfystyr â chydgynllwynio, ac eithrio lle caniateir hyn yn benodol gan yr adran

Mae enghreifftiau o gydgynllwynio yn cynnwys

  • Dau neu fwy o fyfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cyflwyno'r gwaith fel eu gwaith eu hunain
  • Rhannu data neu wybodaeth arall sy'n cael ei chyflwyno heb yn wybod i’r awduron gwreiddiol neu heb eu cydnabod
  • Rhannu atebion yn ystod arholiad neu asesiad wedi'i amseru ar-lein
  • Cyflwyno enghreifftiau o waith i wefannau rhannu ffeiliau academaidd

(iii) Ffugio tystiolaeth neu ddata

Mae ffugio tystiolaeth neu ddata a/neu ddefnyddio tystiolaeth neu ddata o'r fath mewn gwaith i'w asesu yn cynnwys gwneud honiadau ffug mai chi gyflawnodd arbrofion, arsylwadau, cyfweliadau neu ddulliau eraill o grynhoi a dadansoddi data. Mae ffugio tystiolaeth neu ddata a/neu ddefnyddio tystiolaeth neu ddata o'r fath hefyd yn cynnwys cyflwyno tystiolaeth ffug neu dystiolaeth a ffugiwyd ynglŷn ag amgylchiadau arbennig i Banel Apêl neu Fwrdd Arholi.

(iv) Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiadau ffurfiol

Mae enghreifftiau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiadau ffurfiol yn cynnwys y canlynol:

  • mynd ag unrhyw ffurf anawdurdodedig ar ddeunydd i mewn i ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig, megis llyfr, llawysgrif, data neu bapurau rhydd, dyfais electronig, gwybodaeth a geir trwy unrhyw ddyfais electronig, neu unrhyw ffynhonnell o wybodaeth anawdurdodedig, ni waeth a yw'r deunyddiau hyn yn berthnasol i'r pwnc dan sylw ai peidio
  • copïo gwaith gan, neu gyfathrebu ag, unrhyw berson arall yn yr ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig, ar wahân i'r hyn a awdurdodir gan oruchwyliwr
  • cyfathrebu'n electronig ag unrhyw un arall, ar wahân i'r hyn a awdurdodir gan oruchwyliwr
  • esgus bod yn ymgeisydd penodol mewn arholiad neu ganiatáu i rywun arall gymryd eich lle gan esgus mai chi ydyw
  • cyflwyno sgript arholiad gan honni mai eich gwaith chi ydyw, er bod y sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau anawdurdodedig
  • peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig i ymgeiswyr mewn arholiadau ffurfiol, nac â chyfarwyddiadau llafar gan oruchwylwyr yr arholiadau

Ystyrir bod dyfais electronig o fewn y Rheoliad os yw’n gallu gwneud unrhyw un o'r pethau canlynol: cyfathrebu’n electronig o fewn neu oddi allan i ystafell arholi, cysylltu â’r rhyngrwyd, dal data neu wybodaeth ddigidol, gwneud recordiadau sain, cadw cof digidol neu recordiadau sain, llwytho data neu wybodaeth ddigidol i ddyfais arall, arddangos data neu wybodaeth ddigidol neu chwarae recordiadau sain.

Bydd pob un o’r canlynol yn cael eu hystyried yn y categori hwn, ond nid yw’r rhestr yn gyflawn a bydd dyfeisiau eraill nas manylir yn eu cylch yn dod o fewn y Rheoliad: ffôn symudol, oriawr glyfar, gliniadur, cyfrifiadur llechen, dyfais storio data, derbynnydd bluetooth, clustffonau, i-pod, cyfrifiannell electronig ac eithrio’r rhai a ganiateir yn benodol ar gyfer arholiadau prifysgol.

(v) Ailgylchu data neu destun

Ailgylchu data neu destun mewn mwy nag un asesiad, pan fo'r Adran yn benodol yn peidio â chaniatáu hyn.