3. Adroddiad am Amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn Arholiadau

3.1 Os amheuir bod myfyriwr yn cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiad ffurfiol, dylid rhoi gwybod i'r myfyriwr, ym mhresenoldeb tyst os oes modd, y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ynglŷn â'r amgylchiadau. Dylid caniatáu, fodd bynnag, i'r myfyriwr barhau â'r arholiad ac unrhyw arholiad(au) wedi hynny heb ragfarnu unrhyw benderfyniad y gellid ei wneud. Fodd bynnag, nid yw methu â rhoi rhybudd o'r fath yn rhagfarnu'r camau a gymerir wedi hynny.

3.2 Pan fydd ymgeisydd yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig neu lafar mewn arholiad dylai'r goruchwyliwr roi gwybod i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) am yr amgylchiadau, a bydd ef/hi yn cyfweld â'r myfyriwr ac yn penderfynu ar gosb (gweler adran 7).

3.3. Os canfyddir bod gan fyfyriwr yn ei feddiant/meddiant unrhyw ddyfais electronig anawdurdodedig (yn unol â’r diffiniad yn adran 2.1 (iv)), nad yw wedi cael ei defnyddio neu lle na cheir unrhyw dystiolaeth ei bod wedi cael ei defnyddio, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y ddyfais ac yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau). Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn cyfweld â'r myfyriwr ac yn penderfynu a ddylid pennu cosb (gweler adran 7).

3.4 Os ceir amheuaeth/tystiolaeth bod y ddyfais electronig wedi cael ei defnyddio o bosibl, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y ddyfais ac yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) a fydd, cyn gynted â phosibl, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd, i'r Gofrestrfa Academaidd i'w gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.

3.5 Os canfyddir bod gan fyfyriwr ddeunydd anawdurdodedig, ac y gellir gweld yn amlwg nad yw'n berthnasol i'r papur arholiad, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y deunydd ac yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau), a fydd yn cyfweld â'r myfyriwr ac yn penderfynu a yw'r achos yn cael ei gadarnhau.

3.6 Os ceir amheuaeth/tystiolaeth bod y deunydd anawdurdodedig yn uniongyrchol berthnasol i'r arholiad, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y deunydd a bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau), cyn gynted â phosibl, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd, i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn ei gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.

3.7 Mewn achosion lle bydd myfyriwr wedi ysgrifennu ar ei gorff/chorff, gellir tynnu llun o hynny yn dystiolaeth.

3.8 Gall y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) ofyn i aelod o staff o'r adran academaidd ddod i'r arholiad a chadarnhau a yw'r deunydd anawdurdodedig yn berthnasol i'r pwnc/arholiad.

3.9 Pan fydd goruchwyliwr yn amau mathau eraill o ymddygiad academaidd annerbyniol na restrwyd uchod, rhoddir gwybod am hyn i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) a fydd, cyn gynted â phosibl, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd, i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn ei gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.